Talu Cytundeb Setliad TWE
Printable version
1. Trosolwg
Mae’n rhaid i chi dalu’r dreth a’r Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B sy’n ddyledus o’ch Cytundeb Setliad TWE (PSA) erbyn 22 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi (neu 19 Hydref os ydych yn talu drwy’r post).
Mae faint y byddwch yn ei dalu’n dibynnu ar swm y treuliau neu fudd-daliadau y byddwch yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) amdanynt (yn agor tudalen Saesneg). Os na fyddwch yn gwneud hyn, efallai y bydd CThEF yn cyfrifo’r swm ac mae’n bosibl y gallai’r swm sy’n cael ei godi fod yn fwy. Gallai’ch taliad hefyd gael ei ddyrannu i’r cyfrif anghywir.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Talu ar-lein
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu CThEF erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosbau a llog os yw’ch taliad yn hwyr.
Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:
- cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
- Debyd Uniongyrchol (taliad untro)
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Dulliau eraill o dalu
Gallwch ddewis talu drwy ddulliau eraill. Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
- cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein
- bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS
- drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
- yn eich banc neu gymdeithas adeiladu
3 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
- bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Bacs
5 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).
2. Debyd Uniongyrchol
Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol drwy gyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) eich busnes i wneud taliad unigol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi drefnu taliad bob tro y byddwch yn talu CThEF drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Defnyddiwch eich cyfeirnod
Bydd angen eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) arnoch wrth wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.
Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE.
Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir
Mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.
Os ydych yn talu TWE neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy Ddebyd Uniongyrchol, gwnewch daliad Debyd Uniongyrchol ar wahân ar gyfer eich PSA.
Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.
3. Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’ch Cytundeb Setliad TWE yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.
Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Cytundeb Setliad TWE. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad Cytundeb Setliad TWE.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
- drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
- drwy ffonio’ch banc
Cyfeirnod
Bydd angen eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) arnoch wrth wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar y slip talu a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE.
Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir
Mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001020
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
5. Drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
Gallwch dalu ar-lein.
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau), nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif.
Os na allwch dalu eich Cytundebau Setliad TWE (PSA) yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu, megis trosglwyddiad banc.
Cyfeirnod
Bydd angen eich cyfeirnod PSA arnoch. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.
Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE.
Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir
Mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Gallwch dalu yn eich cangen ag arian parod neu siec. Bydd angen i chi ddefnyddio’r slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hyn i’w weld ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (os ydych yn ei dalu o ddydd Llun i ddydd Gwener), nid ar y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif.
7. Talu â siec drwy’r post
Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.
HMRC
Direct
BX5 5BD
Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich taliad yn cyrraedd CThEF erbyn y dyddiad cau.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Cytundeb Setliad TWE (PSA), sy’n 14 o gymeriadau, ar gefn y siec.
Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Os gwnaeth CThEF anfon slip talu atoch, dylech ei gynnwys gyda’ch siec. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.
Os nad oes gennych slip talu CThEF
Gallwch dalu â siec drwy’r post o hyd. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfeirnod PSA ar gefn eich siec.
8. Gwirio bod eich taliad wedi cyrraedd
Gallwch fwrw golwg dros eich cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn cadarnhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif.
Os ydych yn talu drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF).