Skip to main content

Platiau rhif preifat (personol)

Sgipio cynnwys

Newid eich enw neu gyfeiriad

Os yw eich rhif preifat (personol) eisoes wedi’i aseinio i gerbyd, mae dim ond angen ichi newid eich cyfeiriad ar eich llyfr log cerbyd (V5CW).

Os nad yw’r rhif wedi’i aseinio, mae angen ichi newid eich enw neu gyfeiriad ar eich tystysgrif hawl V750W neu dystysgrif gadw V778W.

Pan fyddwch yn derbyn eich V750W neu V778W newydd, dylech ddinistrio’r holl ddogfennau a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd nad ydynt bellach yn ddilys ac na ellir eu defnyddio ar-lein neu i hysbysu DVLA am unrhyw newid.

Newid eich cyfeiriad ar-lein - V750W yn unig

Defnyddiwch eich cyfrif rhifau cofrestru personol DVLA.

Newid eich cyfeiriad drwy’r post - V750W neu V778W

Llenwch yr adran ‘newid cyfeiriad’ ar eich V750W neu V778W. Llofnodwch hi a’i hanfon i Rhifau Cofrestru Personol DVLA. Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r gost postio gywir.

Rhifau Cofrestru Personol DVLA  
Abertawe 
SA99 1DS  

Os nad oes gennych eich V750W neu V778W

Ysgrifennwch lythyr sy’n esbonio pam nad oes gennych y V750W neu V778W. Llofnodwch ef a’i anfon i Rhifau Cofrestru Personol DVLA ynghyd â phrawf o’ch cyfeiriad newydd. Gall hyn fod yn gopi o’r canlynol:

  • bil cartref a anfonwyd atoch yn y 3 mis diwethaf

  • eich bil Treth Gyngor ar gyfer eleni

  • cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu a anfonwyd atoch yn y 3 mis diwethaf

  • cerdyn meddygol

  • eich trwydded yrru Brydeinig gyfredol

Newid eich enw drwy’r post - V750W neu V778W

Dim ond drwy’r post y gallwch newid eich enw. Anfonwch eich V750W neu V778W ynghyd â llythyr sy’n dweud beth yw eich enw newydd.

Os nad oes gennych eich V750W neu V778W, esboniwch hyn yn eich llythyr.

Llofnodwch ef a’i anfon i Rhifau Cofrestru Personol DVLA ynghyd â phrawf o’ch newid enw. Gall hyn fod yn gopi o’r canlynol:

  • eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil

  • eich dogfen ysgariad neu ddiwedd partneriaeth sifil (archddyfarniad amodol, archddyfarniad absoliwt, gorchymyn amodol neu orchymyn terfynol)

  • gweithred newid enw i ddangos eich bod wedi newid eich enw yn gyfreithiol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu’r gost postio gywir.

Rhifau Cofrestru Personol DVLA  
Abertawe 
SA99 1DS