I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- England Lloegr
- Scotland Alban
- Wales Cymru
Rhagarweiniad
- Mae’r bennod yma o’r cod ymarfer (y Cod) yn egluro sut y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) (Rhan 7) yn berthnasol i gymdeithasau. Mae’n disgrifio beth yw cymdeithas a beth sy’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf wrth drin aelodau, aelodau cyswllt a gwesteion cymdeithas, rhai sy’n ceisio bod yn aelodau neu westeion ynghyd ag aelodau, aelodau cyswllt a gwesteion blaenorol cymdeithas, a dyletswydd cymdeithas i wneud addasiadau rhesymol. Mae’r bennod yma’n egluro pryd y gall cymdeithas gyfyngu ei haelodaeth i rai sy’n rhannu nodwedd a warchodir ac yn disgrifio sut y gall cymdeithasau ddefnyddio darpariaethau gweithredu cadarnhaol y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys mesurau y gall pleidiau gwleidyddol, fel cymdeithasau, eu cymryd i leihau anghydraddoldeb cynrychiolaeth yn y Senedd, mewn llywodraeth leol ac ar gyrff etholedig cyhoeddus eraill. Nid yw Rhan 7 y Ddeddf yn berthnasol i’r nodweddion a warchodir o briodas a phartneriaeth sifil. O ran y nodwedd a warchodir o ryw, rhoddir y diffiniad ym mharagraff 2.88.
Beth yw cymdeithas
- Mae darpariaethau (adran 107, paragraff 2) Rhan 7 y Ddeddf yn berthnasol i unrhyw gymdeithas o bobl os:
- oes gan y gymdeithas o leiaf 25 o aelodau
- mae aelodaeth o’r gymdeithas wedi’i rheoleiddio gan reolau ac mae ganddi broses ddethol
- nid yw’n sefydliad masnach, fel busnes neu sefydliad proffesiynol neu undeb masnach
Mae Rhan 5 y Ddeddf yn berthnasol i sefydliadau masnach ac mae dyletswyddau cyrff masnach o dan y Ddeddf y tu allan i gwmpas y Cod hwn.
- Nid oes ots a yw’r gymdeithas yn gorfforedig neu beidio nac ychwaith a yw ei gweithgareddau’n rhai i wneud elw neu beidio (adran 107, paragraff 4).
- Rhaid i gymdeithasau sy’n elusennau gydymffurfio â darpariaethau ychwanegol o dan y Ddeddf sy’n benodol ar gyfer elusennau, a eglurir ym mharagraffau 13.46 - 13.53 (adran 193).
- Nid yw’r ffaith ei bod yn ofynnol i gymdeithas fod â rheolau’n rheoleiddio derbyn aelodau’n golygu bod yn rhaid i bob cymdeithas fod â rheolau ysgrifenedig ffurfiol. Fel arfer bydd yn ddigon os yw’r rheolau ar gyfer derbyn aelodau newydd yn hysbys i’r holl aelodau sy’n rhan o’r broses ddethol ac yn cael eu harfer yn gyson a rheolaidd.
- Nid yw sefydliad sydd ond yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd dalu ffi i ymuno, heb unrhyw broses ddethol, fel clwb nos neu gampfa, yn gymdeithas o dan y Ddeddf. Nid oes ots a yw’n disgrifio ei hun fel ‘clwb’ neu’n cyfeirio at gwsmeriaid fel ‘aelodau’. Mae cyrff o’r fath yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd a thrafodir eu dyletswyddau ym Mhennod 11 y Cod hwn.
- Mae yna hefyd sefydliadau y mae pobl yn ymuno â nhw i gefnogi amcanion sefydliad, fel clwb cefnogwyr tîm pêl-droed neu fudiad ymgyrchu. Os nad oes proses ddethol ac mae’r aelodaeth ar agor i bawb drwy dalu ffi, ni fyddai sefydliad o’r fath yna’n dod o fewn diffiniad y Ddeddf o gymdeithas.
