Canllawiau
Offer a chyfrifianellau CThEF
Dod o hyd i offer a chyfrifianellau a fydd yn eich helpu i gyfrifo eich treth.
Toll Alcohol
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Cyfrifo’ch Rhyddhad i Gynhyrchwyr Bach | Gwirio a ydych yn gymwys i gael Rhyddhad i Gynhyrchwyr Bach ar Doll Alcohol a faint o ryddhad gallwch ei gael |
Lwfansau Cyfalaf
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Gwirio a allwch hawlio’r uwch-ddidyniad | Gwirio a allwch hawlio lwfansau blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig neu uwch-ddidyniad, os ydych yn gwmni |
| Cyfrifo’r tâl mantoli pan fyddwch yn gwaredu asedion (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo’r tâl mantoli pan fyddwch yn gwerthu neu’n cael gwared ar offer neu beiriannau ar ôl hawlio’r uwch-ddidyniad neu lwfans cyfradd arbennig o 50% arnynt |
| Gwirio a allwch hawlio lwfans gwariant llawn neu lwfans blwyddyn gyntaf o 50% | Os ydych yn gwmni, gallwch gael gwybod a allwch hawlio lwfans gwariant llawn, neu lwfans blwyddyn gyntaf o 50%, ar gyfer costau am offer neu beiriannau. |
| Cyfrifo’ch cyfradd hybrid o lwfans ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo’ch cyfradd hybrid o lwfans ar bapur os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn cynnwys y diwrnod y gwnaeth y gyfradd newid |
Treth Enillion Cyfalaf
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer person nad yw’n breswyl (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo’ch Treth Enillion Cyfalaf fel person nad yw’n breswyl |
| Cyfrifiannell cyfranddaliadau ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo’ch Treth Enillion Cyfalaf ar werthiant eich cyfranddaliadau |
| Cyfrifiannell eiddo ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf | Cyfrifo’ch Treth Enillion Cyfalaf ar werthiant eiddo |
| Cyfrifiannell addasiad Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 | Cyfrifwch yr addasiad ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer gwaredu asedion ar 30 Hydref 2024, neu ar ôl hynny, pan fo’r cyfraddau yn newid. |
Tystysgrifau blaendal treth
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Cyfrifiannell llog ar gyfer Tystysgrifau Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg) | Gwirio lefel y llog sy’n ddyledus yn erbyn blaendal treth rydych eisoes wedi’i wneud o dan y cynllun Tystysgrif Blaendal Treth |
Gwiriad cydymffurfio
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Cael help os yw CThEF yn cysylltu â chi ynghylch gwiriad cydymffurfio | Dod o hyd i arweiniad, fideos a gwybodaeth am yr hyn i’w wneud os yw CThEF yn cysylltu â chi ynghylch gwiriad cydymffurfio |
Treth Gorfforaeth
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Dim Treth Gorfforaeth yn ddyledus (yn agor tudalen Saesneg) | Rhoi gwybod i CThEF nad oes gennych unrhyw Dreth Gorfforaeth sy’n ddyledus |
| Treth Gorfforaeth drwy CHAPS (Cumbernauld) (yn agor tudalen Saesneg) | Cais i dalu Treth Gorfforaeth drwy CHAPS i CThEF Cumbernauld |
| Treth Gorfforaeth drwy CHAPS (Shipley) (yn agor tudalen Saesneg) | Cais i dalu Treth Gorfforaeth drwy CHAPS i CThEF Shipley |
| Cyfrifiannell rhyddhad gorgyffwrdd | Os ydych yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth, defnyddiwch y gyfrifiannell i gyfrifo’ch ffigur rhyddhad gorgyffwrdd ar gyfer Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024. |
Budd-dal Plant a Chronfa Ymddiriedolaeth Plant
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Cyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) | Gwirio a oes angen i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel |
| Canfyddwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant | Canfod ble mae’ch Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cael ei chadw |
Gofal Plant
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Gwirio pa help y gallech ei gael gyda chostau plant | Gwirio faint y gallech ei gael tuag at ofal plant cymeradwy |
Dyddiadau cau
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Gwirio dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno a thalu Treth | Dysgwch am y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno a thalu eich Treth, a’u hychwanegu at eich calendr |
