Skip to main content
Canllawiau

Carchar Birmingham

Mae Carchar Birmingham yn garchar i ddynion yn ardal Winson Green yn Birmingham.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â charchar Birmingham

I ymweld â rhywun yn Belmarsh, rhaid i chi:

  • fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • Archebwch eich ymweliad o leiaf ddau ddiwrnod ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Cysylltwch â Charchar Birmingham os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i’r carchar
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

I drefnu ymweliad gallwch:

Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm
Gwybodaeth am gostau galwadau

Yr uchafswm o bobl ar gyfer ymweliad yw 3 oedolyn a 3 phlentyn.

Uchafswm o £35 i’w wario fesul bwrdd, nid fesul person sy’n ymweld.

Amseroedd ymweld

  • Dydd Llun i ddydd Sul: Sesiynau bore rhwng 9:30am ac 11:30am, sesiynau prynhawn 2pm a 4pm.

Sut i drefnu ymweliadau swyddogol

I drefnu ymweliad swyddogol (cyfreithiol yn unig), anfonwch e-bost at legalvisitsbirmingham@justice.gov.uk.

Amseroedd ymweld cyfreithiol drwy fideo (slotiau 1 awr):

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 9am, 10am, 11am, 2pm, 3pm a 4pm

Rydym yn argymell apwyntiadau cyfreithiol fideo gan fod yr amseroedd aros yn llai o lawer. Mae apwyntiadau cyfreithiol wyneb yn wyneb ar gael (slotiau 1 awr):

  • Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Iau yn unig, 9am, 10am, 11am, 2pm, 3pm a 4pm

I drefnu apwyntiad swyddogol (heb fod yn gyfreithiol)

Ar gyfer pob apwyntiad fideo swyddogol arall (heb fod yn gyfreithiol) anfonwch e-bost at VCCBirmingham@justice.gov.uk

Amseroedd apwyntiadau fideo swyddogol (heb fod yn gyfreithiol) (slotiau 1 awr)

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5pm

Gwybodaeth bwysig ar gyfer pob apwyntiad swyddogol: 

  • dim ond mewn amgylchiadau eithriadol yr ystyrir ceisiadau am apwyntiadau sy’n para mwy nag awr. Rhaid i chi gynnwys cyfiawnhad llawn wrth anfon e-bost. Cytunir ar yr amod bod argaeledd gweithredol a chymeradwyaeth rheolwyr.

  • Rhaid cyflwyno pob cais am apwyntiad swyddogol drwy CJSM neu gyfrif e-bost gwaith swyddogol.

  • Rhaid i chi ddangos ID ffotograffig dilys ar ddechrau pob ymweliad fideo ac ymweliad wyneb yn wyneb, neu efallai bydd eich apwyntiad yn cael ei ganslo.

  • Cyn dod i apwyntiad wyneb yn wyneb, darllenwch yr adran [Mynd i Garchar Birmingham] .

  • Rhaid enwi ymwelwyr ar yr archeb 24 awr cyn dyddiad yr apwyntiad er mwyn cael mynediad.

Os cewch chi unrhyw broblemau ar ddiwrnod eich apwyntiad fideo, gallwch chi gysylltu â VCCBirmingham@justice.gov.uk neu ffoniwch 0121 598 8252.

Cyrraedd Carchar Birmingham

Dod o hyd i Garchar Birmingham ar fap

Mae Carchar Birmingham tua 2 filltir o Orsaf Birmingham New Street, lle gallwch chi gymryd tacsi neu newid i fysiau a thramiau lleol. Yr orsaf tram agosaf yw Winson Green Outer Circle.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Mae maes parcio rhad ac am ddim i ymwelwyr, gyda mynediad i bobl anabl.

Mynd i Garchar Birmingham

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o ddulliau adnabod derbyniol ar gyfer pob ymwelydd.

Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cod gwisg CEF Birmingham

Rhaid i ymwelwyr ddilyn cod gwisg y carchar.

Allwch chi ddim gwisgo:

  • cotiau
  • cardiganau hir
  • jumpsuits tynn
  • unrhyw ddillad sy’n dangos dillad isaf neu dynnu sylw at fannau preifat
  • hetiau, ac eithrio penwisg crefyddol
  • menig
  • sgarffiau
  • siôls
  • teis
  • esgidiau hyd pen-glin
  • siorts (o unrhyw hyd)
  • trowsus / jîns wedi’u rhwygo
  • trowsus combat gyda phocedi i lawr y coesau
  • dillad gyda logos chwaraeon
  • dillad sy’n dangos patrymau neu logos sarhaus, er enghraifft: logos canabis, logos hiliol neu iaith sarhaus
  • crysau pêl-droed
  • topiau gyda hwd neu dopiau gyda phocedi

Rhaid i sgertiau a ffrogiau gyrraedd o dan y benglin pan fyddant yn eistedd (hyd yn oed gyda theits neu legins oddi tano).