- Nid yw ‘clwb’ sy’n cael ei redeg gan grŵp o ffrindiau heb unrhyw strwythur neu broses ddethol ffurfiol, fel clwb llyfrau neu grŵp cerdded, yn gymdeithas o dan y Ddeddf.
- Gall cymdeithasau o dan y Ddeddf gynnwys, er enghraifft:
- sefydliadau a sefydlir i hyrwyddo diddordebau eu haelodau, fel cymdeithas o arddwyr rhandiroedd organig lleol, neu gymdeithas o fabolgampwyr amaturaidd
- pleidiau gwleidyddol
- clybiau preifat yn cynnwys clybiau chwaraeon, clybiau i gyn-filwyr, clybiau dynion gweithio, clybiau i bobl gyda diddordebau penodol fel garddio, pysgota neu fiwsig
- sefydliadau pobl ifanc fel y Sgowtiaid, y Geidiaid, Y Crefftwyr Coed, neu Glybiau Ffermwyr Ifanc
- sefydliadau fel clybiau Rotari a’r Olwyn Fewnol, neu Gyfrinfeydd y Seiri Rhyddion
Enghreifftiol yn unig yw’r rhestr hon, mae’r Ddeddf yn berthnasol i lawer mwy o fathau o gymdeithas.
- Gall cymdeithas hefyd fod yn ddarparwr gwasanaethau, cyflogwr neu gorff hyfforddiant. Gall cymdeithas fod yn gyfrifol am ddarparu addysg neu am werthu neu reoli adeilad. Mae’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu yn y meysydd hyn i gyd ac os yw cymdeithas yn cyflawni unrhyw un o’r swyddogaethau ychwanegol hyn, bydd rhannau perthnasol eraill y Ddeddf hefyd yn berthnasol iddi. Mae Pennod 11 y Cod hwn yn berthnasol i unrhyw gymdeithas wrth ddarparu gwasanaeth i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd. Mae’r Cod Ymarfer Cyflogaeth ar wahân yn berthnasol i unrhyw gymdeithas fel cyflogwr.
Cymhwyso’r Ddeddf i gymdeithasau
- Mae’r Ddeddf yn berthnasol i sut y mae cymdeithas yn trin ei haelodau, pobl sy’n ceisio bod yn aelodau, aelodau cyswllt neu westeion, neu rai sy’n ceisio bod yn westeion.
- Mae ‘aelod’ yn golygu unrhyw fath o aelod o gymdeithas (adran 107, paragraff 5). Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, rhywun sy’n aelod llawn, aelod dros dro, aelod cyswllt neu’n aelod-fyfyriwr.
- Mae ‘aelod cyswllt’ yn golygu rhywun sydd ddim yn aelod ond sydd, yn ôl rheolau’r gymdeithas, gyda rhai neu’r holl hawliau sydd gan aelod llawn oherwydd eu bod yn aelod o gymdeithas arall (adran 107, paragraff 6).
- Gallai gwestai fod yn unrhyw berson heb fod yn aelod ond a wahoddir gan y gymdeithas neu aelod o’r gymdeithas i gymryd rhan mewn neu fwynhau budd, cyfleuster neu wasanaeth gan y gymdeithas.
Gwahaniaethu anghyfreithlon drwy gysylltiad
- Mae’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf i gymdeithas wahaniaethu yn erbyn ei haelodau, aelodau cyswllt, gwesteion, rhai sy’n ceisio bod yn aelodau a gwesteion, a hefyd yn erbyn cyn-aelodau, cyn-aelodau cyswllt a chyn-westeion.
