Arweiniad

Cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau: Pennod 3 – Pwy sydd â rhwymedigaethau o dan Ran 3 (gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus) a Rhan 7 (cymdeithasau) y Ddeddf?

Wedi ei gyhoeddi: 5 Awst 2026

Diweddarwyd diwethaf: 5 Awst 2026

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • England Lloegr
  • Scotland Alban
  • Wales Cymru

Rhagarweiniad

  1. Mae’r bennod yma o’r cod ymarfer (y Cod) n rhoi trosolwg ar bwy sydd â rhwymedigaethau o dan ddarpariaethau Rhannau 3 a 7 o’r Ddeddf, ac ym mha amgylchiadau.
  2. Yn ymarferol, gallai mwy nag un rhwymedigaeth o dan y Ddeddf fod yn berthnasol i berson neu sefydliad, gan ddibynnu ar eu gweithgaredd. Er enghraifft, gallai ymarferwyr swyddogaethau cyhoeddus hefyd fod yn darparu gwasanaeth i’r cyhoedd, neu ran o’r cyhoedd. Yn yr achosion hyn byddai ganddynt ddyletswyddau fel ar gyfer darparwyr gwasanaeth. Os na fyddent yn darparu gwasanaeth, byddai ganddynt ddyletswyddau fel ar gyfer ymarferwyr swyddogaethau cyhoeddus.

Enghraifft:

  1. Mae awdurdod lleol yn darparu gwasanaeth i gynorthwyo pobl i dalu treth y cyngor mewn swyddfeydd lleol, a hefyd i gael cyngor am ddim ar ddyledion a’u hawl i wahanol wasanaethau a budd-daliadau. Fodd bynnag, pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu defnyddio ei bwerau gorfodi i gasglu dyledion treth cyngor, mae’n ymarfer swyddogaeth gyhoeddus.
  1. Mae’r bennod yma hefyd yn egluro atebolrwydd posib cyflogwyr a phenaduriaid am weithredoedd eu staff ac asiantau, ac atebolrwydd posib am gyfarwyddo, achosi neu gymell rhywun i dorri’r Ddeddf. Endid yw penadur sydd â chapasiti cyfreithiol i weithredu ond yn penodi endid arall i gyflawni’r gweithredoedd hynny ar ei ran. Gall penaduriaid fod yn unigolion neu’n fusnesau. Mae perthynas penadur / asiant yn digwydd pan fydd penadur yn rhoi awdurdod i asiant weithredu ar ei ran. Eglurir hyn ymhellach ym mharagraffau 3.36 i 3.49.
  2. Mae’r bennod yn awgrymu beth allai rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau ei wneud i sicrhau eu bod yn cwrdd â rhwymedigaethau’r Ddeddf.

Fel yr eglurir ym Mhennod 1, defnyddir y term ‘gwahaniaethu’ i gyfeirio at wahaniaethu union ac anuniongyrchol a, lle bo’n berthnasol, gwahaniaethu ar sail anabledd, methu â gwneud addasiad rhesymol, a gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Gwasanaethau i’r cyhoedd

  1. Mae Rhan 3 y Ddeddf yn cyflwyno rhwymedigaethau i rai sy’n darparu gwasanaeth i’r cyhoedd, neu i ran o’r cyhoedd, p’un ai yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol. Nid oes ots a yw’r gwasanaethau’n rhai di-dâl, fel cael mynediad i ganolfan siopa, neu’n gyfnewid am dâl, fel pryd mewn bwyty. Mae’r rhwymedigaeth hefyd yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau ar wefan (adran 29).
  2. O dan y Ddeddf, mae darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn cynnwys darparu nwyddau neu gyfleusterau. Drwy gydol y Cod hwn, oni nodir yn wahanol, mae cyfeiriad at ddarparu gwasanaethau’n cynnwys darparu nwyddau neu gyfleusterau.

Rhoddir mwy o fanylion am wasanaethau i’r cyhoedd, gan gynnwys eithriadau i’r rhwymedigaethau o dan Ran 3, ym Mhennod 11 a Phennod 13.

Swyddogaethau cyhoeddus

  1. Mae Rhan 3 y Ddeddf hefyd yn cynnwys rhwymedigaethau i bawb sy’n ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, yn ôl diffiniad y Ddeddf (adran 31, paragraff 4).

Mae hyn yn berthnasol i ymarferwyr swyddogaeth gyhoeddus heb ddarparu gwasanaeth (adran 29, paragraff 6).

Rhoddir mwy o fanylion am wasanaethau i’r cyhoedd, gan gynnwys eithriadau i’r rhwymedigaethau o dan Ran 3, ym Mhennod 11 a Phennod 13.

Cymdeithasau

  1. O dan Ran 7 y Ddeddf (adran 107), mae gan unrhyw gymdeithas o bobl rwymedigaethau os:
  • mae ganddi 25+ o aelodau
  • mae aelodaeth o’r gymdeithas wedi’i rheoleiddio gan reolau ac mae proses ddethol (adran 107)
  • nid yw’n sefydliad masnach, fel sefydliad proffesiynol neu fusnes neu undeb llafur (adran 100)

Mae Rhan 5 y Ddeddf yn berthnasol i sefydliadau masnach ac mae dyletswyddau cyrff masnach o dan y Ddeddf y tu allan i gwmpas y Cod hwn.

Nid oes ots a yw’r gymdeithas yn gorfforedig neu beidio na ‘chwaith a yw ei gweithgareddau’n rhai i wneud elw.

Rhoddir mwy o fanylion am gymdeithasau, gan gynnwys eithriadau i’r rhwymedigaethau o dan Ran 7, ym Mhennod 12 a Phennod 13.

Perthynas a ddaeth i ben

  1. Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu fictimeiddioFootnote 1 rhywun ar ôl i berthynas o dan y Ddeddf ddod i ben, lle y mae’r driniaeth yn codi o, ac wedi’i chysylltu’n agos i’r berthynas honno a byddai’r driniaeth wedi cael ei gwahardd pe bai’r berthynas yn parhau (adran 108).
  2. Bydd person yn gallu gorfodi gwarchodaeth yn erbyn gwahaniaethu, aflonyddu neu fictimeiddio fel pe byddent dal yn y berthynas a ddaeth i ben.

Enghraifft:

  1. Ar ôl i’w perthynas fusnes ddod i ben, mae adeiladwr yn dweud pethau annifyr ac ymosodol wrth gwsmer blaenorol oherwydd ei hil. Byddai hyn yn aflonyddu.
  1. Rhaid gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl hyd yn oed ar ôl i berthynas ddod i ben os oes risg y gallent fod o dan anfantais sylweddol o’i gymharu â phobl heb anabledd.

Enghraifft:

  1. Roedd merch gyda nam ar ei golwg wedi cwblhau cwrs blasu gwin gan werthwr gwin. Pan gofrestrodd y ferch am y cwrs i ddechrau, dywedodd wrth y gwerthwr fod angen i unrhyw wybodaeth gael ei hanfon ati ar e-bost a chytunwyd i wneud yr addasiad rhesymol hwn. Chwe mis yn ddiweddarach, anfonodd y gwerthwr lythyrau at bawb oedd ar y cwrs yn cynnig disgownt o 50% ar y cwrs nesaf am ddychwelyd y ffurflen amgaeedig. Ni allai’r ferch fwynhau’r disgownt ar y cwrs nesaf a gynigiwyd i’r bobl eraill a fynychodd oherwydd mai ond drwy lythyr y cafodd ei anfon. Mae methu â sicrhau ei bod yn derbyn ac y gallai ymateb i’r cynnig mewn fformat priodol yn debygol o fod yn fethiant ar ran y gwerthwr i wneud addasiad rhesymol, er nad yw’r ferch yn dilyn cwrs gyda nhw mwyach.

Contractau

  1. Mae’r Ddeddf yn atal rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau rhag osgoi eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf drwy lunio cytundebau sy’n caniatáu iddynt wahaniaethu, aflonyddu, fictimeiddio neu gyflawni gweithredoedd anghyfreithlon eraill (adrannau 142 i 144)

Telerau anorfodadwy

  1. Mae telerau contract sy’n hyrwyddo neu’n darparu ar gyfer triniaeth a waherddir gan y Ddeddf yn anorfodadwy (ni ellir eu gorfodi) (adran 142), ond ni fydd hyn yn atal person sydd, neu a fyddai dan anfantais gan delerau na ellir eu gorfodi rhag dibynnu arnynt i ennill mantais y mae ganddynt hawl iddi.
  2. Mae’r Ddeddf hefyd yn dweud bod telerau contract sy’n ceisio eithrio neu gyfyngu darpariaethau gwrth-wahaniaethu, gwrth-aflonyddu neu wrth-fictimeiddio’r Ddeddf yn anorfodadwy gan berson y byddent yn gweithio o’u plaid. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal partïon mewn hawliad yn y llys sirol, llys siryf neu dribiwnlys cyflogaeth rhag llunio cytundeb a fyddai’n cael yr effaith o setlo’r hawliad. Ar gyfer hawliad yn y tribiwnlys cyflogaeth, rhaid i’r cytundeb gael ei lunio naill ai gyda chymorth swyddog cymodi neu fod yn gytundeb setlo cymwys (adrannau 144 i 147 y Ddeddf).

Dileu neu addasu telerau

  1. Gall person sydd â diddordeb mewn, neu’n cael ei effeithio gan gontract yn cynnwys telerau anorfodadwy, wneud cais i lys sirol neu lys siryf am orchymyn i ddileu neu addasu’r telerau. Fodd bynnag, ni wneir unrhyw orchymyn oni bai bod rhybudd wedi’i roi o’r cais i bawb y byddai’r gorchymyn yn effeithio arnynt ac fel y gallent wneud sylwadau.

Gall gorchymyn yn dileu neu’n addasu’r telerau anorfodadwy fod yn ôl-weithredol ei effaith (adran 143).

Cwmpas tiriogaethol

  1. Mae'r Ddeddf yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr. Ar wahân i adran 190 (gwelliannau i dai gosod) a Rhan 15 (eiddo teuluol), mae hefyd yn berthnasol i’r Alban (adran 217).

Nid yw darpariaethau Rhannau 3 a 7 yn berthnasol i Ogledd Iwerddon.

  1. Yn gyffredinol, mae rhagdybiaeth nad oes gan Ddeddfau Seneddol effaith y tu allan i’r DU oni bai:
  • bod y ddeddfwriaeth yn darparu’n benodol ei bod yn berthnasol y tu allan i’r DU
  • bod eithriad, er enghraifft bod angen i’r Ddeddf fod yn berthnasol y tu allan i’r DU i roi effaith i’r gyfraith yn ôl bwriad y SeneddFootnote 2
  1. Mae’r Ddeddf yn cynnwys y darpariaethau penodol canlynol sy’n berthnasol y tu allan i’r DU:

 

  1. I bwrpas ymarfer swyddogaethau cyhoeddus (adran 29, paragraff 6) o ran rhoi caniatâd mynediad (adran 29, paragraff 9), nid oes ots a yw’r weithred sy’n destun y gŵyn yn digwydd y tu allan i’r DU pan fo’n ymwneud â hil, crefydd neu gred.
  2. I bwrpas trafnidiaeth ar gyfer pobl a darparu gwasanaethau ar fwrdd llongau a hofrenfadau mewn amgylchiadau rhagnodedig (adran 30), nid oes ots a yw’r llong neu’r hofrenfad o fewn neu’r tu allan i’r DU (adran 30, paragraff 3).
  3. Ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan gymdeithas wybodaeth, lle y mae gwahanol reolau tiriogaethol yn berthnasol (paragraffau 11.76 i 11.82 am fwy o fanylion am y ddarpariaeth hon) (atodlen 25).

 

  1. Ar wahân i’r eithriadau penodol hyn, defnyddir y rhagdybiaeth hon. Yn ôl y Goruchaf Lys: ‘Yn niffyg geiriau penodol, gellir rhagdybio bod deddfwriaeth yn berthnasol y tu allan i’r DU ond mae’n drothwy uchel sydd angen ei oresgyn’.Footnote 3
  2. Mae p’un ai yw gweithred sy’n digwydd y tu allan i Brydain Fawr yn dod o dan ddarpariaethau’r Ddeddf yn fater i’w benderfynu gan y llysoedd, ar sail y rhagdybiaeth hon.
  3. Dyfarnwyd bod trefnydd teithiau yn y DU yn atebol am wahaniaethu a ddigwyddodd mewn trydedd wlad ar sail ffeithiau penodol yr achos.Footnote 4

Beth sydd ddim yn dod o dan y Cod?

Addysg

  1. Mae Rhan 6 y Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu, aflonyddu a fictimeiddio’n ymwneud ag addysg wedi’i darparu gan ‘gyrff cyfrifol’ penodedig mewn amgylchiadau penodedig. Mae’r rhain yn cynnwys cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch (adrannau 84 i 94). Nid yw’r Cod hwn yn delio â gwahaniaethu, aflonyddu a fictimeiddio o dan Ran 6.
  2. Mae rhai cyfleusterau hamdden a hyfforddiant sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol hefyd yn dod o dan Ran 6, felly hefyd swyddogaethau cyrff cymwysterau cyffredinol.
  3. Os yw’r gweithgareddau’n dod o dan Ran 6, ni fydd Rhan 3 yn berthnasol. Fodd bynnag, bydd gwasanaethau a swyddogaethau’n cael eu cyflawni gan gyrff addysgol, a chyfleusterau hamdden a hyfforddiant sydd ddim yn dod o dan Ran 6, ac y bydd Rhan 3 felly’n berthnasol iddynt (adrannau 95-97). Trafodir y rhain ym Mhennod 11, paragraffau 11.59 i 11.65.

Adeiladau

  1. Mae Rhan 4 y Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu, fictimeiddio ac aflonyddu wrth waredu a rheoli adeiladau mewn amgylchiadau penodedig. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, rhai sy’n darparu adeilad i’w rentu a hefyd wrth werthu eiddo (adrannau 32 i 38). Nid yw’r Cod yn delio â Rhan 4 y Ddeddf.
  2. Nid yw Rhan 4 y Ddeddf yn berthnasol yn yr amgylchiadau canlynol, ond gallent ddod o dan Ran 3:
  • lle y mae llety’n cael ei ddarparu fel arfer ar gyfer arosiadau byr gan unigolion sy’n byw yn rhywle arall (adran 32, paragraff 3(a))
  • lle y mae llety’n cael ei ddarparu dim ond i’r pwrpas o ddarparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus (adran 32, paragraff 3(b))
  1. Er enghraifft, mae llety’n cael ei ddarparu mewn carchar er mwyn cyflawni’r swyddogaeth gyhoeddus o gadw troseddwyr a gafwyd yn euog, a phobl ar remand. Bydd hyn yn dod o dan Ran 3 y Ddeddf. Felly hefyd, byddai darparu llety dros nos mewn tŷ llety’n dod o dan Ran 3 y Ddeddf.

Trafnidiaeth

  1. Mae Rhan 3 y Ddeddf yn berthnasol i rai mathau o seilwaith trafnidiaeth (fel gorsafoedd a meysydd awyr), gwasanaethau (er enghraifft, tocynnau trafnidiaeth) a cherbydau (atodlen 3, Rhan 9).

Mae Rhan 12 y Ddeddf wedi’i diwygio gan Ddeddf Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Pobl Anabl) 2022, sy’n rhoi dyletswyddau penodol ar yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.

Fodd bynnag nid yw’r Cod yn delio â’r darpariaethau hyn.

Llongau a hofrenfadau

  1. Nid yw’r darpariaethau ar gyfer gwasanaethau’n berthnasol i longau a hofrenfadau. O dan y Ddeddf, gellir gwneud rheoliadau i’r pwrpas hwn ond ni wnaed unrhyw reoliadau eto.
  2. O ran ymarfer swyddogaeth gyhoeddus heb ddarparu gwasanaeth i’r cyhoedd, mae dyletswydd i beidio â gwneud unrhyw beth sy’n gwahaniaethu, aflonyddu neu fictimeiddio’n berthnasol i longau a hofrenfadau ym mhob achos heblaw gwahaniaethu ar sail anabledd pryd y byddai hefyd angen rheoliadau (adran 30).

