Cofrestru cerbyd
Printable version
1. Trosolwg
Rhaid ichi gofrestru car neu unrhyw gerbyd arall cyn gynted ag y byddwch:
-
wedi’i brynu
-
wedi’i adeiladu
-
wedi’i fewnforio
Rhaid ichi gofrestru car pan rydych yn ei fewnforio, hyd yn oed os yw wedi cael ei gofrestru yn y DU o’r blaen ac yna wedi’i allforio.
Rydych yn gwneud hyn drwy lenwi ffurflenni a’u hanfon i DVLA. Mae’r ffurflenni y mae’n rhaid ichi eu hanfon yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Bydd hefyd angen ichi fodloni’r holl rwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer gyrwyr cyn ichi allu gyrru.
Efallai y bydd angen i DVLA archwilio’ch cerbyd i gadarnhau ac egluro’r wybodaeth rydych wedi’i darparu. Mae hyn yn eu helpu i:
-
sicrhau bod y cerbyd yn bodoli, wedi’i gydosod yn gerbyd cyflawn a bod llyfr log y cerbyd (V5CW) yn eich enw
-
cadarnhau hunaniaeth y cerbyd
-
diweddaru eu cofnodion oherwydd newidiadau rydych wedi’u gwneud i’r cerbyd
Byddant yn anfon llythyr atoch os oes angen iddynt wneud hyn. Ni fydd angen ichi dalu ffi.
Defnyddiwch y cynlluniau cofrestru gwahanol ar gyfer y fasnach foduron os ydych yn wneuthurwr cerbydau, yn fewnforiwr neu’n fasnachwr sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW.
2. Cerbydau newydd ac ail-law
Cofrestru cerbyd newydd
Fel arfer, bydd y deliwr yn cofrestru cerbyd newydd sbon ar eich cyfer.
Os na fydd y deliwr yn gwneud hynny, gallwch gofrestru’r cerbyd eich hun.
Os yw eich cerbyd yn gerbyd nwyddau trwm (HGV) newydd, mae angen ichi hefyd gofnodi manylion eich HGV gyda’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA).
Cofrestru cerbyd ail-law
Fel arfer, bydd y gwerthwr yn cofrestru cerbyd ail-law ar eich cyfer. Gallant wneud hynny ar-lein neu drwy’r post.
Bydd angen ichi gofrestru eich cerbyd ail-law eich hun os nad oes ganddo lyfr log cerbyd (V5CW).
Mae angen ichi drethu cerbyd ail-law cyn y gallwch ei ddefnyddio ar y ffordd.
Mae ffordd wahanol o gofrestru’r cerbyd os ydych yn ei gymryd dramor gan gynnwys Ynysoedd y Sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw neu Iwerddon.
Cofrestru ar-lein
Bydd angen i’r gwerthwr:
-
llenwi’r slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd a’i roi ichi
-
dinistrio’r V5CW
Cofrestru drwy’r post
Bydd angen i’r gwerthwr:
-
gwblhau adran 2 os oes ganddynt V5CW steil newydd (gyda blociau amryliw wedi’u rhifo ar y blaen) neu adran 6 os oes ganddynt y V5CW steil hŷn
-
llofnodi’r datganiad yn adran 8 os oes ganddynt y V5CW steil hŷn (rhaid ichi lofnodi’r datganiad hefyd)
-
llenwi’r slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd a’i roi ichi
-
anfon y V5CW i DVLA
Os nad oes gan y cerbyd V5CW
Mae DVLA yn cynghori na ddylech brynu cerbyd sydd heb V5CW.
Lawrlwythwch ffurflen V62W a’i hanfon i DVLA i gofrestru’r cerbyd yn eich enw. Bydd angen ichi dalu £25.
Pryd y byddwch yn cael eich V5CW newydd
Fel arfer, byddwch yn cael eich V5CW newydd o fewn 4 wythnos wedi cofrestru’r cerbyd.
Byddwch yn cael eich V5CW newydd o fewn 5 i 7 diwrnod gwaith os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol i’ch cerbyd:
-
mae’n gerbyd ail-law
-
mae’r gwerthwr wedi ei gofrestru ichi ar-lein
Gwirio eich V5CW newydd
Pan fyddwch yn derbyn eich V5CW, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod yr holl fanylion yn gywir.
Os oes unrhyw beth ar eich V5CW yn anghywir
Gwnewch y newidiadau ar y V5CW a’i hanfon yn ôl i DVLA.
DVLA
Abertawe
SA99 1BA
Byddwch yn cael y V5CW amnewid o fewn 4 wythnos.
Os nad yw eich V5C newydd wedi cyrraedd
Os yw 4 wythnos wedi mynd heibio ers i’r V5CW gael ei chofrestru neu ichi ei hanfon i’w chywiro, cysylltwch â DVLA.