Mae gwahaniaethu’n golygu:
- gwahaniaethu uniongyrchol
- gwahaniaethu anuniongyrchol
- gwahaniaethu’n codi o anabledd
- gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth
- methu â gwneud addasiad rhesymol
Eglurir y darpariaethau hyn yn:
- Pennod 4 – Gwahaniaethu uniongyrchol
- Pennod 5 – Gwahaniaethu anuniongyrchol
- Pennod 6 – Gwahaniaethu’n codi o anabledd
- Pennod 7 – Pobl anabl: addasiadau rhesymol
- Mae unrhyw gyfeiriad at ‘wahaniaethu’ ym mharagraffau canlynol y bennod hon yn gyfeiriad at yr holl fathau hyn o wahaniaethu yn erbyn y nodweddion a warchodir o oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a thueddiad rhywiol, oni nodir fel arall yn benodol.
Ymddygiad anghyfreithlon arall
- Mae hefyd yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf i gymdeithas aflonyddy neu fictimeiddio ei haelodau, pobl sy’n ceisio bod yn aelodau, ei haelodau cyswllt a’i gwesteion a rhai sy’n ceisio bod yn westeion. Mae hefyd yn anghyfreithlon i gymdeithas aflonyddu ei chyn-aelodau, cyn-aelodau cyswllt a chyn-westeion (adran 108). Eglurir aflonyddu ym Mhennod 8.
- Nid yw gwahardd aflonyddu aelodau, aelodau cyswllt a gwesteion yn berthnasol os yw’r nodwedd a warchodir yn grefydd neu gred, neu’n dueddiad rhywiol (adran 103, paragraff 2). Yn yr achosion hyn, gallai person sydd wedi dioddef niwed yng nghyswllt y nodweddion a warchodir o grefydd neu gred, neu dueddiad rhywiol, hawlio gwahaniaethu uniongyrchol (Pennod 4 ac Phennod 8) (adran 212, paragraff 5). Gallai aelod, aelod cyswllt neu westai hawlio aflonyddu os yw’r aflonyddu’n ymwneud ag oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil neu ryw. Felly hefyd, gallai cyn-aelodau, cyn-aelodau cyswllt neu gyn-westeion hawlio aflonyddu os yw’r aflonyddu’n ymwneud ag oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil neu ryw. Nid yw beichiogrwydd a mamolaeth wedi eu gwarchod yn uniongyrchol o dan y darpariaethau aflonyddu (adran 26, paragraff 5). Fodd bynnag, byddai aflonyddu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn gyfystyr â aflonyddu ar sail rhyw (Pennod 8).
- Byddai gwarchod rhag fictimeiddio’n codi o dan y Ddeddf lle bo rhywun yn cyflawni ‘gweithred a warchodir’. Eglurir fictimeiddio ym Mhennod 9.
Beth sy’n anghyfreithlon yn achos pobl sy’n ceisio bod yn aelodau
- Mae’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf i gymdeithas wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu fictimeiddio person sy’n ceisio bod yn aelod (adran 101).
- Ni ddylai cymdeithas wahaniaethu (adran 101, paragraff 1):
- o ran ei threfniadau ar gyfer dethol aelodau newydd
- o ran y telerau derbyn
- drwy wrthod cais y person
- Ni ddylai cymdeithas afonlyddu person sy’n ceisio bod yn aelod (adran 101, paragraff 4(b)).
- Ni ddylai cymdeithas fictimeiddio person sy’n ceisio bod yn aelod (adran 101, paragraff 5):
- o ran ei threfniadau ar gyfer dethol aelodau newydd
- o ran y telerau derbyn
- drwy wrthod cais y person
- Gall ‘trefniadau’ gynnwys sut neu i bwy y mae cyfleoedd aelodaeth yn cael, neu ddim yn cael eu hysbysu iddynt, dulliau cyfathrebu, gweithdrefnau ymgeisio, ffurflenni cais, ac amser o’r dydd, lleoliad a sut y cynhelir unrhyw broses ddethol. Gallai’r trefniadau sydd gan gymdeithas ar gyfer dethol aelodau newydd atal person gyda nodwedd a warchodir benodol rhag ymgeisio, neu hyd yn oed ystyried ymgeisio.
