Arweiniad

Cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau: Pennod 11 - Gwasanaethau a Swyddogaethau Cyhoeddus

Wedi ei gyhoeddi: 5 Awst 2026

Diweddarwyd diwethaf: 5 Awst 2026

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • England Lloegr
  • Scotland Alban
  • Wales Cymru

Rhagarweiniad

  1. Mae’r bennod yma yn y cod ymarfer (y Cod) yn egluro sut y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn berthnasol i ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, ac i ymarfer swyddogaethau cyhoeddus. Mae’n egluro beth yw gwahaniaethu anghyfreithlon a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn y meysydd hyn. Yn ymarferol o dan y Ddeddf, mae dyletswyddau rhywun sy’n darparu gwasanaeth ac ymarfer swyddogaeth gyhoeddus fwy neu lai’r un fath. Nid yw’r Ddeddf yn berthnasol yr un fath i gymdeithasau ac eglurir hyn ym Mhennod 12.
  2. Mae’r darpariaethau ar gyfer gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus yn berthnasol i’r holl nodweddion a warchodir heblaw am:
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • oed, lle bo’r person dan 18 oed (adran 28, paragraff 1)

Beth y mae gwahaniaethu’n ei feddwl yn y bennod hon

  1. Mae unrhyw gyfeiriad at ‘wahaniaethu’ yn y bennod hon yn cyfeirio at unrhyw un neu bob un o’r mathau hyn o wahaniaethu, oni nodir yn wahanol:
  • gwahaniaethu uniongyrchol
  • gwahaniaethu anuniongyrchol
  • gwahaniaethu’n codi o anabledd
  • gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth
  • methu â gwneud addasiad rhesymol

Gwasanaethau

Beth yw gwasanaeth

  1. Rhywun sy’n darparu gwasanaeth yw unrhyw un sy’n rhan o ddarparu gwasanaeth i’r cyhoedd neu i ran o’r cyhoedd, p’un ai am dâl (adran 29, paragraff 1) neu beidio. Mae gwasanaethau’n cynnwys darparu nwyddau a chyfleusterau (adran 31, paragraff 2).
  2. Mae ystod o wasanaethau’n dod o dan y Ddeddf gan gynnwys rhoi mynediad i, a defnyddio, unrhyw le y caniateir i aelodau o’r cyhoedd fynd iddo. Ymhlith y gwasanaethau yw rhai sy’n cael eu darparu i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd gan:
  • awdurdodau lleol, adrannau llywodraeth a’u hasiantaethau
  • elusennau a chyrff neu fudiadau gwirfoddol
  • gwestai, bwytai a thafarndai
  • swyddfeydd post, banciau, cymdeithasau adeiladu
  • cyfreithwyr, cyfrifwyr, asiantaethau cynghori
  • sefydliadau telathrebu, cyfleustodau cyhoeddus (fel cwmnïau cyflenwi nwy, trydan a dŵr)
  • gwasanaethau gan weithredwyr bysus a threnau, gorsafoedd rheilffordd a meysydd awyr
  • parciau cyhoeddus, stadia chwaraeon, canolfannau hamdden
  • theatrau, sinemâu, salonau gwallt, siopau, stondinau marchnad, gorsafoedd petrol, busnesau tele-werthu
  • ysbytai a chlinigau

Mae’r rhestr uchod yn rhoi enghreifftiau’n unig ac nid yw’n cynnwys pob gwasanaeth a fyddai’n dod o dan y Ddeddf.

  1. Mae gwasanaethau’n dod o dan y Ddeddf p’un ai wedi eu darparu gan gorff gwirfoddol, cyhoeddus neu breifat. Er enghraifft, byddai gofal meithrinfa a gofal dydd neu redeg cartref preswyl a chanolfan hamdden yn dod o dan y darpariaethau hyn p’un ai wedi eu darparu gan gorff preifat neu awdurdod lleol.
  2. Mae’n bwysig cofio mai darparu’r gwasanaeth sy’n dod o dan y Ddeddf. Yn aml iawn, bydd darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth mewn nifer o wahanol ffyrdd. Weithiau, gallai’r ffyrdd hynny fod mor wahanol fel y byddent yn cael eu hystyried yn wasanaeth ynddo’i hun ac angen cyd-fynd â’r Ddeddf.Footnote 1

Enghraifft:

  1. Mae cwmni bysus yn darparu amserlenni ar gyfer ei wasanaethau. Mae’n darparu copïau print a hefyd, i bobl gyda nam ar eu golwg, llinell ffôn am ddim yn rhoi amseroedd y bysus. Mae darparu amserlenni’n wasanaeth perthnasol fydd yn dod o dan ddarpariaethau’r Ddeddf. Nid yw gwahanol fformatau’r gwasanaeth mor wahanol i’w gilydd fel eu bod yn wasanaethau ar wahân.

Enghraifft:

  1. Mae banc yn darparu gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb ac ar-lein. Er eu bod yn wahanol ffyrdd o fancio, mae’r ffordd y maen nhw’n cael eu darparu mor wahanol fel eu bod o’r herwydd yn wasanaethau ar wahân ac i gyd wedi eu gwarchod o dan ddarpariaethau’r Ddeddf.

Atebolrwydd am wahaniaethu os yw gwasanaeth yn cael ei ddarparu i’r cyhoedd gan fwy nag un darparwr

  1. Gallai gwasanaeth i’r cyhoedd ymddangos i fod yn cael ei ddarparu gan fwy nag un darparwr gwasanaeth. Mewn achos o’r fath, gallai fod yn bwysig adnabod pwy sy’n gyfrifol am ddarparu pa bynnag agwedd ar y gwasanaeth a achosodd y gwahaniaethu honedig. Mewn rhai achosion, gallai nifer o ddarparwyr gwasanaeth fod yn rhannu atebolrwydd o dan y Ddeddf. Er enghraifft, gallai dau ddarparwr gwasanaeth fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth ac felly’n rhannu rhwymedigaethau ar gyfer y gwasanaeth hwnnw o dan y Ddeddf. Mae’n amherthnasol sut y maen nhw’n penderfynu rhyngddynt sut y dylid cwrdd â’r dyletswyddau ond rhaid cwrdd â rhwymedigaethau’r Ddeddf. Mae hyn yn debygol o fod yn arbennig o bwysig o ran y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl.

Enghraifft:

  1. Mae angen cadair olwyn ar deithiwr anabl mewn maes awyr i gyrraedd y gât ymadael ar ôl cofrestru cyrraedd. Gallai’r cwmni awyrennau a rheolwr-berchennog y maes awyr fod yn gyfrifol am sicrhau bod gan deithwyr fynediad at ac yn gallu defnyddio ardal ‘hedfan’ y maes awyr rhwng y desgiau cofrestru cyrraedd a’r gatiau ymadael. Os nad yw’r teithiwr anabl yn cael cadair olwyn yn ddi-dâl i’w helpu i gyrraedd eu gât ymadael, gallai hyn fod yn fethiant i wneud addasiad rhesymol ar gyfer gwasanaeth y mae’r cwmni awyrennau a rheolwr-berchennog y maes awyr yn ei ddarparu. Yn y sefyllfa hon, gallai’r cwmni awyrennau a rheolwr-berchennog y maes awyr fod yn atebol am wahaniaethu.

Enghraifft:

  1. Mae gan fanc beiriant arian parod mewn archfarchnad. Er bod y peiriant wedi’i leoli y tu mewn i’r archfarchnad, mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan y banc. Y banc sy’n debygol o fod yn gyfrifol am unrhyw ddyletswydd a allai godi o dan y Ddeddf ar gyfer y peiriant arian parod. Fodd bynnag, mae’r banc a’r archfarchnad yn debygol o fod yn gyfrifol am sicrhau bod y peiriant arian parod yn gorfforol hygyrch i gwsmeriaid anabl sy’n defnyddio adeilad yr archfarchnad.

Swyddogaethau cyhoeddus

Beth yw swyddogaeth gyhoeddus

  1. I bwrpas y Ddeddf, dim ond swyddogaethau awdurdod cyhoeddus sydd ddim yn wasanaethau a ddim yn dod o dan Ran 4 (adeiladau), Rhan 5 (gwaith) a Rhan 6 (addysg) y Ddeddf sy’n dod o dan y darpariaethau swyddogaethau cyhoeddus. Yn aml iawn, bydd awdurdod cyhoeddus yn gweithredu o dan bŵer neu ddyletswydd statudol wrth ymarfer swyddogaeth o’r fath. Byddai gorfodi’r gyfraith neu gasglu trethi’n enghreifftiau o’r gweithgareddau hyn.
  2. Fodd bynnag, nid awdurdodau cyhoeddus yn unig sy’n ymarfer swyddogaethau cyhoeddus. Gall cyrff preifat neu wirfoddol hefyd eu hymarfer, er enghraifft, pan fydd cwmni preifat yn rhedeg carchar neu pan fydd corff gwirfoddol yn dod yn gyfrifol am amddiffyn plant.
  3. O dan y Ddeddf mae gan swyddogaeth gyhoeddus yr un ystyr â ‘swyddogaeth o natur gyhoeddus’ i bwrpas Deddf Hawliau Dynol 1998 (adran 31, paragraff 4). Yn achos cyrff preifat neu wirfoddol, byddai hyn yn cynnwys gweithgareddau a gyflawnir ar ran y Wladwriaeth sydd ddim yr un fath â gwasanaethau a allai gael eu cyflawni gan bersonau preifat (adran 6, paragraff 3(b) o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998).
  4. Gallai’r term ‘swyddogaeth gyhoeddus’ gynnwys amrywiaeth eang fel:
  • penderfynu fframweithiau ar gyfer hawl i fudd-daliadau neu wasanaethau
  • gorfodi’r gyfraith
  • derbyn rhywun i garchar neu ganolfan cadw mewnfudwyr
  • rheolaeth gynllunio
  • trwyddedu
  • gorfodi mesurau rheoli parcio, safonau masnach, iechyd yr amgylchedd
  • ymarfer pwerau statudol o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl ac amddiffyn plant
  • swyddogaethau rheoleiddio
  • ymchwilio i gwynion penodol

Enghraifft yn unig yw’r rhestr hon, nid yw’n cynnwys pob swyddogaeth sy’n dod o dan y rhan yma o’r Ddeddf.

Rhyngweithio â’r darpariaethau gwasanaeth

  1. Bydd p’un ai yw gweithgaredd yn wasanaeth i’r cyhoedd, neu’n swyddogaeth gyhoeddus, yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos. Mae llawer o’r gweithgareddau a gyflawnir gan awdurdod cyhoeddus yn rhai i’r cyhoedd, er enghraifft, gwasanaethau llyfrgell neu hamdden. Bydd y gweithgareddau hyn yn dod o dan ddarpariaethau’r Ddeddf ar gyfer darparu gwasanaeth i’r cyhoedd (adran 31, paragraff 3).

Enghraifft:

  1. Mae plismon yn trefnu cyfarfod diogelwch cymunedol ac yn paratoi llenyddiaeth i’w rannu am atal troseddu. Drwy roi’r wybodaeth yma i’r gymuned, mae’r heddlu’n debygol o fod yn darparu gwasanaeth.

