I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?
- England Lloegr
- Scotland Alban
- Wales Cymru
Rhagarweiniad
- Mae’r bennod yma yn y cod ymarfer (y Cod) yn egluro sut y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn berthnasol i ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, ac i ymarfer swyddogaethau cyhoeddus. Mae’n egluro beth yw gwahaniaethu anghyfreithlon a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn y meysydd hyn. Yn ymarferol o dan y Ddeddf, mae dyletswyddau rhywun sy’n darparu gwasanaeth ac ymarfer swyddogaeth gyhoeddus fwy neu lai’r un fath. Nid yw’r Ddeddf yn berthnasol yr un fath i gymdeithasau ac eglurir hyn ym Mhennod 12.
- Mae’r darpariaethau ar gyfer gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus yn berthnasol i’r holl nodweddion a warchodir heblaw am:
- priodas a phartneriaeth sifil
- oed, lle bo’r person dan 18 oed (adran 28, paragraff 1)
Beth y mae gwahaniaethu’n ei feddwl yn y bennod hon
- Mae unrhyw gyfeiriad at ‘wahaniaethu’ yn y bennod hon yn cyfeirio at unrhyw un neu bob un o’r mathau hyn o wahaniaethu, oni nodir yn wahanol:
- gwahaniaethu uniongyrchol
- gwahaniaethu anuniongyrchol
- gwahaniaethu’n codi o anabledd
- gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth
- methu â gwneud addasiad rhesymol
Gwasanaethau
Beth yw gwasanaeth
- Rhywun sy’n darparu gwasanaeth yw unrhyw un sy’n rhan o ddarparu gwasanaeth i’r cyhoedd neu i ran o’r cyhoedd, p’un ai am dâl (adran 29, paragraff 1) neu beidio. Mae gwasanaethau’n cynnwys darparu nwyddau a chyfleusterau (adran 31, paragraff 2).
- Mae ystod o wasanaethau’n dod o dan y Ddeddf gan gynnwys rhoi mynediad i, a defnyddio, unrhyw le y caniateir i aelodau o’r cyhoedd fynd iddo. Ymhlith y gwasanaethau yw rhai sy’n cael eu darparu i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd gan:
- awdurdodau lleol, adrannau llywodraeth a’u hasiantaethau
- elusennau a chyrff neu fudiadau gwirfoddol
- gwestai, bwytai a thafarndai
- swyddfeydd post, banciau, cymdeithasau adeiladu
- cyfreithwyr, cyfrifwyr, asiantaethau cynghori
- sefydliadau telathrebu, cyfleustodau cyhoeddus (fel cwmnïau cyflenwi nwy, trydan a dŵr)
- gwasanaethau gan weithredwyr bysus a threnau, gorsafoedd rheilffordd a meysydd awyr
- parciau cyhoeddus, stadia chwaraeon, canolfannau hamdden
- theatrau, sinemâu, salonau gwallt, siopau, stondinau marchnad, gorsafoedd petrol, busnesau tele-werthu
- ysbytai a chlinigau
Mae’r rhestr uchod yn rhoi enghreifftiau’n unig ac nid yw’n cynnwys pob gwasanaeth a fyddai’n dod o dan y Ddeddf.
- Mae gwasanaethau’n dod o dan y Ddeddf p’un ai wedi eu darparu gan gorff gwirfoddol, cyhoeddus neu breifat. Er enghraifft, byddai gofal meithrinfa a gofal dydd neu redeg cartref preswyl a chanolfan hamdden yn dod o dan y darpariaethau hyn p’un ai wedi eu darparu gan gorff preifat neu awdurdod lleol.
- Mae’n bwysig cofio mai darparu’r gwasanaeth sy’n dod o dan y Ddeddf. Yn aml iawn, bydd darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth mewn nifer o wahanol ffyrdd. Weithiau, gallai’r ffyrdd hynny fod mor wahanol fel y byddent yn cael eu hystyried yn wasanaeth ynddo’i hun ac angen cyd-fynd â’r Ddeddf.Footnote 1
Atebolrwydd am wahaniaethu os yw gwasanaeth yn cael ei ddarparu i’r cyhoedd gan fwy nag un darparwr
- Gallai gwasanaeth i’r cyhoedd ymddangos i fod yn cael ei ddarparu gan fwy nag un darparwr gwasanaeth. Mewn achos o’r fath, gallai fod yn bwysig adnabod pwy sy’n gyfrifol am ddarparu pa bynnag agwedd ar y gwasanaeth a achosodd y gwahaniaethu honedig. Mewn rhai achosion, gallai nifer o ddarparwyr gwasanaeth fod yn rhannu atebolrwydd o dan y Ddeddf. Er enghraifft, gallai dau ddarparwr gwasanaeth fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth ac felly’n rhannu rhwymedigaethau ar gyfer y gwasanaeth hwnnw o dan y Ddeddf. Mae’n amherthnasol sut y maen nhw’n penderfynu rhyngddynt sut y dylid cwrdd â’r dyletswyddau ond rhaid cwrdd â rhwymedigaethau’r Ddeddf. Mae hyn yn debygol o fod yn arbennig o bwysig o ran y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl anabl.