Cysylltwch â DVLA cyn i 6 wythnos fynd heibio. Os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi dweud wrth DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un arall.
Os yw’n gerbyd ail-law sydd wedi’i gofrestru drwy’r post
Mae ffordd wahanol o gael V5CW arall wedi’i hanfon atoch chi. Bydd angen ichi:
-
lawrlwytho ffurflen V62W neu ei chael o ganghennau penodol o Swyddfa’r Post
-
ei hanfon i DVLA gyda’r slip ceidwad newydd gwyrdd a roddwyd ichi gan y gwerthwr
Mae angen i’r slip ceidwad newydd fod o’r V5CW ddiweddaraf. Gwiriwch fod y dyddiad ar y slip yn cydweddu â dyddiad cyhoeddi’r V5CW ddiwethaf ar y gwasanaeth ymholiadau cerbydau os nad ydych yn siŵr.
Os na fyddwch yn anfon y slip ceidwad newydd o’r V5CW ddiweddaraf, bydd rhaid ichi dalu £25.
Cysylltwch â DVLA os nad yw eich V5CW wedi cyrraedd ac mae 4 wythnos wedi mynd heibio ers ichi anfon ffurflen V62W.
3. Cofrestriadau newydd
Efallai nad yw eich cerbyd wedi’i gofrestru o’r blaen gyda DVLA os:
-
yw’n newydd sbon
-
yw’n gerbyd sydd wedi’i adeiladu o git
-
yw wedi’i fewnforio
-
yw’n gerbyd hen neu glasurol
Os ydych yn prynu cerbyd newydd sbon, bydd y deliwr fel arfer yn trefnu iddo gael ei gofrestru. Fel arall, mae angen ichi ei gofrestru eich hun.
Os ydych yn ail-fewnforio cerbyd sydd wedi’i gofrestru yn y DU o’r blaen - ac yna wedi’i allforio - bydd angen ichi ei gofrestru eto.
Os yw eich cerbyd wedi’i ddifrodi
Os yw eich cerbyd yn cael ei ddosbarthu fel ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’ ni allwch ei gofrestru gyda DVLA. Ni chewch ad-daliad am unrhyw TAW a tholl na ffi cymeradwyo cerbyd a dalwyd gennych cyn ceisio cofrestru’r cerbyd.
Mae difrod difrifol yn golygu nad oes modd atgyweirio’r cerbyd. Ar gyfer cerbydau o’r DU, mae hyn yn golygu ei fod yn gerbyd sydd wedi’i ddatgan fel anadferadwy gan gwmni yswiriant categori A neu B.
Ar gyfer cerbydau a fewnforir, gallai ddweud rhywbeth fel ‘cerbyd wedi’i ddiddymu’n statudol’ (‘statutory write-off’), ‘wedi’i sgrapio’ (’scrapped’) neu ‘anadferadwy’ (‘non-repairable’) ar y dystysgrif gofrestru.
Gwiriwch gyda’r awdurdod cofrestru ar gyfer y wlad y mae’r cerbyd yn dod ohoni i gael gwybod os yw’r cerbyd ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’.
Os nad yw ‘wedi’i ddifrodi’n ddifrifol’, gofynnwch iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn.
Gwneud cais
Rhaid ichi lenwi ffurflen i wneud cais i gofrestru’r cerbyd.
Defnyddio ffurflen V55/4W ar gyfer cerbydau newydd
Llenwch y ffurflen V55/4W i gofrestru cerbyd newydd, gan gynnwys cerbydau newydd wedi’u mewnforio a cheir sydd newydd gael eu hadeiladu (ceir cit).
Defnyddio ffurflen V55/5W ar gyfer cerbydau ail-law
Llenwch y ffurflen V55/5W i gofrestru cerbyd ail-law, gan gynnwys:
-
cerbydau ail-law wedi’u mewnforio
-
cerbydau hŷn nad ydynt erioed wedi’u cofrestru
-
cerbydau sydd wedi cael eu dychwelyd i’r DU ar ôl cael eu hallforio
Darparu copïau o ddogfennau adnabod
Anfonwch lungopi o’ch trwydded yrru cerdyn-llun gyda’ch ffurflen gais i brofi pwy ydych chi.
Os na allwch wneud hyn, rhaid ichi anfon llungopïau o un ddogfen sy’n profi eich enw a dogfen arall sy’n profi eich cyfeiriad.
