Skip to main content
Ffurflen

Gwneud cais i lys (hysbysiad o gais): Ffurflen N244

Defnyddiwch y ffurflen N244 i ofyn i lys roi dyfarniad o’r neilltu neu ei amrywio neu atal proses orfodi.

Dogfennau

Rhybudd cyflwyno cais: Ffurflen N244

Gwneud cais am fformat hygyrch
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Darllenwch y canllawiau cyn llenwi’r hysbysiad cais hwn.

Byddwch angen defnyddio ffurflenni a chanllawiau gwahanol os ydych yn:

Gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig

Os nad oes gennych chi achos sifil parhaus mewn llys sirol gyda’r unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt, rhaid i chi wneud cais i lys teulu yn lle hynny.

Darllenwch y canllawiau ar gyfer gwneud cais am DAPO mewn llys teulu

Diffynyddion

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen y ‘nodiadau i ddiffynnydd’ hefyd yn:

Gorchmynion llys masnachol

Efallai y byddwch angen math gwahanol o ffurflen N244, yn dibynnu ar y llys yr ydych yn gwneud cais iddo:

Gwiriwch y ffioedd llys a thribiwnlys a chanfod a allwch gael help i dalu ffioedd.

Ceisiadau talu cronfeydd y tu allan i’r llys

Os ydych yn gwneud cais talu cronfeydd y tu allan i’r llys fel cyfranddaliwr sy’n anghytuno neu ar ôl gwerthu eiddo, byddwch angen defnyddio’r ffurflen tystiolaeth o hunaniaeth a datganiad (BP34) gyda’r N244.

Dylech hefyd ddarllen y canllawiau os yn gwneud cais i hawlio arian a dalwyd i’r Uchel Lys mewn perthynas ag eiddo neu gyfranddaliadau.

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1. Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
  3. Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.

Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.

Gofyn am fformatau hygyrch

Gallwch ofyn am:

  • fersiwn Braille
  • fersiwn print bras
  • fersiwn hawdd ei darllen

Gofyn am fformat hygyrch drwy e-bost hmctsforms@justice.gov.uk.

Argraffu'r dudalen hon