- Gall ‘telerau derbyn’ gynnwys lefel y ffi am ymuno, admodau a gweithdrefnau cynefino.
Beth sy’n anghyfreithlon yn achos aelodau
- Mae’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf i gymdeithas wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu fictimeiddio aelod.
- Ni ddylai cymdeithas wahaniaethu yn erbyn aelod (adran 101, paragraff 2):
- o ran sut y mae’n rhoi neu’n gwrthod rhoi mynediad at fudd, cyfleuster neu wasanaeth
- drwy wrthod aelodaeth iddynt
- drwy amrywio eu telerau aelodaeth
- drwy achosi niwed arall iddynt
- Mae ‘budd, cyfleuster neu wasanaeth’ yn disgrifio’r ystod eang o fanteision materol ac anfaterol a fwynheir gan aelodau cymdeithas, gan gynnwys cael eich gwahodd neu dderbyn i gyfarfod neu ddigwyddiad, defnyddio cyfarpar neu gyfleusterau, defnyddio cynllun disgownt, gwasanaeth bar neu fwyty, neu dderbyn cylchgrawn neu gylchlythyr.
- Gall ‘telerau aelodaeth’ gynnwys ffi neu dâl, hawl i bleidleisio, hawl i sefyll am swydd neu i gynrychioli’r gymdeithas yn allanol, amodau ar ddefnyddio cyfleusterau neu gymryd rhan mewn digwyddiadau.
- Am eglurhad o ‘niwed’, dylid darllen paragraffau 9.12 i 9.16.
- Mae ‘achosi niwed arall i aelod’ yn gweithredu fel categori diofyn ar gyfer sefyllfa lle y rhoddir yr aelod o dan anfantais o ran eu haelodaeth, ond nid yn unrhyw un o’r ffyrdd a ddisgrifir ym mharagraff 12.32. Hyd yn oed os yw cymdeithas yn meddwl ei bod yn gweithredu er lles gorau’r person, gallent er hynny fod yn achosi niwed iddynt.
- Ni ddylai cymdeithas aflonyddu unrhyw un o’i haelodau (adran 101, paragraff 4 (a)).
- Ni ddylai cymdeithas fictimeiddio aelod (adran 101, paragraff 6):
- o ran sut y mae’n rhoi neu’n gwrthod rhoi mynediad at fudd, cyfleuster neu wasanaeth
- drwy wrthod aelodaeth iddynt
- drwy amrywio’r telerau aelodaeth neu achosi niwed o fath arall iddynt
Beth sy’n anghyfreithlon yn achos aelodau cyswllt
- Ni ddylai cymdeithas wahaniaethu yn erbyn aelod cyswllt (adran 101, paragraff 3):
- o ran sut y mae’n rhoi neu’n gwrthod rhoi mynediad at fudd, cyfleuster neu wasanaeth
- drwy warafun eu hawliau fel aelod cyswllt
- drwy amrywio eu hawliau fel aelod cyswllt
- drwy achosi niwed arall iddynt
- Ni ddylai cymdeithas aflonyddu aelod cyswllt (adran 101, paragraff 4(c)).
- Ni ddylai cymdeithas fictimeiddio aelod cyswllt (adran 101, paragraff 7):
- o ran sut y mae’n rhoi neu’n gwrthod rhoi mynediad at fudd, cyfleuster neu wasanaeth
- drwy warafun eu hawliau fel aelod cyswllt
- drwy amrywio eu hawliau fel aelod cyswllt
- drwy achosi niwed arall iddynt
Gwesteion a phobl yn ceisio bod yn westeion
- Mae’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf i gymdeithas, mewn rhai amgylchiadau, wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu fictimeiddio gwestai neu rywun sy’n ceisio bod yn westai (adran 102).