Mae’r dogfennau y gallwch eu defnyddio i gadarnhau eich enw yn cynnwys eich:
-
pasbort
-
tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
-
dogfen ysgariad neu ddiwedd partneriaeth sifil (archddyfarniad amodol, archddyfarniad absoliwt, gorchymyn amodol neu orchymyn terfynol)
-
tystysgrif geni neu fabwysiadu
-
Tystysgrif Cydnabod Rhywedd
-
trwydded yrru bapur y DU gyfredol (nid gwrthddalen bapur)
Mae’r dogfennau y gallwch eu defnyddio i gadarnhau eich cyfeiriad yn cynnwys:
-
bil cyfleustodau diweddar (o fewn y 3 mis diwethaf) - er enghraifft nwy, trydan, dŵr, llinell dir
-
cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu ddiweddar (yn ystod y 3 mis diwethaf)
-
cerdyn meddygol
-
bil treth gyngor ar gyfer y flwyddyn bresennol
Gallwch lenwi ffurflen V959 - ‘Hysbysiad o wiriad enw a chyfeiriad’ yn lle’r dogfennau hyn i brofi eich hunaniaeth os ydych yn ddeiliad plât masnach DVLA cyfredol.
Dogfennau ategol sydd eu hangen ar gyfer pob cerbyd
Yn ogystal â dogfennau i brofi eich hunaniaeth, rhaid ichi hefyd anfon:
-
taliad am y dreth cerbyd
-
y ffi gofrestru newydd o £55 os oes rhaid ichi ei thalu
-
tystysgrif newydd-deb (neu ddatganiad newydd-deb ar gyfer cerbydau a fewnforir) os yw’r cerbyd yn newydd
-
prawf o gymeradwyaeth cerbyd os yw’r cerbyd o dan 10 oed (oni bai ei fod wedi’i eithrio rhag cymeradwyaeth cerbyd)
-
unrhyw ddogfennau sydd gennych sy’n ymwneud â’r cerbyd, er enghraifft cynlluniau adeiladu os yw’n gar cit
-
tystysgrif yswiriant neu sicrwydd yswiriant os ydych yn cofrestru’r cerbyd i gyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon
-
prawf o MOT cyfredol os yw’r cerbyd dros 3 oed (dros 4 oed yng Ngogledd Iwerddon), fel copi o hanes MOT eich cerbyd
Ni fydd unrhyw brawf MOT a anfonwch ar gyfer cerbyd ysgafn neu feic modur yn cael ei ddychwelyd atoch.
Dogfennau ategol sydd eu hangen ar gyfer rhai cerbydau
Efallai y bydd rhaid ichi anfon ffurflenni a dogfennau ychwanegol os:
- yw eich cerbyd wedi cael ei addasu’n strwythurol
- yw eich cerbyd wedi’i fewnforio
- yw eich cerbyd wedi’i adeiladu o git neu wedi’i drosi o git
- yw eich cerbyd yn hen
- yw eich cerbyd yn gerbyd clasurol wedi’i ailadeiladu
Ar ôl ichi wneud cais
Efallai y bydd angen i DVLA archwilio’ch cerbyd. Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd DVLA yn anfon llyfr log cerbyd (V5CW) atoch.
Mae eich V5CW yn dangos:
-
rhif cofrestru’r cerbyd
-
enw a chyfeiriad ceidwad y cerbyd
-
gwybodaeth arall am y cerbyd (y gwneuthuriad, y rhif adnabod cerbyd (VIN) a nifer y perchnogion blaenorol)
Bydd DVLA hefyd yn dychwelyd eich dogfennau adnabod.
Bydd angen ichi ddarparu amlen anfoniad arbennig ragdaledig â’ch enw a’ch cyfeiriad arni os ydych am i’r dogfennau gael eu dychwelyd drwy ddanfoniad arbennig.
Ni all DVLA warantu y bydd y dogfennau’n cael eu dychwelyd erbyn dyddiad penodol.
4. Ffi cofrestriadau newydd
Bydd rhaid ichi dalu ffi o £55 os ydych yn cofrestru ac yn trethu cerbyd am y tro cyntaf gyda DVLA.
Gallwch dalu drwy siec neu archeb bost. Ni allwch anfon arian parod. Ni dderbynnir sieciau sydd wedi cael eu difetha neu eu newid.
Nid oes rhaid ichi dalu am rai cerbydau, gan gynnwys:
-
y rhai a gofrestrwyd gyntaf ac a drwyddedwyd yn y dosbarth treth eithriedig i bobl anabl
-
cerbydau hanesyddol a gofrestrwyd yn flaenorol gyda’r hen awdurdodau lleol (trosiadau hwyr)
-
cerbydau a gofrestrwyd yn flaenorol yn y Deyrnas Unedig
-
cerbydau a fewnforiwyd a oedd wedi’u cofrestru’n flaenorol o dan y cynllun allforio personol a’r cynllun dull cludo newydd
-
cerbydau lluoedd sy’n ymweld
-
cerbydau a gofrestrwyd o dan y cynllun allforio uniongyrchol (oni bai eu bod yn dychwelyd i’r DU ar ôl cael eu cofrestru mewn gwlad arall)
-
cerbydau a gofrestrwyd i’w defnyddio oddi ar y ffordd yn unig
-
cerbydau’r goron sydd wedi’u heithrio
5. Atgyweiriadau ac adferiadau
Mae atgyweiriadau ac adferiadau yn dod â cherbyd yn ôl i fanylebau’r gwneuthurwr. Er enghraifft, atgyweirio cydrannau neu baneli corff.
Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich cerbyd bob amser yn ddiogel i yrru.
Mae dim ond angen ichi roi gwybod i DVLA am atgyweiriad neu adferiad os:
-
ydych yn amnewid siasi, cragen corff unigol neu ffrâm beic modur
Mae proses wahanol i roi gwybod i DVLA os ydych wedi addasu’r siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm i wneud y cerbyd yn wahanol i fanylebau’r gwneuthurwr.
Beth sy’n cyfrif fel atgyweiriad neu adferiad
Gall atgyweiriadau neu adferiadau ar gyfer ceir, beiciau modur neu gerbydau nwyddau ysgafn (o dan 3,500kg) gynnwys:
-
atgyweirio’r siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm (rhaid i hwn gael ei asio â sêm barhaus)
-
amnewid llawr cist y cerbyd, lleoedd traed, sil, llyw, hongiad, gerflwch neu echel
-
amnewid bwâu olwynion
-
addasu adenydd i ganiatáu ar gyfer olwynion lletach
-
ychwanegu bar gwrthrolio neu gawell gwrthrolio
-
tynnu bar gwrthrolio neu gawell gwrthrolio a osodwyd ar ôl i’r car gael ei gynhyrchu (rhaid asio sêm barhaus dros dyllau i ddychwelyd cerbyd i’w gyflwr gwreiddiol)
-
amnewid is-fframiau
-
amnewid y ffyrc ar feic modur
-
gosod gwregysau diogelwch (gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr)
-
gosod ategolion o gyfnod hysbys yn hanes y car
Darllen y canllaw ar atgyweirio neu adfer cerbyd (INF318W).
Cyn ichi wneud atgyweiriad neu adferiad
Rhaid i chi gadw ffotograffau o rif adnabod y cerbyd (VIN) os bydd y gwaith atgyweirio neu adfer yn golygu na fydd modd adnabod y VIN bellach. Mae’r VIN yn eich helpu i brofi hunaniaeth wreiddiol y cerbyd.
Defnyddio rhannau ail-law
Dim ond rhannau bach y gellir eu cymryd o gerbyd sydd wedi cael Tystysgrif Ddinistrio (CoD).
Rhaid i gerbydau â CoD byth ailymddangos fel cerbydau cyflawn neu gael eu cyflwyno i’w cofrestru. Er y gellir ailgylchu rhai cydrannau, ni allwch gadw’r rhif cofrestru gwreiddiol na’r rhif adnabod cerbyd.
Ar ôl ichi wneud yr atgyweiriad neu adferiad
Dylech gael gwiriad MOT ar gyfer eich cerbyd a sicrhau bod yswiriant eich cerbyd yn dal yn ddilys.
Gallwch gael archwiliad cymeradwyaeth cerbyd unigol (IVA) yn lle MOT os oes gennych gar.
Os oes angen ichi roi gwybod i DVLA am atgyweiriad neu adferiad
Cwblhewch ffurflen V627/1W - ‘Datganiad am rannau cerbyd’.
Anfonwch y ffurflen i ‘Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu’ yn DVLA ynghyd â’r canlynol:
-
y llyfr log cerbyd (V5CW) neu gais V62W os nad yw’r V5CW ar gael
-
copïau o dderbynebau ar gyfer unrhyw amnewidiadau i’r siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm
Rhaid ichi hefyd anfon ffotograffau o’r canlynol:
-
y stamp neu blât rhif adnabod cerbyd (VIN) ar yr hen siasi, cragen corff unigol neu ffrâm sy’n cael ei hamnewid
-
yr hen sticer VIN - fel arfer gallwch ddod o hyd iddo ger drws y gyrrwr neu ar y dangosfwrdd ger y ffenestr flaen ar ochr y gyrrwr
Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu
D10
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ
Cysylltwch â DVLA os nad ydych yn siŵr beth sydd angen ichi ei ddarparu.
Ar ôl ichi roi gwybod i DVLA am atgyweiriad neu adferiad
Bydd DVLA yn anfon llythyr atoch i gadarnhau y gellir stampio’r VIN gwreiddiol a ddangosir ar gofnod y cerbyd ar y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm amnewid.
Anfonir V5CW newydd ar ôl ichi gadarnhau bod y cerbyd wedi’i ail-stampio.
Fel arfer, bydd y cerbyd yn cadw’r VIN gwreiddiol. Bydd DVLA yn dweud wrthych os oes rheswm pam na all ei gadw.