Gwasanaethau cyflogaeth

  1. Trafodir gwasanaethau cyflogaeth, sy’n cynnwys gwasanaethau hyfforddiant neu ganllawiau galwedigaethol, neu wasanaethau i helpu pobl i ddod o hyd i, neu gadw, swyddi neu sefydlu eu hunain mewn hunan-gyflogaeth, yn Rhan 5 y Ddeddf o dan ‘gwaith’ (adrannau 55 i 56). Trafodir y darpariaethau hyn yn y Cod Ymarfer Statudol ar gyfer Cyflogaeth.

Eithriadau

  1. Mae Pennod 13 yn trafod eithriadau cyffredinol sy’n berthnasol i bawb neu rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, ac i gymdeithasau. Mae Pennod 11 yn trafod eithriadau penodol sydd ond yn berthnasol i rai sy’n darparu gwasanaeth ac ymarfer swyddogaeth gyhoeddus.

Atebolrwydd cyflogwyr a phenaduriaid

Beth y mae’r Ddeddf yn ei ddweud

  1. Mae’r Ddeddf yn gwneud cyflogwyr yn gyfreithiol gyfrifol am wahaniaethu, aflonyddu neu fictimeiddio gan eu staff yng nghwrs eu cyflogaeth. Mae penaduriaid (gan gynnwys cyflogwyr) hefyd yn atebol am weithredoedd eu hasiantau wrth weithredu dan awdurdod y penadur. Nid oes ots a yw’r cyflogwr neu’r penadur yn gwybod am neu’n cymeradwyo gweithredoedd eu staff neu asiantau (adran 109).
  2. Ni fydd rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau’n atebol am wahaniaethu, aflonyddu neu fictimeiddio gan rywun arall heblaw eu staff neu asiantau. Fodd bynnag, gallent fod yn uniongyrchol atebol am fethu â gwneud rhywbeth am weithred trydydd parti, a’r rheswm am eu diffyg gweithredu yw nodwedd a warchodir.Footnote 5, Footnote 6

Enghraifft:

  1. Mae aelod du o gampfa’n cael eu galw’n derm hiliol gan aelod arall. Maen nhw’n cwyno i berchennog y gampfa sy’n diystyru’r gŵyn a chyfiawnhau defnyddio’r term. Gallai perchennog y gampfa fod yn atebol am aflonyddu ar sail hil oherwydd bod y sylwadau wrth yr aelod Du o’r gampfa wedi creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol a / neu annifyr a gododd gywilydd ar yr aelod Du o’r gampfa.
  1. Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol gadarnhaol i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol yn erbyn eu staff. Mae’r ddyletswydd hon yn benodol i weithwyr ond nid wrth ddarparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gan gymdeithas. Dylid darllen ein canllawiau ar aflonydduaflonyddu ac aflonydduaflonyddu rhywiol yn y gwaith am fwy o wybodaeth.
  2. Nid yw atebolrwydd cyflogwyr a phenaduriaid yn cynnwys troseddau o dan y Ddeddf. Yr unig eithriad i hyn yw troseddau’n ymwneud â phobl anabl a thrafnidiaeth o dan Ran 12 y Ddeddf.

Pan fo gweithred yn un ‘yng nghwrs cyflogaeth’ neu ‘gydag awdurdod penadur’

  1. Mae ystyr eang i’r term ‘yng nghwrs cyflogaeth’: bydd gweithwyr rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas sy’n cyflawni gweithred anghyfreithlon yn erbyn unigolyn wrth gyflawni dyletswydd neu ddarparu neu gyflenwi gwasanaeth fel arfer yn cael eu hystyried i fod yn gweithredu yng nghwrs eu cyflogaeth. Dylid rhoi’r un ehangder ystyr i weithredu ‘gydag awdurdod penadur’ yn achos asiantau.

Amddiffyniad y cyflogwr

  1. Ni fydd cyflogwr yn atebol am weithredoedd anghyfreithlon eu staff yng nghwrs cyflogaeth os yw’r cyflogwr wedi cymryd pob cam rhesymol i atal y gweithredoedd hyn.
  2. Bydd rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau sy’n cyflogi gweithwyr yn cael eu hystyried i fod wedi cymryd pob cam rhesymol os nad oes unrhyw gamau pellach y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt fod wedi eu cymryd. Asesir ‘rhesymol’ yn wrthrychol ar sail holl amgylchiadau’r achos. Wrth benderfynu ydy cam yn rhesymol, dylai darparwyr gwasanaeth, ymarferwyr swyddogaethau cyhoeddus neu asiantau ystyried ei effaith debygol ac a allai cam arall fod yn fwy effeithiol. Hyd yn oed os nad yw’r camau a gymerir yn atal gwahaniaethu, aflonyddu neu fictimeiddio rhag digwydd, gall cyflogwr gydymffurfio â’r Ddeddf os gall ddangos bod y camau a gymrodd wedi cwrdd â’r trothwy ‘pob cam rhesymol’.

