Paratoi ffurflen datganiad blynyddol elusen
Rhaid i elusennau sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru neu Loegr anfon ffurflen flynyddol i’r Comisiwn Elusennau neu adrodd ar eu hincwm a gwariant bob blwyddyn.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mewngofnodwch i gyflwyno eich datganiad blynyddol
Mae’n rhaid i chi fod wedi sefydlu Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau eich hun, gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost a chyfrinair unigol, i gael mynediad at wasanaethau ar ran elusen.
Os ydych eisoes wedi sefydlu’ch cyfrif newydd, gyda gwybodaeth mewngofnodi bersonol, gallwch lofnodi i mewn i gyflwyno datganiad blynyddol eich elusen.
Pryd i gyflwyno eich datganiad blynyddol
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad blynyddol o fewn 10 mis i ddiwedd eich blwyddyn ariannol.
Er enghraifft, os mai diwedd eich blwyddyn ariannol yw 31 Rhagfyr, eich dyddiad cau yw 31 Hydref y flwyddyn ganlynol.
Beth sydd ei angen ar gwmnïau elusennol a sefydliadau anghorfforedig i gyflwyno
Mae trothwyoedd cyfrifo yn newid. Darllenwch y canllawiau i gael gwybodaeth am y newidiadau sy’n berthnasol i flynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026.
Incwm o dan £10,000
Dim ond eich incwm a’ch gwariant sydd angen i chi ei adrodd.
Dewiswch ‘Datganiad blynyddol’ o’r gwasanaethau sydd ar gael i chi pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif.
Incwm rhwng £10,000 a £25,000
Mae’n rhaid i chi ateb cwestiynau am eich elusen mewn datganiad blynyddol.
Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw ddogfennau eraill.
Incwm dros £25,000
Mae’n rhaid i chi ateb cwestiynau am eich elusen mewn datganiad blynyddol.
Bydd angen i chi ddatgan nad oes unrhyw ddigwyddiadau difrifol nad ydych wedi rhoi gwybod i ni amdanynt. Rhowch wybod am ddigwyddiadau difrifol cyn i chi gyflwyno eich datganiad blynyddol.
Bydd angen i chi ddarparu copïau o’ch:
- adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr
- cyfrifon
- adroddiad yr archwiliwr annibynnol neu adroddiad archwyilydd – os oes angen i’ch elusen cael ei chyfrifon wedi eu hymchwilio gan archwiliwr annibynnol neu gan archwyilydd
Darganfyddwch pa fath o gyfrifon sydd angen i chi eu paratoi ac os oes angen archwiliwr annibynnol neu adroddiad archwyilydd.
Paratowch eich adroddiad blynyddol a chyfrifon yn gyntaf. Yna gallwch eu huwchlwytho pan fyddwch chi’n cwblhau eich datganiad blynyddol.
Beth sydd ei angen ar sefydliadau elusennau corfforedig i gyflwyno
Mae trothwyoedd cyfrifo yn newid. Darllenwch y canllawiau i gael gwybodaeth am y newidiadau sy’n berthnasol i flynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Medi 2026.
Mae’n rhaid i chi ateb cwestiynau am eich elusen mewn datganiad blynyddol.
Bydd angen i chi ddarparu copïau o’ch:
-
cyfrifon
-
adroddiad yr archwiliwr annibynnol neu adroddiad archwyilydd – os oes angen i’ch elusen cael ei chyfrifon wedi eu hymchwilio gan archwiliwr annibynnol neu gan archwyilydd
Os yw eich incwm dros £25,000 mae angen hefyd i chi:
- datgan nad oes unrhyw ddigwyddiadau difrifol nad ydych wedi rhoi gwybod i ni amdanynt. Rhowch wybod am ddigwyddiadau difrifol cyn i chi gyflwyno eich datganiad blynyddol
Darganfyddwch pa fath o gyfrifon sydd angen i chi eu paratoi ac os oes angen archwiliwr annibynnol neu adroddiad archwyilydd.
Paratowch eich adroddiad blynyddol a chyfrifon yn gyntaf. Yna gallwch eu huwchlwytho pan fyddwch chi’n cwblhau eich datganiad blynyddol.
Cwestiynau yn y datganiad blynyddol
Mae’r cwestiynau a ofynnir i chi yn dibynnu ar eich incwm, y math o elusen a beth mae’r elusen yn ei wneud.
Gwiriwch y cwestiynau yn y datganiad blynyddol cyn i chi ddechrau.
2025 datganiad blynyddol
Gweler Canllaw cwestiynau Datganiad Blynyddol Elusennau 2025
2023 a 2024 datganiad blynyddol
Gweler Canllaw cwestiynau Datganiad Blynyddol Elusennau 2024
Datganiadau blynyddol 2022
Diwygio ffurflen flynyddol
Rhaid i’r elusen ei hun gwblhau’r ffurflen flynyddol, ac ni all y Comisiwn Elusennau wneud gwelliannau ar eich rhan. Os oes angen i chi newid unrhyw wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r ffurflen flynyddol, rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig i ofyn am ailosodiad llawn. Ar ôl yr ailosodiad, bydd angen i’r elusen gwblhau’r ffurflen flynyddol eto ac ailgyflwyno’r holl fanylion gofynnol.
Diwygio cyfrifon wedi’u llwytho i fyny
Os oes angen i chi ddiweddaru neu ddisodli eich cyfrifon, gallwch wneud hyn trwy ail-lwytho’r dogfennau i fyny trwy eich Cyfrif Fy Nghomisiwn Elusennau. Nid oes angen ailosodiad.
Nodyn pwysig
Pan fydd ffurflen flynyddol yn cael ei hailgyflwyno, bydd y dyddiad cyflwyno newydd yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus. Os yw’r dyddiad ar ôl diwedd blwyddyn ariannol yr elusen, bydd y cyflwyniad yn ymddangos fel un hwyr.
Hysbysiad preifatrwydd
Darllenwch hysbysiad preifatrwydd y datganiad blynyddol cyn i chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Mae’ch cyfrinair yn rhoi mynediad i bobl yn eich elusen i wybodaeth fanwl am eich elusen ac unigolion sy’n gysylltiedig ag ef. Wrth roi mynediad i’r cyfrinair hwn, rhowch fesurau ar waith i sicrhau:
- dim ond at ddibenion priodol y defnyddir y system
- bydd gwybodaeth a gyrchir drwy wasanaethu’r Comisiwn yn cael ei thrin yn ofalus ac yn sensitif, yn unol â’r gyfraith, gan gynnwys y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)