Enghraifft:

  1. Os yw plismon yn gwneud chwiliad fel rhan o ymchwiliad troseddol, mae’n debygol o fod yn ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, nid darparu gwasanaeth.

Gwahaniaethu anghyfreithlon o ran gwasanaethau

  1. O dan y Ddeddf, mae’n anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth wahaniaethu yn erbyn person sydd angen neu’n ceisio cael neu ddefnyddio gwasanaeth drwy beidio â darparu’r gwasanaeth i’r person.
  2. Yn y cyd-destun hwn, mae cyfeiriad at ddarparwr gwasanaeth sydd ddim yn darparu gwasanaeth (adran 29, paragraff 1) yn cynnwys:
  • mae’r darparwr gwasanaeth yn gwrthod darparu’r gwasanaeth i’r person
  • y darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth i’r person sydd o’r ansawdd arferol a ddarperir i’r cyhoedd (neu ran o’r cyhoedd sy’n cynnwys y person dan sylw) (adran 31, paragraff 7(a))
  • y darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth i’r person yn y ffordd, neu ar y telerau, sydd fel arfer yn cael eu darparu i’r cyhoedd (neu ran o’r cyhoedd sy’n cynnwys y person dan sylw) (adran 31, paragraff 7(b))
  1. Mae hefyd yn anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth wahaniaethu yn erbyn person:
  • o ran ar ba delerau y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu i’r person
  • drwy derfynu’r gwasanaeth i’r person
  • drwy achosi niwed arall i’r person dan sylw (adran 29, paragraff 2)
  1. Gall y darpariaethau hyn orgyffwrdd fel bod, er enghraifft, ymddygiad digywilydd neu sarhaus tuag at gwsmer neu ddarpar gwsmer yn wasanaeth o safon is neu’n niwed. Gallai gwasanaeth o safon is olygu peidio â darparu’r gwasanaeth yn y ffordd ac ar y telerau y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu fel arfer (adran 31, paragraff 7).
  2. Gallai gwahaniaethu o ran telerau gwasanaeth gynnwys codi mwy am nwyddau neu wasanaethau neu osod amodau ychwanegol am ddefnyddio cyfleuster neu wasanaeth.
  3. Nid yw’r Ddeddf yn diffinio ‘niwed’ ac mae’n derm cyffredinol iawn a allai gymryd sawl ffurf. Am eglurhad o ‘niwed’, dylid darllen paragraffau 9.12 i 9.16.

Enghraifft:

  1. Mae perchennog gwely a brecwast yn mynnu bod cwpwl lesbiaidd yn cael llofftydd sengl ar wahân a hwythau wedi archebu llofft ddwbl, er bod llofft ddwbl ar gael. Oherwydd bod y perchennog wedi gwrthod y llofft a archebwyd gan y cwpwl lesbiaidd, byddai wedi gwahaniaethu mewn dwy ffordd. Yn gyntaf drwy achosi niwed: gallai’r driniaeth lai ffafriol fod yn wahaniaethu uniongyrchol oherwydd tueddiad rhywiol. Yn ail, drwy wrthod y llofft, byddai’r perchennog hefyd yn gwahaniaethu o ran telerau’r gwasanaeth a gwrthod gwasanaeth.

Enghraifft:

  1. Mae perchennog caffi’n gofyn i ferch sy’n bwydo ei babi ar y fron ei fwydo yn y toiledau gan ddweud y gallai fod yn annifyr i gwsmeriaid eraill. Pan fo’r ferch yn gwrthod, mae’n gofyn iddi symud o’i bwrdd wrth y ffenestr i gornel wag a gorffen ei diod yn sydyn. Gallai hyn fod yn wahaniaethu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth oherwydd nad yw’r ferch yn gallu defnyddio’r gwasanaeth yn yr un ffordd â phobl eraill.

Enghraifft:

  1. Mae gan gwmni cyfleustodau bolisi o siarad dim ond â daliwr y cyfrif ac nid efo trydydd parti. Gallai hyn wahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn person byddar sy’n defnyddio cyfieithydd cofrestredig i ffonio’r cwmni.

Enghraifft:

  1. Gofynnir i ddyn sydd eisiau archebu bwrdd mewn bwyty ar gyfer ei ben-blwydd yn 21 oed dalu blaendal o 50% oherwydd bod perchennog y bwyty’n credu bod cwsmeriaid iau’n llai tebygol o droi fyny. Mae hyn yn debygol o wahaniaethu’n uniongyrchol ar sail oed o ran telerau gwasanaeth os na ellir ei gyfiawnhau (paragraffau 4.74 i 4.84).
  1. Hyd yn oed os yw’r darparwr gwasanaeth yn meddwl eu bod yn ymddwyn er lles gorau’r defnyddiwr, gallai eu hymddygiad er hynny greu niwed i’r person (adran 29, paragraff 2).

Enghraifft:

  1. Mae gweithiwr mewn siop fach yn gwrthod gweini ar berson anabl gyda nam symudedd gan ddadlau y gallai siop fwy gerllaw gynnig mynediad gwell. Mae hyn yn gwrthod gwasanaeth ac yn debygol o fod yn anghyfreithlon hyd yn oed pe bai’r gweithiwr siop yn meddwl y byddai er lles gorau’r person.
  1. Mae’n gyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth ddarparu gwasanaeth neu werthu nwyddau sydd wrth natur yn debygol o gael eu defnyddio neu brynu gan bobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir, ar yr amod nad yw’r darparwr gwasanaeth yn gwrthod darparu’r gwasanaeth i bobl sydd ddim yn rhannu’r nodwedd. Er enghraifft, pe bai cigydd Kosher gyda chwsmeriaid Iddewig yn bennaf yn gwrthod gwerthu cig Kosher i bobl heb fod yn Iddewig, byddai’n gwahaniaethu.