Enghraifft:

  1. Mae perchennog siop yn dod yn ymwybodol bod ei gweithiwr yn gwrthod gweini ar gwsmer traws. Mae’r cyflogwr yn cyfarwyddo’r gweithiwr i drin cwsmeriaid traws yr un fath â chwsmeriaid eraill ac yn cynghori’r gweithiwr bod gwahaniaethu’n drosedd ddisgyblu. Fodd bynnag, mae’r gweithiwr yn parhau i drin cwsmeriaid traws yn llai ffafriol. Mae cwsmer traws arall yn dod â hawliad yn erbyn y gweithiwr a’r cyflogwr. Gallai’r cyflogwr ddangos eu bod wedi cydymffurfio â’r Ddeddf a thrwy hynny osgoi atebolrwydd yn yr achos hwn os medrant ddangos eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol i atal eu gweithiwr rhag ymddwyn yn wahaniaethol. Mae paragraffau 3.50 i 3.54 yn rhestru rhai camau a allai, gan ddibynnu ar yr holl amgylchiadau, gael eu hystyried i fod yn rhesymol. Bydd cwestiynau a allai godi gydag achos fel hyn yn cynnwys pa gamau a gymrodd y cyflogwr i fonitro pa mor effeithiol oedd eu cyfarwyddyd / cyngor ac i ddisgyblu’r gweithiwr am wahaniaethu pellach.

Atebolrwydd cyflogwyr ac asiantau

Beth y mae’r Ddeddf yn ei ddweud

  1. Gellir dal gweithwyr unigol yn bersonol atebol o dan y Ddeddf am weithred anghyfreithlon a gyflawnir yng nghwrs cyflogaeth, p’un ai oes gan y cyflogwr amddiffyniad yn erbyn atebolrwydd neu beidio (paragraffau 3.41i 3.44). Gellir hefyd dal asiant yn bersonol atebol am weithred anghyfreithlon a gyflawnir dan awdurdod eu penadur, p’un ai y cymeradwyodd y penadur y weithred neu beidio (adran 110).

Gwybod bod y weithred yn anghyfreithlon

  1. Nid oes angen i’r gweithiwr neu asiant wybod eu bod yn gweithredu’n anghyfreithlon i fod yn atebol am eu gweithredoedd.
  2. Fodd bynnag, os yw gweithiwr neu asiant yn dibynnu’n rhesymol ar ddatganiad y cyflogwr neu benadur nad ydy gweithred yn anghyfreithlon, nid yw’r gweithiwr neu asiant yn atebol am y weithred anghyfreithlon.
  3. Mae’n drosedd, gyda dirwy i’w thalu, i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas wneud datganiad ffug neu gamarweiniol, yn wybod iddynt neu’n ddi-hid, y mae’r gweithiwr neu asiant yn dibynnu arno i gyflawni gweithred anghyfreithlon.

Atebolrwydd am gyfarwyddo, achosi, cymell neu helpu yn wybod i berson

  1. Gallai person sy’n cyfarwyddo, achosi neu gymell rhywun arall i wahaniaethu, aflonyddu neu fictimeiddio’n anghyfreithlon fod yn atebol am wahaniaethu, aflonyddu neu fictimeiddio (adran 111). Mae hyn hefyd yn wir yn achos rhywun sy’n helpu, yn wybod iddynt, person arall i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu fictimeiddio rhywun (adran 112). Fodd bynnag, os yw person yn dibynnu’n rhesymol ar ddatganiad gan y person yn eu cyfarwyddo nad yw hyn yn torri’r Ddeddf, ni fydd y person yn atebol.

Trafodir hyn yn fwy manwl ym Mhennod 9.