Beth sy’n anghyfreithlon yn achos pobl sy’n ceisio bod yn westeion
- Ni ddylai cymdeithas wahaniaethu (adran 102, paragraff 1) o ran:
- y trefniadau a wneir ganddi i benderfynu pwy i wahodd, neu bwy y gellir eu gwahodd, fel gwestai
- ar ba delerau y mae’n gwahodd person, neu’n caniatáu i’r person hwnnw gael ei wahodd, fel gwestai
- drwy beidio â gwahodd, neu adael i’r person gael ei wahodd, fel gwestai
- Ni ddylai cymdeithas aflonyddu darpar westai (adran 102, paragraff 3(b)).
- Ni ddylai cymdeithas fictimeiddio person sy’n ceisio bod yn westai (adran 102, paragraff 4) o ran:
- y trefniadau a wneir ganddi i benderfynu pwy i wahodd, neu bwy y gellir eu gwahodd, fel gwestai
- ar ba delerau y mae’n gwahodd person, neu’n caniatáu i’r person hwnnw gael ei wahodd, fel gwestai
- drwy beidio â gwahodd, neu adael i’r person gael ei wahodd, fel gwestai
Beth sy’n anghyfreithlon yn achos gwesteion
- Ni ddylai cymdeithas wahaniaethu yn erbyn gwestai (adran 102, paragraff 2) o ran:
- sut y mae’n rhoi neu’n gwrthod rhoi mynediad at fudd, cyfleuster neu wasanaeth
- drwy achosi niwed arall iddynt
- Ni ddylai cymdeithas aflonyddu unrhyw westai (adran 102, paragraff 3 (a)).
- Ni ddylai cymdeithas fictimeiddio gwestai (adran 102, paragraff 5) o ran:
- sut y mae’n rhoi neu’n gwrthod rhoi mynediad at fudd, cyfleuster neu wasanaeth
- drwy achosi niwed arall iddynt
Addasiadau rhesymol
- Mae’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf i gymdeithas fethu â chydymffurfio â dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol (atodlen 15). Mae’r ddyletswydd hon (adran 103, paragraff 1) yn un i ragweld ac eglurir hyn yn fwy manwl ym Mhennod 7. Mae ‘rhagweld’ yn golygu bod angen i gymdeithasau ystyried, a gweithredu ynghylch, rhwystrau posib y gallai pobl anabl eu hwynebu. Mae hyn yn berthnasol cyn i berson anabl geisio dod yn aelod neu westai, a hefyd yn achos rhywun sy’n aelod, aelod cyswllt neu westai’n barod wrth geisio mwynhau’r hawliau a’r budd, cyfleusterau neu’r gwasanaethau y mae’r gymdeithas yn, neu y disgwylir i’r gymdeithas, eu darparu (adran 107, paragraff 8).
- Ni fydd angen i gymdeithas gymryd unrhyw gamau sy’n newid natur y budd, cyfleuster neu’r gwasanaeth dan sylw, neu natur y gymdeithas ei hun, yn sylfaenol (atodlen 15, paragraff 2 (7)).
- Os yw cymdeithas yn cwrdd yn nhŷ un o’i haelodau, nid oes gan yr aelod ddyletswydd i addasu nodweddion ffisegol eu tŷ (atodlen 15, paragraff 2(8)).
Gall cymdeithasau gyfyngu eu haelodaeth i bobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir
- O dan y Ddeddf, caniateir i gymdeithasau o unrhyw faint neu gymeriad, heblaw am bleidiau gwleidyddol, gyfyngu eu haelodaeth i bobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir (atodlen 16). Yr unig eithriad yw na ellir byth cyfyngu aelodaeth ar sail lliw (atodlen 16, paragraff 1(4)).
