Canfod a oes gan rywun dwrnai neu ddirprwy cofrestredig
Ffurflen i ganfod a oes gan rywun atwrnai neu ddirprwy’n gweithredu ar eu rhan.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Canfod a oes gan rywun dwrnai neu ddirprwy cofrestredig
Defnyddiwch y ffurflen hon i ganfod a oes gan rywun atwrneiaeth arhosol (LPA), atwrneiaeth barhaus (EPA), ynteu dirprwy a benodwyd gan y llys yn gweithredu ar eu rhan.
Hefyd, gallwch ddefnyddio’r un ffurflen i ofyn am wybodaeth ychwanegol all fod ar wahân i’r cofrestrau.
Canfod a oes gwarcheidwad gan rywun
Defnyddiwch y ffurflen hon i gael gwybod a yw’r Uchel Lys wedi penodi gwarcheidwad i ofalu am faterion ariannol rhywun sydd:
- ar goll
- mewn carchar dramor ac yn methu cyfathrebu
- wedi cael ei gymryd yn wystl neu ei herwgipio
Gallwch hefyd ddefnyddio’r un ffurflen i ofyn i ni am wybodaeth ychwanegol am orchymyn gwarcheidwaeth.
Ymholiadau brys
I chwilio’r gofrestr ar frys, dylai awdurdodau lleol, yr heddlu a staff y GIG godi ymholiad i weld a oes gan rywun atwrnai neu ddirprwy.
Gwybodaeth bersonol
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ymroddedig i drin eich data personol mewn ffordd gyfrifol a’i gadw’n ddiogel.
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac mae’n cael ei ddiogelu yn y gyfraith gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).