Rhaid i ffrogiau a thopiau orchuddio’r bronnau a’r stumog yn llawn

Bydd penwisgoedd yn cael eu chwilio yn dilyn polisi chwilio Carchar Birmingham.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i’r carchar. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer neu gyda swyddogion diogelwch. Gellir dod â phramiau a seddi car mor bell â’r man aros i ymwelwyr.

Caniateir pramiau i fyny’r grisiau ond rhaid eu gadael y tu allan i’r neuadd ymweliadau yn y man aros i ymwelwyr. Gellir dod ag 1 sedd car/cot cario syml i mewn i’r ystafell, a rhaid i’r rhain aros ar y llawr.

Gellir gofyn am ragor o fanylion drwy ffonio 0121 598 8178.

Cyfleusterau ymweld

Bydd lluniaeth ar gael yn ystod eich ymweliad ac mae man chwarae i blant ar gael i’w ddefnyddio.

Diwrnodau teulu

Ceir 6 diwrnod i’r teulu bob blwyddyn. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01215 988 178.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Birmingham

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yng Ngharchar Birmingham.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Darllenwch fwy am sut mae ap Fideo’r Carchar yn gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ac maent yn gallu gwneud galwadau bob dydd rhwng 7am a 11pm.

Nid yw ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Birmingham drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion, yn dibynnu ar y rheolau yng Ngharchar Birmingham.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Charchar Birmingham.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Mae gan garcharorion yng Ngharchar Birmingham restr o eitemau cymeradwy y gall teulu a ffrindiau eu rhoi iddynt.

Rhaid i garcharorion wneud cais am ganiatâd i dderbyn eitemau. Mae Carchar Birmingham wedyn yn anfon stamp cymeradwy at aelod o’r teulu neu ffrind i’w roi ar ei barsel.

Gall teulu a ffrindiau wedyn roi’r parsel i mewn cyn ymweld.

Dylid rhoi eitemau i’r ddesg eiddo yn y ganolfan ymwelwyr.

Rhaid i chi fod wedi trefnu ymweliad ar gyfer rhoi unrhyw beth i mewn, neu fel arall ni fydd yn cael ei dderbyn.

Fel arfer, ni dderbynnir eitemau drwy’r post. Fodd bynnag, gall carcharor sy’n wladolyn tramor neu nad yw’n cael ymweliadau wneud cais am ganiatâd i aelod o’r teulu neu ffrind anfon eitemau i mewn. Rhaid i’r parseli hyn gael eu marcio â stamp cymeradwy hefyd. Nid yw Carchar Birmingham yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros eitemau sy’n cael eu hanfon drwy’r post.

Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel. Bydd pob eitem yn cael ei hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau addysg a llyfrgell y carchar, Atodiad A.

Cysylltwch â Charchar Birmingham os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Bywyd yng Ngharchar Birmingham

Mae Carchar Birmingham wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor yng Ngharchar Birmingham hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Birmingham am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Carchar Birmingham yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua 3 diwrnod. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 1,000 o garcharorion yng Ngharchar Birmingham mewn cymysgedd o gelloedd unigol a rhai a rennir. Mae 11 adain, gan gynnwys uned garcharorion hŷn, uned adfer cyffuriau a chanolfan noson gyntaf.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys llyfrgell a champfa.

Mae gan Garchar Birmingham dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i garcharorion.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at ystod eang o hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys gosod brics, plymio, peintio ac addurno, gwaith coed, gyrru wagenni fforch godi, glanhau diwydiannol ac arlwyo.

Gallant hefyd ddilyn cyrsiau mewn sgiliau sylfaenol, TG, sgiliau cymdeithasol a bywyd, sgiliau busnes, celfyddydau creadigol a pherfformio, torri gwallt a mwy. Mae myfyrwyr yn cael cyfle i ennill cymwysterau cydnabyddedig ar bob cwrs. Darperir yr addysg gan Novus

Mae gan Garchar Birmingham uned ailsefydlu weithredol sy’n helpu carcharorion sydd â phroblemau tai, budd-daliadau a chyflogaeth, gyda chymorth staff o’r Ganolfan Byd Gwaith a Chyngor ar Bopeth.

Rhyddhau dros dro

Efallai y bydd rhai carcharorion yn gymwys i gael eu rhyddhau ar drwydded dros dro. Gellir defnyddio hyn i gael profiad gwaith yn y gymuned leol a pharatoi ar gyfer rhyddhau. Gall carcharorion wneud cais am hyn yn y carchar.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Gallwch ddarllen strategaeth teulu Birmingham i weld sut rydym yn helpu carcharorion i adeiladu perthnasau positif gyda theulu agos.

Darperir gwasanaethau teulu yn Birmingham gan PACT.

Mae gwybodaeth am wasanaethau a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau ar gael hefyd gan y ganolfan ymwelwyr.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 0121 598 8000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 0121 598 8364 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Birmingham.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Birmingham mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Charchar Birmingham

Llywodraethwr: Neil O’Connor

Ffôn (24 awr): 0121 598 8000
Ffacs: 0121 345 2501
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP Birmingham
Winson Green Road
Birmingham
B18 4AS

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Argraffu'r dudalen hon