Gwahaniaethu anghyfreithlon wrth ymarfer swyddogaethau cyhoeddus

  1. Mae’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu wrth ymarfer swyddogaeth gyhoeddus (adran 29, paragraff 6). Byddai’r ddarpariaeth yma’n cynnwys, er enghraifft, gwrthod gadael i rywun fanteisio ar ymarfer swyddogaeth neu drin rhywun yn waeth wrth ymarfer swyddogaeth. Er enghraifft, gwrthod cais am drwydded neu stopio a chwilio unigolyn oherwydd nodwedd a warchodir.

Enghraifft:

  1. Mae person anabl gyda syndrom Tourette yn gwneud synau anwirfoddol mewn cyfweliad am eu hawl i ddisgownt Treth Cyngor. Mae’r cyfwelydd yn dweud na ellir parhau gyda’r cyfweliad a hwythau’n gwneud synau o’r fath ac y bydd angen iddynt ddod yn ôl ar ddiwrnod arall. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu’n codi o anabledd. Bydd yn anghyfreithlon os na ellir ei gyfiawnhau neu os na allai’r cyngor ddangos na wyddai, ac na ellid disgwyl yn rhesymol iddo wybod, bod gan y person anabledd.

Enghraifft:

  1. Gofynnir i fam sy’n bwydo ar y fron eistedd y tu ôl i sgrîn mewn gwrandawiad ymchwiliad cynllunio oherwydd bod cynghorydd yn anghyffyrddus ei bod yn bwydo’n gyhoeddus. Ni all weld y person sy’n rhedeg y cyfarfod, gofyn cwestiynau na chyfathrebu ag aelodau eraill o’r gynulleidfa. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth ac yn anghyfreithlon.

Enghraifft:

  1. Mae cwpwl yn eu 20au cynnar yn prynu stondin farchnad gan berchnogion blaenorol sy’n ymddeol ar ôl 50 mlynedd. Mae gwasanaeth masnach stryd yr awdurdod lleol yn dechrau ymweld yn ddirybudd â’r stondin gan gredu bod pobl ifanc yn fwy tebygol o dorri cyfreithiau masnach stryd. Mae’r ymweliadau hyn yn effeithio ar enw da busnes y cwpwl. Mae eu trin fel hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail oed os na ellir ei gyfiawnhau’n wrthrychol.

Methu â gwneud addasiad rhesymol wrth ddarparu gwasanaeth ac ymarfer swyddogaeth gyhoeddus

  1. Mae gwahaniaethu hefyd yn digwydd pan fydd rhywun sy’n darparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Mae’r ddyletswydd yn codi pan fydd person anabl dan anfantais sylweddol o’i gymharu â rhywun heb fod yn anabl oherwydd darpariaeth, maen prawf, arfer, nodwedd ffisegol neu ddiffyg cymorth neu wasanaeth ategol. Eglurir y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn fwy manwl ym Mhennod 7.

Enghraifft:

  1. Mae gan amgueddfa weithdrefnau ar gyfer gwagu’r adeilad mewn tân neu argyfwng. Rhaid i ymwelwyr adael yr adeilad ar hyd llwybrau penodedig. Os nad yw’r amgueddfa’n sicrhau bod ei gweithdrefnau’n golygu y gall ymwelwyr gyda nam symudedd neu nam synhwyrau adael yr adeilad yn ddiogel, mae’n debygol o fod yn methu â gwneud addasiad rhesymol.

Enghraifft:

  1. Mae gan garchar bolisi o agor ei lyfrgell a’i ganolfan iechyd rhwng 10 ac 11 bob bore. Mae hyn yn golygu na all carcharorion anabl sydd ag apwyntiadau meddygol yn y bore yn y ganolfan iechyd ddefnyddio’r llyfrgell bob tro. Mae’r carchar yn addasu amseroedd agor y llyfrgell i fod ar agor am awr gyda’r nos hefyd. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i’r carchar ei wneud.
  1. O ran ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, o dan y Ddeddf mae rhoi rhywun dan anfantais sylweddol (atodlen 2, paragraff 2(5)) yn golygu:

 

  1. Os yw budd yn cael, neu gallai gael ei roi wrth ymarfer swyddogaeth, os yw’r person yn cael ei roi dan anfantais sylweddol o ran rhoi’r budd hwnnw, neu
  2. Os yw person yn, neu gallai ddioddef niwed wrth ymarfer y swyddogaeth, gan ddioddef profiad afresymol o niweidiol wrth i’r niwed gael ei achosi iddynt.

 

Enghraifft:

  1. Mae gan Ombwdsmon bolisi bod angen i bob cais i ddefnyddio ei bwerau rheoleiddio fod yn ysgrifenedig. Mae’r polisi hwn yn rhoi rhai pobl anabl, er enghraifft, rhai gydag anableddau dysgu neu nam golwg, o dan anfantais sylweddol wrth wneud cwyn. Mae’r Ombwdsmon yn diwygio’r polisi i adael i bobl anabl, ac eraill na all wneud cais ysgrifenedig, wneud eu cais dros y ffôn. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i’r Ombwdsmon orfod ei wneud.
  1. Nid yw’r Ddeddf yn diffinio ‘afresymol o niweidiol’. Gall ymarfer rhai swyddogaethau gael effaith niweidiol ar y person sy’n destun y swyddogaethau hynny – er enghraifft, cael eu harestio. Swyddogaethau ‘negyddol’ yw’r rhain. Nod y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn yr amgylchiadau hyn yw sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol bosib, nad yw pobl anabl yn cael profiad sylweddol waeth na phobl eraill wrth ymarfer y swyddogaethau hyn. Bwriedir i ‘afresymol o niweidiol’ gynrychioli’r un lefel o anhawster ag anfantais ‘sylweddol’. Am fwy o fanylion dylid darllen paragraffau 7.11 i 7.14.