Os na all eich cerbyd gadw ei rif cofrestru gwreiddiol
Bydd DVLA yn rhoi rhif cofrestru sy’n dechrau gyda ‘Q’ i’ch cerbyd os oes amheuaeth ynghylch ei oedran neu ei hunaniaeth.
6. Cerbydau wedi'u hadeiladu o git
Rhaid i’ch cerbyd fodloni’r rheoliadau cerbydau ar y ffordd os ydych yn ei ddefnyddio ar y ffordd.
Cerbyd sydd wedi’i adeiladu o git yw un lle mae’r holl rannau’n cael eu darparu o’r newydd gan y gwneuthurwr.
Sut i gofrestru
Rhaid ichi ddilyn yr holl gyfarwyddiadau ar gyfer cofrestru cerbyd newydd.
Rhaid ichi gynnwys y canlynol gyda’ch cais:
-
prawf o gymeradwyaeth math – gweler ‘Cymeradwyaeth math cerbyd’ isod
-
derbynebau swyddogol ar gyfer y cerbyd ac unrhyw rannau a ddefnyddiwyd
-
cynlluniau adeiladu
-
prawf bod unrhyw ran ‘wedi’i hadnewyddu’ i safon ‘fel newydd’
Cysylltwch â DVLA os nad ydych yn siŵr beth sydd angen ichi ei ddarparu.
Anfonwch eich cais i ‘Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu’ yn DVLA.
Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu
D10
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ
Cymeradwyaeth math cerbyd
Rhaid i bob cerbyd wedi’i adeiladu o git gael cymeradwyaeth math.
Cael rhif cofrestru cyfredol
Gallwch gofrestru car, beic modur neu feic tair olwyn sydd wedi’i adeiladu o git gyda rhif cofrestru cyfredol os gallwch brofi ei fod i gyd wedi’i wneud o rannau newydd a gyflenwyd gan y gwneuthurwr.
Gallwch hefyd gael rhif cofrestru cyfredol ar gyfer car, beic modur neu feic tair olwyn sydd wedi’i adeiladu o git gydag un rhan wedi’i hadnewyddu os:
-
gallwch ddangos bod y rhan wedi’i hadnewyddu i safon ‘fel newydd’, yn unol â chanllawiau’r gwneuthurwr
-
nad y siasi, y gragen corff unigol na’r ffrâm yw’r rhan
Cael rhif cofrestru Q
Bydd DVLA yn rhoi rhif cofrestru rhagddodiad ‘Q’ i’ch cerbyd os nad ydych yn bodloni’r amodau ar gyfer cael rhif cofrestru cyfredol.
Rhaid i’ch cerbyd basio’r prawf cymeradwyaeth math perthnasol i gael rhif cofrestru Q.
7. Cerbydau wedi'u trosi o git
Rhaid i’ch cerbyd fodloni’r rheoliadau cerbydau ar y ffordd os ydych yn ei ddefnyddio ar y ffordd.
Mae cerbyd wedi’i drosi o git wedi cael un o’r canlynol:
-
cit o rannau newydd wedi’u hychwanegu at gerbyd presennol
-
hen rannau wedi’u hychwanegu at git newydd
Bydd ymddangosiad cyffredinol y cerbyd yn newid oherwydd y cit.
Sut i gofrestru
Rhaid ichi ddilyn yr holl gyfarwyddiadau ar gyfer cofrestru cerbyd newydd.
Bydd angen ichi gynnwys y canlynol gyda’ch cais:
-
y llyfr log cerbyd (V5CW) ar gyfer y cerbyd gwreiddiol
-
prawf o gymeradwyaeth math, os oes angen
-
derbynebau swyddogol ar gyfer unrhyw rannau a ddefnyddiwyd
-
cynlluniau adeiladu
-
ffotograffau o’r cerbyd
Cysylltwch â DVLA os nad ydych yn siŵr beth sydd angen ichi ei ddarparu.
Anfonwch eich cais i ‘Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu’ yn DVLA.
Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu
D10
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ
Cadw rhif cofrestru gwreiddiol cerbyd
Gallwch wneud cais i gadw rhif cofrestru gwreiddiol cerbyd wedi’i drosi o git os gallwch brofi eich bod wedi defnyddio 2 ran fawr wreiddiol ynghyd â’r:
-
siasi wreiddiol heb ei haddasu (car neu fan ysgafn)
-
cragen corff unigol wreiddiol heb ei haddasu (car neu fan ysgafn)
-
ffrâm heb ei haddasu (beic modur)
Cael rhif cofrestru sy’n seiliedig ar oedran
Gallwch wneud cais am rif sy’n seiliedig ar oedran os gallwch brofi eich bod wedi defnyddio 2 ran fawr wreiddiol ynghyd â:
-
chragen corff unigol, siasi neu ffrâm newydd gan wneuthurwr cit arbenigol
-
siasi, cragen corff unigol neu ffrâm wedi’i newid o’r cerbyd presennol
Bydd y rhif cofrestru yn seiliedig ar oedran y cerbyd gwreiddiol.
