Dewislen

CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2

Manylion swydd
Dyddiad hysbysebu: 18 Mai 2026
Cyflog: Heb ei nodi
Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: Please See Advert
Oriau: Llawn Amser
Dyddiad cau: 15 Mehefin 2026
Lleoliad: Castell Nedd, Neath Port Talbot, SA11 2UN
Gweithio o bell: Ar y safle yn unig
Cwmni: eTeach UK Limited
Math o swydd: Cytundeb
Cyfeirnod swydd: 1553746

Gwneud cais am y swydd hon

Crynodeb

Dros Dro am Flwyddyn 30 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn) Cyf y Swydd: I ddechrau: 01/09/2026 – 31/08/2027 Dros Dro 30 Awr yr wythnos ynghyd â dyletswydd amser cinio Cyflog: Gradd 3 (SCP 3-5) -£17,370 - £17,921.31 - y flwyddyn ychwanegol £1675.4 am ddyletswydd amser cinio Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd weithio yn y Clwb Gofal ar ôl ysgol am 2 awr bob pythefnos. Mae’r swydd yma am 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos cefnogol yr ysgol. Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant). Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Tyle’r Ynn for which the ability to speak Welsh is essential

Gwneud cais am y swydd hon