Enghraifft:

  1. Mae gan heddlu bolisi o beidio â chludo unrhyw gŵn sifil mewn ceir heddlu. Mae’r arfer yma’n gwneud y profiad o gael eu harestio’n waeth i bobl anabl sydd angen cŵn tywys neu gŵn cymorth, o’i gymharu â phobl sydd ddim. Mae’r heddlu’n diwygio ei bolisi er mwyn gallu cludo ci yn y car gyda’r person anabl yn yr amgylchiadau hyn. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i’r heddlu orfod ei wneud.
  1. Os yw budd yn cael, neu gallai gael ei roi drwy ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, gallai anfantais sylweddol godi o ran rhoi neu wrthod rhoi’r budd (y canlyniad) a’r broses o’i gael neu geisio ei gael. Mae hyn yn golygu os yw unigolyn yn profi niwed yn y broses o gael budd, y gallai hyn arwain at hawliad cyfreithiol, hyd yn oed os yw’r budd wedi’i roi.Footnote 2 

Enghraifft:

  1. Mae gan ddyn sy’n gwneud cais am fudd-dal nawdd cymdeithasol broblemau iechyd meddwl sy’n golygu ei fod yn cael trafferth canolbwyntio ac ateb cwestiynau mewn cyfweliad hir. Mae’n gofyn am fwy o amser i’r cyfweliad, gan gynnwys egwyl fer, ond nid yw’r addasiad yn cael ei wneud. O ganlyniad, mae’r cyfweliad yn achosi cryn straen iddo. Mae’n debygol y byddai’r ffordd y cafodd y cyfweliad ei gynnal, fel rhan o’r broses o gael y budd-dal, wedi creu anfantais sylweddol. Nid yw’r ffaith bod ei gais budd-dal, yn y pen draw, yn llwyddiannus yn effeithio ar ei hawliad ei fod wedi dioddef niwed yn ystod y broses o wneud cais. Pe bai ei gais yn aflwyddiannus, gallai hefyd ddod â hawliad ar y sail bod anfantais wedi’i chreu o ran canlyniad ei gais.

Nodweddion ffisegol

  1. O ran nodweddion ffisegol, mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i rywun sy’n darparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol i osgoi’r anfantais, neu ddefnyddio ffordd resymol arall o ymarfer y swyddogaeth (adran 20, paragraff 4 ac adran 29, paragraff 7).

Cyfyngiadau ar y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol

  1. Ni fydd angen i rai sy’n ymarfer swyddogaethau cyhoeddus gymryd unrhyw gamau sydd y tu allan i’w pwerau (atodlen 2, paragraff 2(8)).

Enghraifft:

  1. Mae person ag anaf asgwrn cefn eisiau gwasanaethu ar reithgor ond mae angen gweithiwr cymorth arno i’w helpu â’i weithgareddau dydd i ddydd. Er nad yw pobl anabl wedi eu gwahardd rhag bod ar reithgor, ni all y llys adael i’r gweithiwr cymorth ddod i mewn i ystafell y rheithgor fel addasiad rhesymol oherwydd nad yw’r gyfraith droseddol yn caniatáu i berson ‘ychwanegol’ fod yn ystafell y rheithgor heblaw rhai sy’n darparu gwasanaeth BSL. Yn yr amgylchiadau hyn, nid oes gan yr awdurdod cyhoeddus bŵer i gymryd y camau angenrheidiol fel bo’r person yn gallu bod ar reithgor.
  1. O ran gwasanaethau, ni fydd angen i ddarparwr gwasanaeth gymryd unrhyw gamau a fyddai’n newid natur y gwasanaeth, neu natur masnach neu broffesiwn y darparwr, yn sylfaenol (atodlen 2, paragraff 2(7)).

Enghraifft:

  1. Mae bwyty sy’n cynnig profiad ‘bwyta yn y tywyllwch’ yn annhebygol o orfod troi ei oleuadau ymlaen i gwsmer byddar sydd angen gallu darllen gwefusau i gyfathrebu, oherwydd byddai hyn yn newid natur y gwasanaeth yn sylfaenol.

Ymddygiad arall wedi’i wahardd

Aflonyddu

  1. Mae hefyd yn anghyfreithlon i berson wneud unrhyw beth sy’n aflonyddu wrth ddarparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus (adran 29, paragraff 3 a pharagraff 6). Eglurir aflonyddu’n fwy manwl ym Mhennod 8.

Enghraifft:

  1. Mae merch Ddu’n mynd i dafarn i wylio gêm bêl-droed. Yn ystod y gêm, mae’r barman yn gwneud sylwadau hiliol am rai o’r peldroedwyr ar y cae. Mae’r sylwadau’n digio’r ferch. Gallai gwyno am aflonyddu i’r dafarn a gallai hefyd gwyno am wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil, oherwydd bod y dafarn yn darparu gwasanaeth gwaeth iddi hi nag i gwsmeriaid eraill.
  1. Mae gwahardd aflonyddu wrth ddarparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus yn berthnasol i’r nodweddion a warchodir canlynol: oed (os yw’r unigolyn yn 18+ oed), anabledd, ailbennu rhywedd, hil a rhyw (adran 26, paragraff 5 ac adran 28, paragraff 1). Nid yw aflonyddu unigolion gyda’r nodweddion a warchodir o dueddiad rhywiol neu grefydd neu gred wedi’i warchod (adran 29, paragraff 8). Fodd bynnag, gallai ‘ymddygiad dieisiau’ oherwydd tueddiad rhywiol neu grefydd neu gred, sy’n achosi niwed i rywun drwy eu trin yn llai ffafriol, fod yn wahaniaethu uniongyrchol (adran 212, paragraff 5). Eglurir gwahaniaethu uniongyrchol yn fanwl ym Mhennod 4. Nid yw beichiogrwydd a mamolaeth wedi eu gwarchod o dan ddarpariaethau aflonyddu’r Ddeddf (adran 26, paragraff 5) ychwaith, ond byddai aflonyddu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth yn aflonyddu ar sail rhyw. Mae Pennod 8 yn egluro’r darpariaethau aflonyddu’n fanwl.

