CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2
| Dyddiad hysbysebu: | 18 Mai 2026 |
|---|---|
| Cyflog: | Heb ei nodi |
| Gwybodaeth ychwanegol am y cyflog: | Please See Advert |
| Oriau: | Llawn Amser |
| Dyddiad cau: | 15 Mehefin 2026 |
| Lleoliad: | Castell Nedd, Neath Port Talbot, SA11 2UN |
| Gweithio o bell: | Ar y safle yn unig |
| Cwmni: | eTeach UK Limited |
| Math o swydd: | Cytundeb |
| Cyfeirnod swydd: | 1553746 |
Crynodeb
Dros Dro am Flwyddyn
30 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)
Cyf y Swydd:
I ddechrau: 01/09/2026 – 31/08/2027 Dros Dro 30 Awr yr wythnos ynghyd â dyletswydd amser cinio
Cyflog: Gradd 3 (SCP 3-5) -£17,370 - £17,921.31 - y flwyddyn ychwanegol £1675.4 am ddyletswydd amser cinio
Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd weithio yn y Clwb Gofal ar ôl ysgol am 2 awr bob pythefnos. Mae’r swydd yma am 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos cefnogol yr ysgol.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Tyle’r Ynn for which the ability to speak Welsh is essential
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Tyle’r Ynn for which the ability to speak Welsh is essential