Statws cyflogaeth a gweithio oddi ar y gyflogres (IR35)
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Gwirio statws cyflogaeth ar gyfer treth | Gwirio statws cyflogaeth gweithiwr neu wirio a yw’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) yn berthnasol i gontract |
Tollau hapchwarae
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Busnes sydd wedi cofrestru ar gyfer Toll Peiriannau Hapchwarae | Chwilio am fusnes drwy’r cod post |
Ap CThEF
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Ap CThEF | Ffordd hawdd a chyflym o gael gwybodaeth am eich treth, Yswiriant Gwladol, credydau treth a budd-daliadau |
Mewnforio ac allforio
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| System ar gyfer Cyfnewid Data Ecséis (SEED) ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd | Gwirio a yw’ch rhif ID Ecséis SEED yn ddilys |
| Offeryn Tariff Masnach y DU (yn agor tudalen Saesneg) | Dynodi’ch nwyddau i’w mewnforio neu i’w hallforio gan ddefnyddio Tariff Masnach y DU, yn seiliedig ar TARIC (Tariff Intégré Communautaire) yr UE |
Treth Incwm
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Amcangyfrif eich Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth flaenorol | Defnyddio’r gwasanaeth hwn i amcangyfrif faint o Dreth Incwm y dylech fod wedi’i thalu ar gyfer blwyddyn dreth flaenorol |
| Amcangyfrif eich Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol | Amcangyfrif faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol y dylech eu talu ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol |
Treth Etifeddiant
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Gwiriwr Treth Etifeddiant | Cael amcangyfrif o werth yr ystâd a phenderfynu a oes unrhyw Dreth Etifeddiant yn debygol o fod yn ddyledus |
| Cyfrifiannell llog ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo faint o log sy’n ddyledus ar daliad o Dreth Etifeddiant |
| Cyfrifiannell ar gyfer Treth Etifeddiant haen cyfradd sero preswyl (RNRB) | Cyfrifo’r RNRB os yw cartref yn cael ei adael i ddisgynyddion uniongyrchol |
| Cyfrifiannell ar gyfer Treth Etifeddiant ar gyfradd is | Gwirio a ydych yn gymwys i dalu cyfradd is o Dreth Etifeddiant |
| Cyfrifiannell grosio Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifwch yr ystâd drethadwy pan fydd gan yr ewyllys roddion ‘rhydd o dreth’ ac mae’r gweddillion wedi’u heithrio’n rhannol neu’n gyfan |
| Treth Etifeddiant: cyfrifiannell blwydd-daliadau gwarantedig (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo amcangyfrif o werth marchnadol taliadau blwydd-dal gwarantedig wrth brisio asedion ystâd yr ymadawedig |
| Treth Etifeddiant: cyfrifiannell chwarteri ar gyfer ymddiriedolaethau (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo nifer y chwarteri (cyfnodau o 3 mis) pan godir Treth Etifeddiaeth ar ymddiriedolaeth ar gyfer rhai digwyddiadau trethadwy |
| Y ffordd i ddosrannu’r Rhyddhad Amaethyddol a Busnes ar gyfer Treth Etifeddiaeth | Defnyddiwch yr offeryn hwn i gyfrifo’r ffordd i ddosrannu’r lwfans o £2.5 miliwn ar draws eiddo sy’n gymwys i gael Rhyddhad Amaethyddol o 100% neu Ryddhad Busnes o 100%. |
Yswiriant Gwladol
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Hawlio ad-daliad Yswiriant Gwladol | Gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol |
| Cyfrifiannell cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyfarwyddwr | Cyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfarwyddwr cwmni ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol |
| Cyfrifiannell cyfraniadau Yswiriant Gwladol | Cyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr a’r cyflogai ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol |
| Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio dramor | Gwirio a oes rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU wrth i chi weithio dramor |
TWE
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Gwiriwch a allwch gael Absenoldeb neu Dâl Mamolaeth neu Dadolaeth, neu Lwfans Mamolaeth (yn agor tudalen Saesneg) | Gwiriwch a allwch gael Absenoldeb neu Dâl Mamolaeth Statudol, Absenoldeb neu Dâl Tadolaeth Statudol, neu Lwfans Mamolaeth os ydych yn gyflogai |