Enghraifft:

  1. Mae perchennog gwely a brecwast yn gwneud sylwadau sarhaus am dueddiad rhywiol cwpwl lesbiaidd. Gallai’r cwpwl ddod â hawliad o wahaniaethu uniongyrchol.

Fictimeiddio

  1. Mae hefyd yn anghyfreithlon i rywun fictimeiddio person wrth ddarparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus (adran 29, paragraff 4 ac adran 29, paragraff 6) drwy:
  • beidio â darparu’r gwasanaeth i’r person dan sylw (adran 29, paragraff 4)
  • darparu’r gwasanaeth i’r person dan sylw ar delerau llai ffafriol (adran 29, paragraff 5)
  • dod â’r gwasanaeth i’r person dan sylw i ben (adran 29, paragraff 5)
  • achosi niwed arall i’r person dan sylw (adran 29, paragraff 5)

Enghraifft:

  1. Mae merch yn cwyno bod gweithiwr mewn siop goffi’n ei haflonyddu’n rhywiol. Fis yn ddiweddarach ar ôl ceisio defnyddio ei cherdyn cwsmer triw, mae’n cael gwybod bod y cynllun wedi dod i ben. Fodd bynnag mae’n darganfod nad yw hyn yn wir ar ôl i ffrind gael disgownt gyda’i cherdyn nes ymlaen y diwrnod hwnnw. Mae’n credu iddi gael ei fictimeiddio oherwydd ei chŵyn a gallai rhwymedi fod ar gael iddi o dan y Ddeddf.
  1. Eglurir fictimeiddio ac ymddygiad arall wedi’i wahardd, fel cynorthwyo rhywun i wahaniaethu, ym Mhennod 9.

Perthynas Rhan 3 â Rhannau eraill y Ddeddf

  1. Fel yr eglurir ym Mhennod 3, mae gwerthu a rheoli adeiladau, cyflogaeth, addysg a rhai agweddau ar drafnidiaeth yn dod o dan Rannau eraill y Ddeddf (Rhannau 4, 5, 6 a 12 yn yr un drefn) ac nid o dan y Cod hwn. Fodd bynnag, lle nad yw’r Rhannau hynny’n berthnasol, gallai gweithgareddau cysylltiedig fod yn wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus ac felly’n dod o dan Ran 3. Er enghraifft, mae Rhan 4 yn berthnasol os yw asiant tai’n gosod neu reoli eiddo ar ran perchennog ond nid os yw asiant tai’n hysbysebu neu ddarparu gwybodaeth am eiddo. Yn hytrach, byddai’r gweithgareddau olaf hyn yn wasanaethau i’r cyhoedd.

Rhyngweithio â’r darpariaethau addysg

  1. Mae Rhan 6 y Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu o ran addysg wedi’i ddarparu gan ‘gyrff cyfrifol’ penodedig. Y rhain yw cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch.
  2. Fodd bynnag, mae rhai gweithgareddau a swyddogaethau gan y cyrff cyfrifol hyn y tu allan i gwmpas Rhan 6. Gallai’r gweithgareddau hyn, felly, ddod o dan ddarpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus Rhan 3 y Ddeddf fel yr eglura’r bennod hon. Gallai enghreifftiau gynnwys:
  • gwasanaethau heb fod yn addysgol wedi eu darparu gan ysgolion i bobl heblaw disgyblion, fel darparu gwybodaeth i rieni
  • gwasanaethau gan golegau neu brifysgolion i rai sydd ddim yn fyfyrwyr
  1. Fel rheol, os yw ysgol neu sefydliad addysg bellach neu uwch yn gwneud penderfyniad neu’n gwneud rhywbeth yn ymwneud â disgyblion neu fyfyrwyr, bydd yn dod o dan ddarpariaethau addysg Rhan 6. Os yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu neu’r gweithredu neu benderfyniad yn cael ei wneud gan awdurdod lleol neu awdurdod addysg y tu allan i’w capasiti fel ‘corff cyfrifol’, bydd yn wasanaeth neu swyddogaeth gyhoeddus.

Enghraifft:

  1. Mae ‘coleg busnes’ sy’n cael ei redeg yn breifat ac yn cynnig cyrsiau cyfrifiadurol i’r cyhoedd yn darparu gwasanaeth sy’n debygol o ddod o dan Ran 3 y Ddeddf.

Enghraifft:

  1. Mae prifysgol yn trefnu cynhadledd wedi’i hanelu at fyfyrwyr a’r cyhoedd. Hyd yn oed os myfyrwyr yw’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n mynychu, bydd cynnal y gynhadledd yn wasanaeth i’r cyhoedd ac felly hefyd yn dod o dan Ran 3 y Ddeddf.

