Cofrestru ar gyfer TAW drwy’r post
Sut a phryd i ddefnyddio ffurflen VAT1 ar bapur i gofrestru busnes newydd, busnes sy’n bodoli eisoes, neu un yr ydych yn ei gymryd drosodd.
Dylai’r rhan fwyaf o fusnesau gofrestru ar gyfer TAW ar-lein. Mae hyn yn cynnwys partneriaethau a grŵp o gwmnïau sy’n cofrestru o dan un rhif TAW.
Fodd bynnag, mae amgylchiadau penodol lle efallai y bydd angen i fusnes gofrestru gan ddefnyddio ffurflen VAT1 ar bapur.
Pryd i gofrestru drwy’r post
Os na allwch gofrestru ar-lein, gallwch gofrestru drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen VAT1 ar bapur. Mae’n bosibl y bydd rhai achosion lle bydd angen i chi wneud hyn, gan gynnwys os ydych yn:
-
yn gwmni partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) sy’n cofrestru fel aelod cynrychiadol o grŵp TAW
-
yn cofrestru adrannau neu unedau busnes corff corfforedig o dan rifau TAW gwahanol
-
yn gwneud cais i gofrestru partneriaeth tramor
-
yn awdurdod lleol, yn gyngor plwyf neu’n gyngor dosbarth
-
yn gwneud cais am eithriad rhag cofrestru
-
ymarferwr ansolfedd sy’n gwneud cais i gofrestru busnes
Gallwch hefyd gofrestru drwy’r post os nad ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein oherwydd:
-
eich oedran, cyflwr iechyd, anabledd neu’ch lleoliad
-
rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiaduron oherwydd rhesymau crefyddol
-
nid oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd
Mae’n bosibl y byddwn yn ystyried rhesymau gwahanol pam na allwch chi gofrestru ar-lein a bod angen gwneud cais drwy’r post.
Sut i gofrestru drwy’r post
-
Cysylltwch â CThEF gan ddefnyddio’r llinell gymorth ar y dudalen Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis i ofyn am ffurflen VAT1 ar bapur.
-
Byddwn yn gofyn ambell gwestiwn i chi er mwyn cael gwybod pam fod angen ffurflen bapur arnoch.
-
Os ydym yn cytuno â’ch rhesymau, byddwn yn anfon y ffurflen bapur atoch. Os na fyddwn yn cytuno â’ch rhesymau, byddwn yn eich cyfeirio chi at y gwasanaeth digidol.
-
Llenwch y ffurflen bapur pan fydd yn eich cyrraedd.
-
Argraffwch a llenwch unrhyw ffurflenni angenrheidiol sydd wedi’u crybwyll yn adran ‘ffurflenni ychwanegol’ y dudalen hon.
-
Anfonwch y ffurflen at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddangosir ar ffurflen VAT1.
Dylech ond wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen y mae CThEF wedi’i hanfon atoch.
Defnyddiwch y nodiadau hyn i’ch helpu i lenwi ffurflen VAT1.
Ffurflenni ychwanegol
Ar gyfer rhai gweithgareddau busnes, bydd angen i chi lenwi ffurflen ychwanegol a’i phostio gyda ffurflen VAT1.
Os ydych yn:
- gwneud cais am eithriad rhag cofrestru ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg), bydd angen gofyn am ffurflen VAT5EXC a’i llenwi
- cofrestru ar gyfer TAW ac yn ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol — llenwch ffurflen VAT98
- cofrestru grŵp o gwmnïau gyda rhifau TAW ar wahân — llenwch ffurflen VAT50/51 (yn agor tudalen Saesneg)
- fusnes yn yr UE sy’n gwerthu o bell i mewn i Ogledd Iwerddon — llenwch ffurflen VAT1A
- mewnforio nwyddau sydd werth mwy nag £90,000 i mewn i Ogledd Iwerddon o wlad yn yr UE — llenwch ffurflen VAT1B
- gwaredu asedion a’ch bod wedi hawlio ad-daliadau cyfarwyddeb arnynt — llenwch ffurflen VAT1C
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Fel arfer, bydd ceisiadau drwy’r post yn cymryd yn hirach i’w prosesu na cheisiadau ar-lein.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn gofyn amdani wrth brosesu’ch ffurflen. Gallai hyn achosi oedi.
Gwirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.
Darllenwch am yr hyn i’w wneud ar ôl i chi gofrestru ar gyfer TAW.