- Nid yw’r ddarpariaeth yma’n berthnasol i bleidiau gwleidyddol (atodlen 16, paragraff 1(5)). Mae plaid wleidyddol gofrestredig yn blaid sydd wedi cofrestru ar gofrestr Prydain o dan Ran 2 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, nid yw byth yn gyfreithlon i blaid wleidyddol gofrestredig gyfyngu ei haelodaeth i bobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir. Er enghraifft, ni fyddai’n gyfreithlon i blaid wleidyddol adael dim ond pobl Albanaidd neu Gristnogion ymaelodi â’r blaid.
- Os yw cymdeithas yn cyfyngu ei haelodaeth i bobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir:
- gall y gymdeithas gyfyngu mynediad aelodau cyswllt at fudd, cyfleuster neu wasanaeth i aelodau cyswllt sy’n rhannu’r un nodwedd a warchodir (atodlen 16, paragraff 1(2)), a
- gall y gymdeithas wahodd fel gwesteion, neu ganiatáu gwahodd fel gwesteion, dim ond pobl sy’n rhannu’r un nodwedd a warchodir (atodlen 16, paragraff 1(3))
- Ni ddylai cymdeithasau sy’n cyfyngu aelodaeth i bobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir benodol wahaniaethu yng nghyswllt unrhyw nodwedd a warchodir arall.
- O dan Adran 6(c) Deddf Dehongli 1978, mewn unrhyw ddeddf mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog a geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol, oni bai y nodir bwriad fel arall. Drwy’r ddarpariaeth hon, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn caniatáu i gymdeithasau fod yn seiliedig ar fwy nag un nodwedd a warchodir.
- Mae’r dehongliad yma o’r Ddeddf yn gyson â’r hawl rhyddid i ymgysylltu o dan Erthygl 11 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR). Mae Erthygl 11 yn cynnwys yr hawl (yn amodol ar gyfyngiadau cymesur) i bobl gael ymgysylltu â’i gilydd, gan eithrio pobl eraill, mewn amgylchiadau priodol. Gall cymdeithas felly gyfyngu ei haelodaeth i bobl sydd:
- yn rhannu un nodwedd a warchodir (er enghraifft, merched)
- yn rhannu mwy nag un nodwedd a warchodir (er enghraifft, merched Mwslemaidd)
- ag un neu fwy nag un nodwedd a warchodir (er enghraifft pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu draws)
- Mae eithriadau eraill ar gyfer cymdeithasau a sut y maen nhw’n trin eu haelodau, aelodau cyswllt a gwesteion.
- Mae’r rhain yn cynnwys eithriadau’n ymwneud â diogelwch gwladol, elusennau, gwasanaethau rhyw-sengl, gwasanaethau ac aelodau o gyrff crefyddol. Mae eithriadau pellach yn cynnwys trin yn wahanol oherwydd pryderon iechyd a diogelwch yn ymwneud â beichiogrwydd a dewis pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol (Pennod 13).
Gweithredu cadarnhaol gan gymdeithasau
- Mae’r Ddeddf yn diffinio o dan ba amgylchiadau y gall cymdeithas gymryd camau gweithredu cadarnhaol i oresgyn anfantais, cwrdd â gwahanol anghenion, neu gynyddu cyfranogiad pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir (adran 158). Mae Pennod 10 yn egluro hyn yn fwy manwl.
- Gall cymdeithas ddewis gweithredu’n gadarnhaol fel y gall pobl ym mhob rhan berthnasol o’r gymuned gael eu derbyn fel aelodau neu eu gwahodd fel gwesteion a chael mynediad llawn at y buddion, cyfleusterau a gwasanaethau a fwynheir gan aelodau neu westeion.
Pleidiau gwleidyddol: gweithredu cadarnhaol wrth ddethol ymgeiswyr
- Mae’r Ddeddf yn caniatáu i blaid wleidyddol gofrestredig (paragraffau 12.90 i 12.93) gymryd camau penodol wrth ddethol ymgeiswyr etholiad i leihau anghydraddoldeb yng nghynrychiolaeth y blaid ar y corff etholedig perthnasol (adran 104).