Rhaid i’ch cerbyd basio’r prawf cymeradwyaeth math perthnasol i gael rhif cofrestru sy’n seiliedig ar oedran.
Cael rhif cofrestru Q
Bydd DVLA yn rhoi rhif cofrestru rhagddodiad ‘Q’ i’ch cerbyd os nad ydych yn bodloni’r amodau ar gyfer cael rhif cofrestru gwreiddiol neu sy’n seiliedig ar oedran.
Rhaid i’ch cerbyd basio’r prawf cymeradwyaeth math perthnasol i gael rhif cofrestru Q.
Rhaid i gerbydau â Thystysgrif Ddinistrio (CoD) byth ailymddangos fel cerbydau cyflawn neu gael eu cyflwyno i’w cofrestru, er y gall rhai cydrannau fod yn rhai wedi’u hailgylchu. Ni allwch gadw’r rhif cofrestru gwreiddiol na’r rhif adnabod cerbyd.
8. Cerbydau wedi'u haddasu'n strwythurol
Os ydych yn addasu siasi, cragen corff unigol neu ffrâm i newid dimensiynau neu ymddangosiad y cerbyd, gelwir hyn yn ‘addasiad strwythurol’.
Rhaid ichi ddweud wrth DVLA os ydych yn gwneud addasiad strwythurol i gerbyd.
Dim ond arbenigwr ddylai wneud addasiadau. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich cerbyd bob amser yn ddiogel i yrru.
Mae proses wahanol i roi gwybod i DVLA os ydych yn amnewid y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm i gydweddu â manylebau’r gwneuthurwr.
Nid oes angen ichi ddweud wrthynt am unrhyw atgyweiriadau neu adferiadau eraill.
Beth sy’n cyfrif fel addasiad strwythurol
Gall addasiad strwythurol ar gyfer ceir, beiciau modur neu gerbydau nwyddau ysgafn (o dan 3,500kg) gynnwys:
-
newid y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm (er enghraifft newid y siâp fel ei fod yn edrych fel math gwahanol o gerbyd)
-
ymestyn, byrhau neu ledu ffrâm beic modur
-
torri, ymestyn neu fyrhau pileri’r to
-
tynnu’r to
-
tynnu cawell gwrthrolio integredig
-
addasu neu dynnu is-fframiau neu aelodau cynnal sy’n dwyn llwyth
-
gwneud tyllau ychwanegol o fewn 30cm o unrhyw bwynt gosod hongiad, llyw, breciau, neu wregys diogelwch
-
troi beic modur yn feic tair olwyn
Mae hefyd angen ichi ddweud wrth DVLA os ydych yn addasu cerbyd drwy ei drosi i redeg ar drydan, hyd yn oed os nad ydych yn gwneud addasiadau strwythurol fel newid yr ymddangosiad.
Gweler beth arall a allai gyfrif fel addasiad strwythurol.
Profi hunaniaeth wreiddiol eich cerbyd
Rhaid ichi gadw tystiolaeth o rif adnabod cerbyd (VIN) gwreiddiol eich cerbyd wrth addasu’ch cerbyd. Mae hyn yn cynnwys ffotograffau o’r canlynol:
-
y cerbyd
-
yr addasiadau sydd wedi’u gwneud
-
y VIN
Bydd hefyd angen ichi anfon eich llyfr log cerbyd (V5CW) i DVLA pan fyddwch yn dweud wrthynt am yr addasiad.
Ar ôl ichi wneud yr addasiad strwythurol
Dylech gael MOT ar y cerbyd a sicrhau bod eich yswiriant cerbyd yn dal yn ddilys.
Os yw’r cerbyd dros 40 oed, rhaid ichi gael MOT. Bydd angen ichi anfon prawf ohono pan fyddwch yn dweud wrth DVLA am y newid.
Troi beic modur yn feic tair olwyn
Os ydych yn troi beic modur yn feic tair olwyn gan ddefnyddio cit neu gynllun trosi, rhaid ei gofrestru fel cerbyd wedi’i drosi o git.
Os na wnaethoch ddefnyddio cit neu gynllun trosi, rhaid ichi ddweud wrth DVLA am yr addasiad strwythurol.
Os oes gan y cerbyd system tair olwyn wedi’i hasio, bydd angen i DVLA gyhoeddi rhif adnabod cerbyd (VIN). Bydd angen ichi gael cymeradwyaeth cerbyd unigol beic modur (MSVA).
Os oes angen ichi roi gwybod i DVLA am gerbyd sydd wedi’i addasu’n strwythurol
Cwblhewch ffurflen V627/3W - ‘Datganiad am gerbyd sydd wedi’i addasu’.
