Talu eich bil Treth Gorfforaeth
Trosolwg
Bydd y dyddiad cau ar gyfer eich taliad yn dibynnu ar eich elw trethadwy.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Elw trethadwy hyd at £1.5 miliwn
Mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth 9 mis ac 1 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod cyfrifyddu. Fel arfer, eich cyfnod cyfrifyddu yw’ch blwyddyn ariannol, ond mae’n bosibl y bydd gennych 2 gyfnod cyfrifyddu yn ystod y flwyddyn y gwnaethoch sefydlu’ch cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
Elw trethadwy dros £1.5 miliwn
Mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth fesul rhandaliad.
Gwiriwch y rheolau a’r dyddiadau cau:
- os yw’ch elw trethadwy rhwng £1.5 miliwn ac £20 miliwn
- os yw’ch elw trethadwy dros £20 miliwn (yn agor tudalen Saesneg)
Talu cosbau Treth Gorfforaeth
Codir cosbau am gyflwyno’n hwyr (yn agor tudalen Saesneg) arnoch os na fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni mewn pryd, hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu.
Talwch gosbau gan ddefnyddio:
- unrhyw un o’r dulliau sydd ar gael i dalu
- y cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth 17 cymeriad ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu y mae’r cosbau’n berthnasol iddo
Bydd eich cyfeirnod talu i’w weld:
- ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’
- ar unrhyw nodynnau atgoffa gan CThEF
- drwy gyfrif ar-lein CThEF eich cwmni
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau cyffredinol Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Dulliau o dalu
Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn codi llog arnoch (yn agor tudalen Saesneg) os na fyddwch yn talu mewn pryd. Bydd yn talu llog i chi (yn agor tudalen Saesneg) os byddwch yn talu’ch treth yn gynnar.
Dewiswch y ffordd o dalu sy’n caniatáu digon o amser i’ch taliad glirio.
Ni allwch dalu Treth Gorfforaeth drwy’r post.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
- cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
- bancio ar-lein neu fancio dros y ffôn drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS
- ar-lein â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
- yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
3 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
- bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Bacs
5 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).