- Mae hyn yn berthnasol i’r etholiadau canlynol:
- etholiadau i Senedd y DU
- etholiadau i Senedd yr Alban
- etholiadau i Senedd Cymru
- etholiadau llywodraeth leol
- O dan y Ddeddf, gall plaid wleidyddol gofrestredig wneud trefniadau (a elwir yn drefniadau dethol) (adran 104, paragraff 2) i reoleiddio’r broses o ddethol ymgeiswyr ar gyfer etholiad perthnasol (adran 104, paragraff 3):
- os mai pwrpas y trefniadau yw lleihau anghydraddoldeb yng nghynrychiolaeth y blaid ar y corff etholedig perthnasol (adran 104, paragraff 3(b)), a
- os yw’r trefniadau hyn yn ffordd gymesur o gyflawni’r pwrpas hwnnw (dylid darllen paragraffau 5.46 i 5.48 am eglurhad o ‘cymesur’) (adran 104, paragraff 3(c))
Nid yw’r rheidrwydd bod trefniadau dethol yn gymesur yn berthnasol i restr fer merched yn unig (paragraff 12.94).
- Mae anghydraddoldeb yng nghynrychiolaeth plaid ar gorff etholedig yn golygu anghydraddoldeb rhwng nifer ymgeiswyr y blaid sydd wedi eu hethol fel aelodau ar y corff hwnnw sy’n rhannu nodwedd a warchodir, o’i gymharu â faint o ymgeiswyr etholedig y blaid sydd ddim yn rhannu’r nodwedd a warchodir honno (adran 104, paragraff 4). Y gymhariaeth sy’n ofynnol o dan adran 104, paragraff 4 yw’r un o gyfansoddiad presennol y corff etholedig.
- I’r pwrpas hwn, mae pobl yn rhannu’r nodwedd a warchodir o anabledd os ydyn nhw’n bobl anabl yn gyffredinol. Ni chaniateir trefniadau dethol sydd wedi eu cyfyngu i bobl gydag anabledd penodol (er enghraifft, pobl ddall) (adran 104, paragraff 5).
- Mae’n annhebygol o fod yn gymesur i blaid wleidyddol fabwysiadu trefniadau dethol sydd ond yn canolbwyntio ar wella cynrychiolaeth un grŵp penodol sy’n rhannu nodwedd a warchodir a fyddai’n lleihau rhagolygon dethol pobl mewn grwpiau eraill sydd wedi eu tan-gynrychioli ymhellach.
Cadw lle ar restr fer pleidiau gwleidyddol
- Os oes anghydraddoldeb yng nghynrychiolaeth plaid, mae’r Ddeddf yn caniatáu iddi fabwysiadu trefniadau dethol a fyddai’n cadw hyn a hyn o lefydd ar restr fer ymgeiswyr y blaid ar gyfer pobl sy’n rhannu nodweddion a warchodir sydd wedi eu tan-gynrychioli ymhlith ymgeiswyr etholedig y blaid ar y corff perthnasol (adran 104, paragraff 7).
- Fel rheol, ni all plaid wleidyddol gadw pob lle ar restr fer etholiadol ar gyfer pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir benodol. Mae eithriadau i’r rheol hon ar gyfer y nodweddion a warchodir o ryw (paragraff 12.94 a pharagraff 12.95) ac anabledd (paragraffau 12.96 i 12.100).
- Os yw plaid yn sicrhau cydraddoldeb o ran nodwedd a warchodir benodol yn ei chynrychiolaeth ar gorff etholedig, ni fydd yn gallu parhau i gadw llefydd rhestr fer ar gyfer pobl sy’n rhannu’r nodwedd a warchodir honno na chymryd mesurau eraill o dan y ddarpariaeth hon, oherwydd ni fyddai mwyach yn weithred gymesur.
