Skip to main content
Canllawiau

Treth cerbyd ar gyfer cerbydau trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel

Sut mae'r newidiadau treth cerbyd (VED) yn effeithio ar eich cerbyd.

Mae angen ichi dalu treth cerbyd os oes gennych gar, fan neu beic modur trydan, di-allyriadau neu allyriadau isel. Cyflwynwyd y newid hwn ar 1 Ebrill 2025 ac mae’n berthnasol i gerbydau newydd a phresennol. Mae’r swm y bydd angen ichi ei dalu yn dibynnu ar y math o gerbyd a phryd y cafodd ei gofrestru.

Mae’r cyfraddau treth cerbyd canlynol yn berthnasol o 1 Ebrill 2026 tan 31 Mawrth 2027.

Sut mae’r newidiadau yn effeithio ar eich cerbyd

Ceir trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025

Byddwch yn talu £10 am y flwyddyn gyntaf. Ar ôl hynny, byddwch yn talu’r gyfradd safonol o £200.

Ceir trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel a gofrestrwyd rhwng 1 Ebrill 2017 ac 31 Mawrth 2025

Byddwch yn talu’r gyfradd safonol o £200.

Ceir trydan, di-allyriadau ac allyriadau isel a gofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2001 ac 31 Mawrth 2017

Byddwch yn talu’r gyfradd safonol o £20.

Cerbydau hybrid a cherbydau a daniwyd mewn ffordd amgen (AFVs)

Mae’r gostyngiad blynyddol o £10 ar gyfer cerbydau hybrid ac AFVs wedi cael ei ddileu. Mae’r gyfradd rydych yn ei thalu yn dibynnu ar bryd y cofrestrwyd y cerbyd am y tro cyntaf. Os cofrestrwyd y cerbyd:

Faniau trydan

Mae’r rhan fwyaf o faniau trydan wedi symud i’r gyfradd flynyddol safonol ar gyfer cerbydau nwyddau ysgafn. Gwiriwch y cyfraddau ar gyfer y cerbydau hyn.

Beiciau modur trydan

Mae beiciau modur trydan a beiciau tair olwyn trydan wedi symud i’r gyfradd flynyddol ar gyfer maint lleiaf yr injan. Gwiriwch y cyfraddau ar gyfer y cerbydau hyn.

Cyfradd ychwanegol (tâl atodol ceir drud)

Os oes gennych gerbyd trydan neu gerbyd di-allyriadau a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025 gyda phris catalog o fwy na £50,000, bydd angen ichi dalu’r:

  • gyfradd safonol
  • cyfradd ychwanegol

Mae’r gyfradd ychwanegol yn berthnasol am 5 mlynedd, yn dechrau o’r ail flwyddyn o dreth cerbyd.

Argraffu'r dudalen hon