Skip to main content
Canllawiau

Cofrestru gyda’r rhoddwr IDs yn y DU os yw’ch busnes yn ymwneud â chyflenwi cynhyrchion tybaco

Sefydlwch gyfrif gyda’r rhoddwr IDs yn y DU ar gyfer IDs busnes neu IDs cynhyrchion, os ydych yn ymwneud â chyflenwi cynhyrchion tybaco yn y DU.

Mae’n rhaid i’r holl becynnau o sigaréts a thybaco rholio â llaw sy’n cael eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio yn y DU:

  • cynnwys dynodyddion unigryw (UIDs) ar y deunydd pacio
  • diogelwch penodol ar y deunydd pacio, os ydynt yn cael eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio ar gyfer marchnad y DU cynnwys 5 o nodweddion
  • cael eu sganio ar bwyntiau penodol o fewn y gadwyn gyflenwi

Pwy ddylai gofrestru

Mae angen i chi gofrestru â’r rhoddwr IDs os ydych yn: 

Ar ôl cofrestru gyda’r rhoddwr IDs yn y DU, gallwch gael:

  • UIDs ar gyfer unedau ac UIDs cyfansymiol (yn Saesneg) ar gyfer eich cynhyrchion tybaco os ydych yn weithgynhyrchwr neu’n fewnforiwr
  • ID Gweithredwr Economaidd
  • IDs cyfleusterau ar gyfer pob safle lle rydych yn gweithgynhyrchu, yn storio neu’n gwerthu’ch cynhyrchion
  • IDs peiriannau ar gyfer pob peiriant a ddefnyddir yn y broses weithgynhyrchu

Pryd i gofrestru

Mae angen i chi gofrestru cyn i chi brynu, storio neu drawslwytho sigaréts neu dybaco rholio â llaw. Mae’n rhaid i chi:

  • bod wedi’ch cofrestru gyda’r rhoddwr IDs yn y DU
  • bod ag ID Gweithredwr Economaidd ac IDs cyfleusterau

Mae’n cymryd hyd at 2 ddiwrnod gwaith i gael eich IDs.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn cofrestru, bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw a chyfeiriad eich busnes
  • eich Rhif Lleoliad Byd-eang (os oes gennych un)
  • eich rhif cofrestru TAW neu’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Treth Gorfforaeth
  • eich rhif System ar gyfer Cyfnewid Data Ecséis (SEED) (os oes gennych un)
  • eich cyfeiriad bilio os ydych yn bwriadu gofyn am UIDs
  • eich ID Gweithredwr Economaidd os ydych yn cofrestru ar ran manwerthwr cyntaf — bydd angen i chi fod wedi cofrestru’ch busnes eich hun yn gyntaf

Sut i gofrestru

Dentsu Tracking yw’r rhoddwr IDs ar gyfer y DU. Bydd angen i chi greu cyfrif ar ei wefan er mwyn cofrestru.

Cofrestrwch nawr (yn Saesneg) ar wefan y rhoddwr IDs yn y DU.

Cod asiantaeth Dentsu Tracking yw QCUKT.

Ar ôl i chi gofrestru, mae porth gwasanaeth sy’n eich galluogi i ofyn am fanylion ar gyfer mynediad ar-lein, ac i agor tocynnau cymorth (yn Saesneg) os ydych yn un o’r canlynol:

  • gweithgynhyrchwr
  • mewnforiwr
  • dosbarthwr mawr
  • manwerthwr — nid yw hyn yn cynnwys perchnogion siopau

Ar ôl i chi gofrestru

Cewch eich ID Gweithredwr Economaidd drwy e-bost cyn pen 2 ddiwrnod gwaith.

Os bydd angen i chi wneud newidiadau i’ch manylion cofrestru, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif (yn Saesneg). Byddwch yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddioch wrth gofrestru ar wefan y rhoddwr IDs yn y DU, ac yn:

  • cofrestru’ch cyfleuster er mwyn cael IDs cyfleusterau
  • cael IDs peiriannau os ydych yn weithgynhyrchwr neu’n fewnforiwr
  • prynu UIDs ar gyfer eich cynhyrchion os ydych yn weithgynhyrchwr neu’n fewnforiwr

Bydd angen eich ID Gweithredwr Economaidd a’ch ID cyfleuster arnoch bob tro y byddwch yn prynu, gwerthu neu symud cynhyrchion tybaco.

Pryd y gellir dadactifadu’ch ID Gweithredwr Economaidd

Efallai y bydd CThEF yn dadactifadu’ch ID Gweithredwr Economaidd os yw’r canlynol yn wir:

Argraffu'r dudalen hon