Anfonwch i ‘Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu’ yn DVLA ynghyd â’r canlynol:
-
y llyfr log cerbyd (V5CW)
-
ffotograffau o’r VIN gwreiddiol, yr addasiadau sydd wedi’u gwneud a’ch cerbyd
-
prawf o MOT neu MSVA cyfredol (os oes angen)
Os yw’r cerbyd dros 40 oed, bydd angen ichi anfon prawf ei fod wedi cael MOT ers ichi wneud yr addasiad strwythurol.
Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu
D10
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ
Ar ôl ichi roi gwybod i DVLA am gerbyd sydd wedi’i addasu’n strwythurol
Bydd DVLA yn cyhoeddi tystysgrif gofrestru (V5CW) newydd sy’n nodi bod y cerbyd wedi’i addasu o fanyleb wreiddiol y gwneuthurwr.
Fel arfer, bydd y cerbyd yn cadw’r VIN gwreiddiol. Bydd DVLA yn dweud wrthych os oes rheswm pam na all ei gadw.
Os na all eich cerbyd gadw ei rif cofrestru gwreiddiol
Bydd DVLA yn rhoi rhif cofrestru sy’n dechrau gyda ‘Q’ i’ch cerbyd os oes amheuaeth ynghylch ei oedran neu ei hunaniaeth.
9. Hen gerbydau
Rhaid i’ch cerbyd fodloni’r rheoliadau cerbydau ar y ffordd os ydych yn ei ddefnyddio ar y ffordd.
Os oes gennych gerbyd clasurol nad yw wedi’i drethu ers 1983, efallai nad yw wedi’i gofrestru gyda DVLA.
Os felly ac os ydych am ei gofrestru, dilynwch yr holl gyfarwyddiadau ar gyfer cofrestriadau newydd.
Cael rhif cofrestru gwreiddiol eich cerbyd
Efallai y gallwch gofrestru hen gerbyd o dan ei rif cofrestru gwreiddiol os yw un o’r canlynol yn wir:
-
nid yw erioed wedi’i gofrestru yn DVLA
-
mae ganddo rif cofrestru sy’n seiliedig ar oedran
I wneud hyn, bydd rhaid ichi:
-
ddilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer cofrestriadau newydd
-
llenwi ffurflen V765 - ‘Cais i gofrestru cerbyd o dan ei rif cofrestru gwreiddiol’
-
cael ffurflen V765 wedi’i chymeradwyo gan glwb perchnogion cerbydau
-
darparu ffotograff diweddar o’r cerbyd a phrawf dogfennol sy’n ei gysylltu â’r rhif gwreiddiol, er enghraifft y llyfr log (V5CW) gwreiddiol
Anfonwch y ffurflenni i ‘Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu’ yn DVLA.
Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu
D10
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ
Ar ôl ichi wneud cais
Bydd DVLA yn cyhoeddi V5CW ac yn rhoi un o’r canlynol ichi:
-
y rhif cofrestru gwreiddiol - os bydd hyn yn digwydd, ni chaniateir ichi ei drosglwyddo na’i gadw yn nes ymlaen
-
rhif arall sy’n briodol i oedran y cerbyd - os yw hwn yn rhif rhagddodiad neu nad yw’n rhif ôl-ddodiad, ni fydd yn drosglwyddadwy chwaith
Gogledd Iwerddon
Anfonwch ffurflen V62W wedi’i chwblhau a’r ffurflen RF60 os ydych am gofrestru cerbyd hanesyddol yng Ngogledd Iwerddon.
MST 2
D10
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ
Bydd DVLA yn cofrestru’r cerbyd ac yn cyhoeddi V5CW newydd i’r ceidwad cofrestredig. Dylech dderbyn hon o fewn 4 wythnos.
10. Cerbydau clasurol wedi'u hailadeiladu
Rhaid i’ch cerbyd gydymffurfio â’r rheoliadau cerbydau ar y ffordd os ydych yn ei ddefnyddio ar y ffordd.
Gallwch gael un o’r canlynol:
-
rhif cofrestru sy’n seiliedig ar oedran
-
rhif cofrestru ‘Q’
Sut i gofrestru
Rhaid ichi ddilyn yr holl gyfarwyddiadau ar gyfer cofrestru cerbyd newydd.