Rhestr fer merched yn unig
- Mae gan y Ddeddf ddarpariaeth, a gyflwynwyd gyntaf yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw (Ymgeiswyr Etholiad) 2002, sy’n gadael i bleidiau gwleidyddol cofrestredig roi dim ond merched ar restr fer o ymgeiswyr i’w hethol ar gorff, i leihau anghydraddoldeb rhwng merched a dynion yng nghynrychiolaeth y blaid ar y corff etholedig hwnnw (adran 105).
- Mae’r Ddeddf yn ymestyn y ddarpariaeth hon tan 31 Rhagfyr 2030, ar ôl hynny bydd rhestr fer o ferched yn unig yn anghyfreithlon oni bai fod y llywodraeth yn gorchymyn ymestyn y terfyn amser.
Rhestr fer anabledd yn unig
- Gall pleidiau gwleidyddol gyfyngu rhestr fer i ymgeiswyr anabl. Mae hyn oherwydd mai dim ond pobl sy’n cwrdd â’r diffiniad o anabledd o dan y Ddeddf a warchodir rhag gwahaniaethu ar sail anabledd ac mae’r Ddeddf yn nodi’n benodol nad yw trin pobl anabl yn fwy ffafriol na phobl sydd ddim yn anabl yn wahaniaethu uniongyrchol (adran 13, paragraff 3).
- Fodd bynnag, pe bai plaid yn cyfyngu ei rhestr fer i ymgeiswyr anabl gyda nam neu fath o nam penodol yn gwahaniaethu’n uniongyrchol ar sail anabledd. Byddai hyn yn trin rhai pobl anabl yn fwy ffafriol na phobl anabl eraill oherwydd eu hanabledd.
- Ni fydd rhestr fer anabledd yn unig yn wahaniaethu anuniongyrchol os gall y blaid wleidyddol ddangos bod y trefniant yn ffordd gymesur o leihau’r anghydraddoldeb rhwng ei chynrychiolwyr sydd ddim yn anabl a rhai sydd yn anabl (adran 104, paragraff 3(b), paragraff 4 a pharagraff 5).
- Ar wahân i’r darpariaethau penodol a ddisgrifir ym mharagraffau 12.83 i 12.99 sy’n caniatáu gweithredu cadarnhaol wrth ddethol ymgeiswyr neu lunio rhestr fer, mae darpariaethau gweithredu cadarnhaol cyffredinol y Ddeddf yn caniatáu i blaid geisio cywiro anfantais a than-gynrychiolaeth yn aelodaeth a strwythurau’r blaid (adran 158). Rhoddir mwy o fanylion am hyn ym Mhennod 10.
Osgoi gwahaniaethu anghyfreithlon
- Dyma rai camau y gallai cymdeithasau eu cymryd i osgoi gwahaniaethu:
- adolygu eu hamodau neu ofynion aelodaeth yn eu cyfansoddiad neu reolau, i sicrhau nad ydyn nhw’n gwahaniaethu
- gwneud unrhyw berson, gan gynnwys unrhyw swyddog, aelod neu weithiwr, sydd neu a allai gael ei ystyried i fod yn gweithredu ar ran cymdeithas, yn ymwybodol o’u dyletswyddau o dan y Ddeddf, gan ddarparu hyfforddiant fel bo angen
- adnabod rhwystrau posib i bobl anabl a gwneud addasiadau rhesymol (mae Pennod 7 yn egluro hyn yn fwy manwl)
- ymateb yn niwtral, prydlon ac effeithiol ac mewn ffordd ddi-duedd i unrhyw gŵyn o wahaniaethu, aflonyddu neu fictimeiddio a gwneud newidiadau priodol i ddarpariaethau, meini prawf neu arferion
Lawrlwythiadau dogfen
Code of practice for services, public functions and associations
PDF, 1.69 MB, 342 pages
Footnotes
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
5 Awst 2026
Diweddarwyd diwethaf
5 Awst 2026