Cwrdd â rhwymedigaethau o dan y Ddeddf: osgoi gwahaniaethu, aflonyddu a fictimeiddio, ac arfer da

  1. Mae angen i rai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau gymryd camau i sicrhau nad yw gwahaniaethu, aflonyddu a fictimeiddio’n digwydd.
  2. Bydd rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau’n atebol am weithredoedd anghyfreithlon eu gweithwyr oni chymerwyd camau rhesymol i’w hatal. 
  3. Mae rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau’n fwy tebygol o fod yn gallu cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan y Ddeddf ac atal eu gweithwyr rhag gwahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu fictimeiddio unigolion os ydynt yn cymryd y camau canlynol:
  • sefydlu polisi i sicrhau bod gan unigolion o bob rhan o’r gymuned fynediad cyfartal at, ac yn gallu mwynhau, eu gwasanaethau
  • cyfathrebu’r polisi i’w holl staff gan sicrhau eu bod yn gwybod ei bod yn anghyfreithlon gwahaniaethu wrth ddarparu gwasanaeth
  • hyfforddi’r holl staff gan gynnwys rhai nad ydynt yn darparu gwasanaeth uniongyrchol i’r cyhoedd, i ddeall y polisi, ystyr cydraddoldeb yn y cyd-destun hwn, a’u rhwymedigaethau cyfreithiol
  • monitro gweithrediad ac effeithiolrwydd y polisi
  • delio â gweithredoedd gwahaniaethu, aflonyddu neu fictimeiddio gan staff fel rhan o’u rheolau a gweithdrefnau disgyblu
  • sicrhau bod systemau rheoli perfformiad yn rhoi sylw i gydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu, aflonyddu a fictimeiddio
  • sicrhau bod gweithdrefn gwyno hysbys i bawb a hawdd ei defnyddio yn ei lle
  • adolygu arferion i sicrhau nad ydynt yn creu anfantais heb gyfiawnhad i rai grwpiau
  • ymgynghori â chwsmeriaid, staff a sefydliadau, sy’n cynrychioli grwpiau sy’n rhannu nodweddion a warchodir, ar ansawdd a chydraddoldeb eu gwasanaethau a sut y gallent fod yn fwy cynhwysol
  1. O ran y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl, bydd y gweithredoedd canlynol yn helpu rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chymdeithasau i gwrdd â rhwymedigaethau’r Ddeddf:
  • adolygu’n rheolaidd a yw eu gwasanaethau’n hygyrch i bobl anabl
  • trefnu i berson cymwys priodol wneud archwiliad mynediad a gweithredu ar y canlyniadau
  • darparu hyfforddiant rheolaidd i staff sy’n berthnasol i’r addasiadau sydd i’w gwneud
  • adolygu’n rheolaidd pa mor effeithiol yw’r addasiadau rhesymol a gweithredu ar ganfyddiadau’r adolygiadau
  1. Gallai dulliau llai ffurfiol fod yn ddigonol yn achos busnesau a sefydliadau bach sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu sy’n gymdeithas, fel siarad ag unigolion a meddwl a yw eu gwasanaethau’n cael eu defnyddio gan bob rhan o’r gymuned. Bydd y pwyntiau uchod o ran cyfathrebu’n glir i staff bod gwahaniaethu, fictimeiddio a aflonyddu’n annerbyniol yn parhau i fod yn hanfodol.

Lawrlwythiadau dogfen

Footnotes

  • Footnote 1

    Rowstock Limited & Another v Jessemey [2014] EWCA Sifil 185

  • Footnote 2

    R (Marouf) v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref UKSC [2023] 23

  • Footnote 3

    R (Marouf) v Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref UKSC [2023] 23

  • Footnote 4

    Thomas Cook Tour Operations Ltd v Campbell (No.1) [2014] EWCA Sifil 1668, Hydref 30, 2014; Campbell v Thomas Cook Tour Operations Ltd (Rhif 2) Llys Sirol Sheffield, Achos Rhif 2 YK 74402 [2014] EqLR 655, Medi 29, 2014

  • Footnote 5

    Unite the Union v Nailard [2018] EWCA Sifil 1203

  • Footnote 6

    Cyngor Dinas Sheffield v Norouzi [2011] IRLR 897 a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal v Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant [2007] IRLR 327

Diweddariadau tudalennau