Enghraifft:

  1. Mae rhiant eisiau cwyno am bolisi ysgol sy’n gwrthod rhoi cyfle i ferched wneud gwaith coed. Oherwydd bod hyn yn ymwneud â sut y mae corff cyfrifol yr ysgol yn darparu addysg i ddisgybl, neu’n rhoi mynediad at fudd, cyfleuster neu wasanaeth, bydd yn dod o dan ddarpariaethau addysg Rhan 6 y Ddeddf.
  1. Mae Rhan 6 hefyd yn gwahardd gwahaniaethu gan gyrff cymwysterau cyffredinol a gydag agweddau penodol ar ddarparu cyfleusterau hamdden a hyfforddiant i blant a phobl ifanc gan awdurdodau lleol. Gallai darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus Rhan 3 fod yn berthnasol ond ni fyddai Rhan 6. Er enghraifft, byddai clybiau ieuenctid wedi eu rhedeg gan fudiadau gwirfoddol yn wasanaeth.

Rhyngweithio â’r darpariaethau adeiladau

  1. Mae Rhan 4 y Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu wrth werthu a rheoli adeiladau. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, rhai sy’n darparu adeiladau i’w rhentu ac sy’n rheoli eiddo rhent. Nid yw’r Cod yma’n delio â Rhan 4 y Ddeddf.
  2. Mae Rhannau 3 a 4 yn anghyson: os nad yw’r darpariaethau adeiladau’n berthnasol, bydd y darpariaethau gwasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus yn berthnasol. Mae’r Ddeddf yn nodi dwy sefyllfa sy’n disgyn y tu allan i Ran 4 a lle y byddai’r Cod hwn yn berthnasol:
  • os yw’r ddarpariaeth fel arfer ar gyfer arosiadau byr gan unigolion sy’n byw yn rhywle arall, er enghraifft, gosod fflat wyliau (adran 32, paragraff 3(a))
  • os yw llety’n cael ei ddarparu dim ond i’r pwrpas o ddarparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, er enghraifft, gwesty neu gell carchar (adran 32, paragraff 3(b))
  1. Fel arall, bydd unrhyw beth yn ymwneud â gwerthu neu reoli adeilad (oni bai ei fod yn cynnwys gwasanaeth fel hysbysebu eiddo) yn dod o dan y darpariaethau adeiladau, sydd y tu allan i gwmpas y Cod hwn.

Rhyngweithio â’r darpariaethau gwaith

  1. Mae Rhan 5 y Ddeddf yn ymwneud â gwaith. Os yw Rhan 5 yn berthnasol, ni fydd darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus Rhan 3 yn berthnasol.
  2. Fodd bynnag, os yw cyflogwr yn trefnu i berson arall ddarparu gwasanaeth i weithwyr y cyflogwr yn unig, bydd y gweithwyr hyn yn cael eu hystyried i fod yn rhan o’r cyhoedd (adran 31, paragraff 5). Felly os yw’r darparwr gwasanaeth yn gwahaniaethu yn erbyn aelodau o’r grŵp hwnnw, bydd y gwaharddiadau a ddisgrifir yn y bennod hon yn berthnasol. Ni fyddai’r cyflogwr yn cael ei ystyried yn ddarparwr gwasanaeth yn y sefyllfa hon. Yn hytrach, byddai eu hymddygiad o hwyluso’r gwasanaeth yn dod o dan ddarpariaethau Rhan 5 y Ddeddf fel yr eglurir yn ein Cod Ymarfer Cyflogaeth.
  3. Yr eithriad i hyn yw os byddai cyflogwr yn darparu gwasanaethau ariannol i’w weithwyr o ganlyniad i’w cyflogaeth (atodlen 3, paragraff 20) (dylid darllen Pennod 13).

Enghraifft:

  1. Mae cyflogwr yn trefnu i weithwyr fynychu cwrs hyfforddiant preswyl pwrpasol wedi’i ddarparu gan gwmni arall. Yn ystod y cwrs, mae sylw sarhaus yn cael ei wneud gan hyfforddwr wrth weithiwr anabl. Gallai hyn fod yn wahaniaethu uniongyrchol neu’n aflonyddu gan y cwmni hyfforddiant wrth ddarparu gwasanaeth. Pe bai’r cyflogwr wedi gwahardd y gweithiwr anabl rhag mynychu’r cwrs oherwydd eu hanabledd, byddai hyn yn debygol o ddod o dan ddarpariaethau Rhan 5 (gwaith).

Gwasanaethau trafnidiaeth

  1. Mae Rhan 3 y Ddeddf yn berthnasol i rai mathau o seilwaith trafnidiaeth (fel gorsafoedd a meysydd awyr), gwasanaethau (fel tocynnau trafnidiaeth) a cherbydau. Mae Rhan 12 y Ddeddf wedi’i diwygio gan Ddeddf Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Pobl Anabl) 2022, sy’n rhoi dyletswyddau penodol ar yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat. Fodd bynnag nid yw’r Cod yn delio â’r darpariaethau hyn.

Darparu nwyddau a gwasanaethau o bell 

  1. Mae rhai nwyddau a gwasanaethau’n cael eu darparu o bell drwy wefannau neu apiau, er enghraifft, wrth ddarparu gwybodaeth, cynhyrchion neu adloniant i’r cyhoedd. Rhaid i ddarparwr gwasanaeth o bell gydymffurfio â rheolau arferol awdurdodaeth diriogaethol, felly bydd y Ddeddf yn berthnasol i ymddygiad ym Mhrydain (adran 29, paragraff 10).

