Cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os ydych yn asiant, mae ffordd wahanol o gofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Mae angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen, os yw cyfanswm eich incwm blynyddol o hunangyflogaeth ac eiddo dros £50,000.
Incwm cymhwysol yw cyfanswm eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo. Dyma’r swm cyn treuliau (a elwir hefyd yn trosiant), yn seiliedig ar y Ffurflen Dreth a gyflwynoch yn y flwyddyn dreth flaenorol.
Os yw’ch incwm cymhwysol yn is na hyn, dysgwch a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny.
Ni ofynnir i chi am eich ffynonellau eraill o incwm nac enillion yn y gwasanaeth cofrestru. Pan fyddwch yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, byddwch yn ychwanegu’r rhain at eich meddalwedd sy’n cydweddu cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Pryd i gofrestru
Os oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o flwyddyn dreth 2026 i 2027 ymlaen, dylech gofrestru nawr.
Yn seiliedig ar y manylion yr ydych yn eu rhoi, bydd CThEF yn gwirio a ydych yn gymwys i gofrestru.
Os ydych yn defnyddio asiant, gall eich cofrestru ar eich rhan.
Bydd yn dal i fod angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth cyn i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
I gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud y canlynol:
-
cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
-
cyflwyno Ffurflen Dreth yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf
Os ydych chi’n cofrestru’n wirfoddol
Gallwch gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm cyn bod angen i chi ei ddefnyddio, er mwyn eich helpu i baratoi. Gallwch gofrestru ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol neu’r flwyddyn dreth nesaf.
Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2027 ymlaen, ond gallwch gofrestru a gwirfoddoli nawr.
Bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn anfon unrhyw ddiweddariadau chwarterol coll ar gyfer y flwyddyn hyd yma.
Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn cofrestru
O fis Medi 2026 ymlaen, os bydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 a’ch bod heb gofrestru, bydd CThEF yn mynd ati i’ch cofrestru. Os ydym wedi’ch cofrestru, gallwch ddysgu beth i’w wneud nesaf.
Os nad ydym wedi’ch cofrestru, mae gennych amser i gofrestru o hyd neu gallwch ofyn i’ch asiant wneud hynny ar eich rhan.
Pan fyddwch chi’n cofrestru, gallwch wneud yn siŵr bod eich manylion yn gywir o’r cychwyn cyntaf drwy:
- sicrhau bod eich ffynonellau incwm yn gyfredol
- nodi’ch amgylchiadau diweddaraf yn y gwasanaeth
Pan fydd CThEF yn eich cofrestru, dim ond yr wybodaeth sydd gennym amdanoch eisoes rydym yn ei defnyddio. Mae’n bosibl na fydd yr wybodaeth honno’n cynnwys unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau ers i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ddiwethaf.
Efallai y bydd angen i chi ddiweddaru’ch gwybodaeth yn y gwasanaeth neu gysylltu â CThEF, yn dibynnu ar y newidiadau sydd eu hangen.
Cyn i chi gofrestru
Gwiriwch a allwch fod wedi’ch esemptio rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Os ydych wedi’ch esemptio, ni fydd angen i chi gofrestru.
Dylech ddarllen y canllaw cam wrth gam, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, i sicrhau’r canlynol:
-
eich bod yn deall a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth
-
bod gennych feddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — dylech bob amser wirio gyda’r darparwr meddalwedd i sicrhau y bydd ei feddalwedd yn bodloni’ch anghenion
-
eich bod chi’n gwybod am y canllaw ynghylch Defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — mae hyn yn esbonio sut i greu cofnodion digidol, anfon diweddariadau chwarterol a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth
Cosbau ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen, ni fydd CThEF yn rhoi pwyntiau cosb am ddiweddariadau chwarterol hwyr ar gyfer y flwyddyn dreth gyntaf (2026 i 2027). Bydd cosbau yn dal i fod yn berthnasol i Ffurflenni Treth hwyr neu os byddwch yn talu’ch bil treth ar ôl y dyddiad cau.
Darllenwch ragor am newidiadau i gosbau sy’n berthnasol i’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gan gynnwys sut mae pwyntiau cosb yn gweithio.
Os ydych chi’n cofrestru’n wirfoddol
Dylech sicrhau eich bod chi’n deall y newidiadau i gosbau sy’n berthnasol os ydych yn gwirfoddoli ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd CThEF yn cysylltu â chi i gadarnhau pryd rydych wedi dod yn agored i’r cosbau hyn ar ôl i chi gofrestru.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Yn y gwasanaeth cofrestru, dylech roi gwybod i CThEF am eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo. Mae hyn yn cynnwys incwm o hunangyflogaeth neu eiddo sydd wedi dod i ben ers i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ddiwethaf.
Os yw’ch holl ffynonellau incwm o hunangyflogaeth neu eiddo wedi dod i ben ers i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ddiwethaf, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF cyn dechrau’r flwyddyn dreth nesaf. Os na fyddwch yn gwneud hyn, bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn diweddaru’ch cofnodion ac yn anfon llythyr atoch i gadarnhau na fydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
I ymuno, bydd angen y canlynol arnoch:
-
dyddiad dechrau eich busnes, neu’r dyddiad y gwnaethoch ddechrau cael incwm o eiddo (os yw hyn o fewn y 2 flwyddyn dreth ddiwethaf)
-
i chi gadarnhau’r flwyddyn dreth y byddwch yn dechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os ydych yn unig fasnachwr, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:
-
enw’ch busnes — dyma’r enw rydych yn ei ddefnyddio ar eich anfonebau
-
cyfeiriad eich busnes
-
natur eich busnes (eich masnach)
Os oes gennych sawl ffynhonnell incwm o hunangyflogaeth neu sawl busnes eiddo, bydd angen i chi wirio pob un ohonynt yn y gwasanaeth ar-lein ac ychwanegu unrhyw rai sydd ar goll.
Sut i gofrestru
Bydd angen i chi defnyddio’r un Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r un cyfrinair a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, efallai y bydd gofyn i chi roi rhagor o dystiolaeth i brofi pwy ydych. Gallwch wneud hyn drwy’r dulliau canlynol:
-
defnyddio ap ar eich ffôn symudol i baru llun o’ch wyneb â’r llun ar eich pasbort neu drwydded yrru
-
ateb cwestiynau sy’n ymwneud â gwybodaeth sydd gennym yn barod am bwy ydych — er enghraifft, pasbort, cyfeirnod credyd, trwydded yrru, Hunanasesiad, P60 ddiweddaraf, neu slip cyflog diweddar
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).