| Gwirio beth mae’ch cod treth yn ei olygu | Darganfod beth mae’r rhifau a’r llythrennau yn eich cod treth yn ei olygu a faint o dreth y byddwch yn ei thalu |
| Gwirio faint o dreth rydych yn ei thalu ar ddifidendau a llog o gynilion | Dysgwch y ffordd mae CThEF yn cyfrifo’r dreth a godir ar incwm o ddifidendau a llog o gynilion. |
| Cyfrifiannell treth TWE | Gwirio’ch cyfrifiadau cyflogres |
| Cyfrifiannell treth TWE ac Yswiriant Gwladol drwy’r gyflogres | Gwirio’ch cyfrifiadau treth TWE ac Yswiriant Gwladol drwy’r gyflogres â llaw |
| Offer TWE Sylfaenol | Offer i’ch helpu i redeg eich cyflogres |
| CHAPS TWE (yn agor tudalen Saesneg) | Ffurflen gais ar gyfer trosglwyddiad CHAPS TWE |
| Cyfrifiannell treth ar geir cwmni | Cyfrifo tâl treth car y cwmni yn seiliedig ar werth trethadwy car a’r sgôr CO2 |
| Cyfrifiannell Tâl Salwch Statudol (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo Tâl Salwch Statudol eich cyflogai |
| Cyfrifiannell mamolaeth a thadolaeth (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo tâl ac absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth eich cyflogai |
| Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE | Gweld eich hysbysiadau a chodau treth cyflogai |
| Ffurflen rhoi’r gorau i gael llyfryn talu TWE (yn agor tudalen Saesneg) | Rhoi’r gorau i gael llyfryn talu TWE |
| Archebu ffurflenni P45 a P60 (yn agor tudalen Saesneg) | Cael ffurflenni P45 a P60 ar gyfer eich cyflogeion os na allwch gynhyrchu’r rhain gan ddefnyddio eich meddalwedd gyflogres |
| Gwiriwr cyfeirnod TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn bresennol (yn agor tudalen Saesneg) | Gwirio’ch cyfeirnod ar gyfer TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn bresennol |
| Gwiriwr cyfeirnod TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn flaenorol (yn agor tudalen Saesneg) | Gwirio’ch cyfeirnod ar gyfer TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn flaenorol |
| Gwiriwr cyfeirnod ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A (yn agor tudalen Saesneg) | Gwirio’ch cyfeirnod ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A |
| Cyfrifo cyflog o gwmni ambarél | Cyfrifwch y cyflog net a gros os ydych yn weithiwr neu’n gwmni cyflogaeth sy’n defnyddio cwmni ambarél. |
Pensiynau
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Gwiriwr Isafswm Pensiwn Gwarantedig (GMP) (yn agor tudalen Saesneg) | Gofyn am gyfrifiadau GMP |
| Offeryn lwfans blynyddol pensiwn | Gwirio eich lwfans blynyddol pensiwn |
Hunanasesiad
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Amcangyfrif eich bil treth Hunanasesiad | Amcangyfrif eich bil treth Hunanasesiad |
| Cyfrifiannell Lloyd’s (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo addasiadau o dan adran 107 o Ddeddf Cyllid 2000 wrth gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad |
| Cyfrifo eich elw trosiannol (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo eich elw trosiannol ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 os yw’r sail blwyddyn dreth newydd (Diwygio’r Cyfnod Sail) yn effeithio arnoch |
Hunangyflogedig
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Gwirio pa drethi all fod yn berthnasol i chi fel unig fasnachwr | Dysgu pa drethi mae’n bosibl bydd angen i chi gofrestru ar eu cyfer fel unig fasnachwr |
Treth Dir y Tollau Stamp (SDLT)
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Cyfrifiannell SDLT (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo faint o SDLT y mae angen i chi ei thalu wrth brynu neu drosglwyddo tir neu eiddo |
| Cais i dalu SDLT drwy CHAPS (yn agor tudalen Saesneg) | Cais i dalu SDLT drwy CHAPS |
TAW
| Offeryn | Yr hyn y mae’n ei wneud |
|---|---|
| Cyfrifiannell dyddiad cau ar gyfer talu TAW (yn agor tudalen Saesneg) | Cyfrifo’r dyddiad cau ar gyfer talu TAW ar gyfer eich cyfnod cyfrifyddu |
| Offeryn amcangyfrif TAW | Gwirio beth y gallai cofrestru ar gyfer TAW ei olygu i’ch busnes |
| Dilysu rhif TAW yn yr UE ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd | Gwirio rhif TAW o unrhyw wlad yn yr UE i’ch helpu i gwblhau Rhestr Gwerthiannau yn y GE |
| Cais i dalu TAW drwy CHAPS (yn agor tudalen Saesneg) | Cais i dalu TAW drwy CHAPS |