Enghraifft:

  1. Mae theatr yn gwerthu tocynnau ac mae gan gwsmeriaid ddewis o brynu tocyn o’r swyddfa docynnau neu o bell drwy ap. Mae’r theatr yn gwrthod archebion gan ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. P’un ai yw’r archeb drwy’r ap neu beidio, mae’r theatr yn debygol o fod yn gwahaniaethu’n uniongyrchol ar sail anabledd sy’n torri’r Ddeddf.
  1. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf yn darparu’n benodol o ran ei hyd a lled tiriogaethol ar gyfer mathau penodol o wasanaethau o bell gan ‘ddarparwyr gwasanaeth cymdeithas wybodaeth’ (ISSP) a sefydlir yn un o wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) neu ym Mhrydain (adran 206, atodlen 25, paragraff 1). 
  2. ISSP (atodlen 25, paragraff 7(2)) yw unrhyw wasanaeth wedi’i ddarparu:
  • am dâl fel arfer
  • o bell
  • drwy ddull electronig
  • ar gais unigol derbynnydd gwasanaeth

Mae gwasanaeth wedi’i ddarparu ‘am dâl fel arfer’ yn golygu bod y gwasanaeth fel arfer, ond nid bob tro, am dâl.

Mae ‘o bell’ yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu heb i’r partïon fod yn bresennol ar yr un pryd.

Mae ‘drwy ddull electronig’ yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei anfon i ddechrau, a’i dderbyn yn y pen draw, drwy gyfarpar electronig ar gyfer prosesu (gan gynnwys cywasgu digidol) a storio data ac wedi’i drawsyrru, cyfleu a’i dderbyn yn llwyr drwy wifren, radio, dull optegol neu ddull electromagnetig arall.

Mae ‘ar gais unigol derbynnydd gwasanaeth’ yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy drawsyrru data ar gais unigolyn, hynny yw, mae’r gwasanaeth yn cael ei ofyn amdano’n hytrach na’n cael ei dderbyn yn ddigymell.

  1. Gallai enghreifftiau o ISSP gynnwys gwasanaethau fel:
  • gwasanaeth e-bost
  • llwyfan electronig sy’n gwerthu pethau ar-lein i bobl sy’n chwilio am yr eitemau hynny
  • papur newydd sy’n cael ei ddarparu ar-lein
  1. Os yw ISSP yn cael ei sefydlu ym Mhrydain, bydd Rhan 3 y Ddeddf yn berthnasol i ddarparu’r gwasanaeth cymdeithas wybodaeth. Mae’n golygu felly bod yn rhaid i’r ISSP lynu wrth ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n berthnasol i ddarparwyr gwasanaeth, fel yr eglura’r bennod hon.

Enghraifft:

  1. Mae cwmni gwyliau rhyngrwyd wedi’i sefydlu ym Mhrydain yn rhestru llety i bobl gael talu ac archebu. Mae’n ISSP. Mae’r cwmni’n gwrthod derbyn archeb am lety wedi’i rannu ar gyfer cyplau o’r rhyw-sengl. Yn yr achos hwn mae’r Ddeddf yn berthnasol ac mae’r ISSP yn gwahaniaethu’n uniongyrchol ar sail tueddiad rhywiol.
  1. Os yw’r ISSP wedi’i sefydlu yn un o wledydd yr EEA, nid yw’r Ddeddf yn berthnasol i unrhyw beth a wneir wrth ddarparu gwasanaeth cymdeithas wybodaeth, hyd yn oed os yw’n digwydd ym Mhrydain (adran 206 ac atodlen 25, paragraff 2). Ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, gallai’r rheolau hyn ar gyfer darparwyr ISSP newid ymhellach a dylai darparwyr gwasanaeth adolygu eu sefyllfa’n rheolaidd.
  2. Mae Pennod 13 yn disgrifio eithriadau i’r Ddeddf ar gyfer darparwyr ISSP sy’n cael eu rheoleiddio gan y Ddeddf a dim ond yn ‘gyfryngau’, neu sy’n darparu ‘celcio’ neu ‘we-letya’.

Eithriadau i’r darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus

  1. Mae nifer o eithriadau sy’n berthnasol i ddarpariaethau gwasanaethau a / neu swyddogaethau cyhoeddus y Ddeddf, er enghraifft, gwasanaethau un-rhyw. Eglurir y rhain ym Mhennod 13.

Arfer da ar osgoi gwahaniaethu a darparu gwasanaethau ac ymarfer swyddogaethau cyhoeddus yn well

Gweithredu cadarnhaol

  1. Mae’r Ddeddf yn caniatáu i rywun sy’n darparu gwasanaeth ac ymarfer swyddogaeth gyhoeddus gymryd mesurau gweithredu cadarnhaol i oresgyn anfantais, ateb gwahanol anghenion neu gynyddu cyfranogiad pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir. Mae Pennod 10 yn manylu mwy ar y darpariaethau hyn.

Enghraifft:

  1. Ar ôl adolygu proffiliau defnyddwyr eu sesiynau cynghori, mae gwasanaeth cyngor tai’n darganfod mai ychydig iawn o lesbiaid neu ddynion hoyw sy’n defnyddio eu gwasanaethau. O waith ymchwil, maen nhw’n dysgu bod lesbiaid a dynion hoyw yn profi patrymau penodol o anghenion tai. Maen nhw’n penderfynu creu cysylltiadau â mudiadau lesbiaid a hoyw lleol i ddarparu sesiynau cyngor wedi eu targedu. Gallai hwn fod yn fesur gweithredu cadarnhaol cyfreithlon.

Trin pobl anabl yn fwy ffafriol

  1. Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson heb fod yn anabl yng nghyswllt gwahaniaethu uniongyrchol (adran 13, paragraff 3). Mae’r eithriad yma ar gael i bobl anabl yn unig. Felly nid yw rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gwahaniaethu’n uniongyrchol drwy drin person anabl yn fwy ffafriol na rhywun heb anabledd.

Lawrlwythiadau dogfen

Footnotes

  • Footnote 1

    RBS Group plc v Allen [2009] EWCA Sifil 1213

  • Footnote 2

    MM v Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau [2013] EWCA Sifil 1565

Diweddariadau tudalennau