Talu'ch bil treth Asesiad Syml
Talu ar-lein
Gallwch dalu CThEF ar-lein drwy’r dulliau canlynol:
- cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein
- defnyddio cerdyn debyd personol
- defnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Gallwch weld hwn ar eich llythyr Asesiad Syml.
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) i ofyn i’ch taliad gael ei symud.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Talu drwy ddefnyddio gwasanaeth talu ar-lein CThEF
Byddwn yn gofyn i chi a ydych am fewngofnodi i’ch Cyfrif Treth Personol pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Bydd mewngofnodi yn golygu y gallwch weld a thalu unrhyw dreth sydd arnoch, ond byddwch yn dal i fod yn gallu talu heb fewngofnodi.
Os oes arnoch dreth o’r cyfnod cyn 6 Ebrill 2024, ni allwch weld na thalu treth gan ddefnyddio’ch Cyfrif Treth Personol.
Gallwch dalu’r balans sy’n weddill yn llawn neu ei rannu’n daliadau llai. Mae’n rhaid i chi dalu’r hyn sydd arnoch erbyn y dyddiad cau sydd i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.
Ychwanegwch eich cyfeiriad e-bost i gael cadarnhad eich bod wedi anfon taliad at CThEF.
Talu gan ddefnyddio ap CThEF
Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i dalu’ch bil gan ddefnyddio’ch banc. Bydd angen eich manylion bancio ar-lein arnoch.
-
Mewngofnodwch i ap CThEF a dewiswch Talu Wrth Ennill.
-
Dewiswch yr opsiwn i wneud taliad a nodwch y swm rydych yn ei dalu.
-
Dewiswch eich banc o’r rhestr.
-
Nodwch eich cyfeiriad e-bost i gael tystiolaeth o’ch taliad.
-
Dewiswch parhau i symud i ap eich banc i gwblhau’r taliad.