Skip to main content
Ffurflen

Ffurflen gais am Daliad Costau Angladd

Defnyddiwch y ffurflen gais oedolyn neu blentyn a nodiadau i wneud cais am Daliad Treuliau Angladd trwy'r post.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Dogfennau

Ffurflen Gais Taliadau Costau Angladd o’r Gronfa Gymdeithasol: oedolyn

Nodiadau Taliad Costau Angladd o’r Gronfa Gymdeithasol: oedolyn

Ffurflen GaisTaliadau Costau Angladd o’r Gronfa Gymdeithasol: plentyn

Nodiadau Taliad Costau Angladd o’r Gronfa Gymdeithasol: plentyn

Manylion

Y ffordd hawsaf i wneud cais am Daliad Costau Angladd yw dros y ffôn.

Cysylltwch â llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth i wneud cais dros y ffôn. Bydd cynghorydd hefyd yn eich helpu i wneud cais am unrhyw fudd-daliadau profedigaeth eraill efallai y bydd gennych hawl iddynt. 

Beth i wneud gyda’r ffurflen a dogfennau 

Gallwch hefyd wneud cais trwy’r post. Anfonwch gopi o’r ffurflen ac unrhyw ddogfennau i:

Freepost DWP Funeral Payments

Nid oes angen i chi ddefnyddio cod post neu stamp.

Gallwch hefyd gymryd y ffurflen ac unrhyw ddogfennau i’ch canolfan gwaith agosaf.

Am help a chyngor ar y wybodaeth bydd angen i chi roi ar y ffurflen neu am y budd-dal rydych chi eisiau ei hawlio, cysylltwch â llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth

Cyn i chi ddechrau’r ffurflen hon

Os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu dabled

Nid oes modd i chi gwblhau’r ffurflen gan ddefnyddio ffôn symudol neu dabled. Rhaid i chi naill ai::

  • defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur
  • argraffu’r ffurflen a’i chwblhau â llaw  

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur

Defnyddiwch ddarllenwr PDF i agor a llenwi’r ffurflen hon. Gallwch lawrlwytho darllenwr PDF am ddim ar-lein.

Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenwr sgrîn i gael mynediad i’r ffurflen, rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r nodiadau a’r cwestiynau ar y ffurflen cyn i chi ei chwblhau. Wrth i chi gwblhau’r ffurflen, byddwch yn cael eich arwain trwy’r cwestiynau yn seiliedig ar yr ymatebion rydych yn eu rhoi. 

Peidiwch â defnyddio porwr eich cyfrifiadur, neu os ydych yn defnyddiwr Apple Macintosh, y cymhwysiad Preview.

Gallwch arbed data sydd wedi’i deipio yn y ffurflen hon os ydych yn defnyddio darllenwr PDF. Mae hwn yn meddwl nad oes angen i chi lenwi’r ffurflen mewn un sesiwn.

Mae trafferthion dibynadwyedd gyda rhai meddalwedd cynorthwyol, a all feddwl ni fydd y ffurflen yn arbed yn gywir.

Bydd y ffurflen hon dim ond yn arbed os:

  • mae wedi arbed ar eich cyfrifiadur
  • mae wedi agor mewn fersiwn diweddar o ddarllenwr PDF

Ni fydd y ffurflen yn arbed mewn:

  • fersiynau o Acrobat Reader sy’n hŷn na fersiwn XI
  • rhai darllenwr PDF eraill, er enghraifft Preview ar Mac neu Foxit ar PC

Os ydych angen y ffurflen hon mewn fformat gwahanol

Cysylltwch â llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth i ofyn am:

  • gopi o’r ffurflen wedi’i hargraffu 
  • fformat gwahanol, fel print mawr, braille neu CD sain

Argraffu'r dudalen hon