Skip to main content

Talu'ch bil treth Asesiad Syml

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil treth Asesiad Syml os ydych wedi cael llythyr oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gwirio’ch cyfrifiad Asesiad Syml

Gallwch wirio’ch bil treth Asesiad Syml i ddeall eich cyfrifiad a sicrhau ei fod yn gywir.

Bydd hyn yn eich helpu i ddeall y canlynol:

  • y rheswm pam yr anfonodd CThEF Asesiad Syml
  • sut mae’ch treth wedi’i gyfrifo
  • pa incwm, llog o gynilion neu fuddiannau sydd wedi’u cynnwys

Os yw’r symiau’n gywir, bydd angen i chi dalu’ch bil treth erbyn y dyddiad cau.

Os ydych o’r farn bod unrhyw wybodaeth yn anghywir, mae’n rhaid i chi gysylltu â CThEF cyn pen 60 diwrnod.

Pryd i dalu

Gallwch dalu’r swm sydd arnoch yn llawn neu wneud cyfres o daliadau llai. Os dewiswch wneud taliadau llai, mae’n rhaid i chi sicrhau bod y swm llawn yn cael ei dalu erbyn y dyddiad cau ar eich llythyr Asesiad Syml.

Os byddwch yn cael llythyr Asesiad Syml:

  • cyn 31 Hydref 2026 (ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2026) - bydd angen i chi dalu’r swm sydd arnoch erbyn 31 Ionawr 2027
  • ar neu ar ôl 31 Hydref 2026 (ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2026, neu unrhyw flwyddyn dreth gynharach) - bydd angen i chi dalu’r swm sydd arnoch cyn pen 3 mis i ddyddiad y llythyr

Gallwch gael help os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd.

Sut i dalu

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Gallwch weld hwn ar eich llythyr Asesiad Syml.

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) i ofyn i’ch taliad gael ei symud.

Gallwch wneud y canlynol:

2. Talu ar-lein

Gallwch dalu CThEF ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein
  • defnyddio cerdyn debyd personol
  • defnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Gallwch weld hwn ar eich llythyr Asesiad Syml.

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) i ofyn i’ch taliad gael ei symud.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Talu drwy ddefnyddio gwasanaeth talu ar-lein CThEF

Byddwn yn gofyn i chi a ydych am fewngofnodi i’ch Cyfrif Treth Personol pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Bydd mewngofnodi yn golygu y gallwch weld a thalu unrhyw dreth sydd arnoch, ond byddwch yn dal i fod yn gallu talu heb fewngofnodi.

Os oes arnoch dreth o’r cyfnod cyn 6 Ebrill 2024, ni allwch weld na thalu treth gan ddefnyddio’ch Cyfrif Treth Personol.

Gallwch dalu’r balans sy’n weddill yn llawn neu ei rannu’n daliadau llai. Mae’n rhaid i chi dalu’r hyn sydd arnoch erbyn y dyddiad cau sydd i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.

Ychwanegwch eich cyfeiriad e-bost i gael cadarnhad eich bod wedi anfon taliad at CThEF.

Talu nawr

Talu gan ddefnyddio ap CThEF

Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i dalu’ch bil gan ddefnyddio’ch banc. Bydd angen eich manylion bancio ar-lein arnoch.

  1. Mewngofnodwch i ap CThEF a dewiswch Talu Wrth Ennill.

  2. Dewiswch yr opsiwn i wneud taliad a nodwch y swm rydych yn ei dalu.

  3. Dewiswch eich banc o’r rhestr.

  4. Nodwch eich cyfeiriad e-bost i gael tystiolaeth o’ch taliad.

  5. Dewiswch parhau i symud i ap eich banc i gwblhau’r taliad.

3. Talu drwy drosglwyddiad banc

Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:

  • drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
  • drwy ffonio’ch banc

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Gallwch weld hwn ar eich llythyr Asesiad Syml.

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) i ofyn i’ch taliad gael ei symud.

Fel arfer, bydd taliadau’n cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF):

  • ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf ar gyfer Taliadau Cyflymach
  • yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amseroedd prosesu’ch banc ar gyfer taliadau CHAPS
  • o fewn 3 diwrnod gwaith ar gyfer taliadau Bacs

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Gallwch dalu’r balans sy’n weddill yn llawn neu ei rannu’n daliadau llai. Mae’n rhaid i chi dalu’r hyn sydd arnoch erbyn y dyddiad cau sydd i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.

Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU

Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001020
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Os ydych yn talu o gyfrif tramor

Defnyddiwch y manylion banc canlynol i dalu CThEF o gyfrif banc tramor:

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

4. Talu â siec

Gallwch dalu â siec drwy’r post. Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’ a’i hanfon i:

HMRC
Direct
BX5 5BD
United Kingdom

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu ar gefn y siec – mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hwn i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw eich taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) i ofyn i’ch taliad gael ei symud.

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich taliad yn cyrraedd CThEF erbyn y dyddiad cau ar eich llythyr Asesiad Syml.