Rhaid ichi gynnwys y canlynol gyda’ch cais:
-
prawf o gymeradwyaeth math, os oes angen
-
derbynebau swyddogol ar gyfer unrhyw rannau a ddefnyddiwyd
-
adroddiad ysgrifenedig gan y clwb perchnogion cerbydau priodol
Cael rhif cofrestru sy’n seiliedig ar oedran
Dim ond os yw’n bodloni meini prawf penodol y gall DVLA gydnabod eich cerbyd fel cerbyd clasurol wedi’i ailadeiladu. Rhaid iddo:
-
fod wedi’i adeiladu o gydrannau cyfnod dilys o fwy nag un cerbyd, pob un dros 40 oed ac o’r un fanyleb â’r cerbyd gwreiddiol
-
fod yn adlewyrchiad gwir o wneuthuriad a model y cerbyd (a elwir yn ‘marque’)
-
gael ei archwilio gan glwb perchnogion cerbydau
Os oes gan eich cerbyd siasi a chragen corff wedi’u cyfuno
Rhaid i gerbydau sydd â siasi a chragen corff wedi’u cyfuno (a elwir hefyd yn gerbydau â ‘chragen corff unigol’) gael eu hadeiladu bob amser gan ddefnyddio rhannau dilys o’r cyfnod o fwy nag un cerbyd, a phob un ohonynt dros 40 oed.
Os oes gan eich cerbyd siasi a chragen corff ar wahân
Os nad oes cragen corff wreiddiol ar gael, gellir defnyddio cragen corff newydd a adeiladwyd i gymryd lle un arall. Rhaid iddi fod o’r un fanyleb ag y byddai wedi bod pan oedd y cerbyd yn cael ei gynhyrchu. Rhaid i’r holl rannau eraill fod yn rannau dilys o’r cyfnod sy’n hŷn na 40 oed, gan gynnwys y siasi.
Cael archwiliad gan glwb perchnogion cerbydau
Rhaid i’r clwb perchnogion cerbydau priodol ar gyfer y marque archwilio’r cerbyd a chadarnhau yn ysgrifenedig ei fod:
-
wedi’i archwilio
-
yn adlewyrchiad gwir o’r marque
Rhaid iddynt hefyd roi dyddiadau gweithgynhyrchu ar gyfer y prif gydrannau.
Bydd DVLA yn aseinio rhif cofrestru sy’n seiliedig ar oedran i’r cerbyd yn seiliedig ar y gydran ieuengaf a ddefnyddiwyd (ac eithrio cragen corff newydd a adeiladwyd i gymryd lle un arall).
Cael rhif cofrestru Q
Bydd DVLA yn rhoi rhif cofrestru rhagddodiad ‘Q’ i’ch cerbyd os nad ydych yn bodloni’r amodau ar gyfer cael rhif cofrestru gwreiddiol sy’n seiliedig ar oedran.
Rhaid i’ch cerbyd basio’r prawf cymeradwyaeth math perthnasol i gael rhif cofrestru Q.
Rhaid i gerbydau â Thystysgrif Ddinistrio (CoD) byth ailymddangos fel cerbydau cyflawn neu gael eu cyflwyno i’w cofrestru, er y gellir ailgylchu rhai cydrannau. Ni allwch gadw’r rhif cofrestru gwreiddiol na’r rhif adnabod cerbyd.
11. Rhif adnabod cerbyd
Rhaid i bob cerbyd sydd wedi’i gofrestru yn y DU gael rhif adnabod cerbyd (VIN) unigryw wedi’i stampio a rhif cofrestru.
Dod o hyd i’ch VIN
Fel arfer mae’r VIN wedi’i stampio ar siasi’r cerbyd. Efallai y bydd yn cael ei golli os byddwch yn atgyweirio, adfer neu addasu’ch cerbyd.
Pryd efallai y bydd arnoch angen VIN neu rif cofrestru newydd
Fel arfer, bydd rhaid i DVLA asesu’r cerbyd os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae ei hunaniaeth dan sylw (er enghraifft, os ydych wedi symud y VIN)
Byddant yn anfon llythyr atoch os oes angen iddynt wneud hyn. Ni fydd angen ichi dalu ffi.
Efallai y byddwch yn gallu cadw ei rif cofrestru gwreiddiol os gallwch brofi VIN gwreiddiol y cerbyd. Os na allwch wneud hynny, bydd rhaid ichi wneud cais am rif adnabod amnewid.
Bydd DVLA yn rhoi llythyr awdurdodi ichi i gael y cerbyd wedi’i stampio â’r VIN newydd os bydd eich cerbyd yn pasio ei asesiad.
Yna bydd angen ichi gofrestru’r cerbyd - dim ond pan fydd DVLA yn derbyn cadarnhad ei fod wedi’i stampio â’r VIN cywir y gallwch wneud hyn.
Mae ffordd wahanol o gael VIN newydd os ydych yn wneuthurwr cerbydau.
12. Rhifau cofrestru 'Q'
Mae DVLA yn cyhoeddi rhifau cofrestru ‘Q’ i gerbydau y mae amheuaeth ynghylch eu hoedran neu eu hunaniaeth.
Os bydd hyn yn digwydd, bydd unrhyw rif cofrestru cerbyd gwreiddiol yn annilys a rhaid ichi beidio â’i arddangos eto.
I gael rhif cofrestru ‘Q’, rhaid i’ch cerbyd basio proses cymeradwyaeth math.