Swyddogaethau cyhoeddus
Beth yw swyddogaeth gyhoeddus
- I bwrpas y Ddeddf, dim ond swyddogaethau awdurdod cyhoeddus sydd ddim yn wasanaethau a ddim yn dod o dan Ran 4 (adeiladau), Rhan 5 (gwaith) a Rhan 6 (addysg) y Ddeddf sy’n dod o dan y darpariaethau swyddogaethau cyhoeddus. Yn aml iawn, bydd awdurdod cyhoeddus yn gweithredu o dan bŵer neu ddyletswydd statudol wrth ymarfer swyddogaeth o’r fath. Byddai gorfodi’r gyfraith neu gasglu trethi’n enghreifftiau o’r gweithgareddau hyn.
- Fodd bynnag, nid awdurdodau cyhoeddus yn unig sy’n ymarfer swyddogaethau cyhoeddus. Gall cyrff preifat neu wirfoddol hefyd eu hymarfer, er enghraifft, pan fydd cwmni preifat yn rhedeg carchar neu pan fydd corff gwirfoddol yn dod yn gyfrifol am amddiffyn plant.
- O dan y Ddeddf mae gan swyddogaeth gyhoeddus yr un ystyr â ‘swyddogaeth o natur gyhoeddus’ i bwrpas Deddf Hawliau Dynol 1998 (adran 31, paragraff 4). Yn achos cyrff preifat neu wirfoddol, byddai hyn yn cynnwys gweithgareddau a gyflawnir ar ran y Wladwriaeth sydd ddim yr un fath â gwasanaethau a allai gael eu cyflawni gan bersonau preifat (adran 6, paragraff 3(b) o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998).
- Gallai’r term ‘swyddogaeth gyhoeddus’ gynnwys amrywiaeth eang fel:
- penderfynu fframweithiau ar gyfer hawl i fudd-daliadau neu wasanaethau
- gorfodi’r gyfraith
- derbyn rhywun i garchar neu ganolfan cadw mewnfudwyr
- rheolaeth gynllunio
- trwyddedu
- gorfodi mesurau rheoli parcio, safonau masnach, iechyd yr amgylchedd
- ymarfer pwerau statudol o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl ac amddiffyn plant
- swyddogaethau rheoleiddio
- ymchwilio i gwynion penodol
Enghraifft yn unig yw’r rhestr hon, nid yw’n cynnwys pob swyddogaeth sy’n dod o dan y rhan yma o’r Ddeddf.
Rhyngweithio â’r darpariaethau gwasanaeth
- Bydd p’un ai yw gweithgaredd yn wasanaeth i’r cyhoedd, neu’n swyddogaeth gyhoeddus, yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos. Mae llawer o’r gweithgareddau a gyflawnir gan awdurdod cyhoeddus yn rhai i’r cyhoedd, er enghraifft, gwasanaethau llyfrgell neu hamdden. Bydd y gweithgareddau hyn yn dod o dan ddarpariaethau’r Ddeddf ar gyfer darparu gwasanaeth i’r cyhoedd (adran 31, paragraff 3).
Gwahaniaethu anghyfreithlon o ran gwasanaethau
- O dan y Ddeddf, mae’n anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth wahaniaethu yn erbyn person sydd angen neu’n ceisio cael neu ddefnyddio gwasanaeth drwy beidio â darparu’r gwasanaeth i’r person.
- Yn y cyd-destun hwn, mae cyfeiriad at ddarparwr gwasanaeth sydd ddim yn darparu gwasanaeth (adran 29, paragraff 1) yn cynnwys:
- mae’r darparwr gwasanaeth yn gwrthod darparu’r gwasanaeth i’r person
- y darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth i’r person sydd o’r ansawdd arferol a ddarperir i’r cyhoedd (neu ran o’r cyhoedd sy’n cynnwys y person dan sylw) (adran 31, paragraff 7(a))
- y darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth i’r person yn y ffordd, neu ar y telerau, sydd fel arfer yn cael eu darparu i’r cyhoedd (neu ran o’r cyhoedd sy’n cynnwys y person dan sylw) (adran 31, paragraff 7(b))
- Mae hefyd yn anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth wahaniaethu yn erbyn person:
- o ran ar ba delerau y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu i’r person
- drwy derfynu’r gwasanaeth i’r person
- drwy achosi niwed arall i’r person dan sylw (adran 29, paragraff 2)
- Gall y darpariaethau hyn orgyffwrdd fel bod, er enghraifft, ymddygiad digywilydd neu sarhaus tuag at gwsmer neu ddarpar gwsmer yn wasanaeth o safon is neu’n niwed. Gallai gwasanaeth o safon is olygu peidio â darparu’r gwasanaeth yn y ffordd ac ar y telerau y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu fel arfer (adran 31, paragraff 7).
- Gallai gwahaniaethu o ran telerau gwasanaeth gynnwys codi mwy am nwyddau neu wasanaethau neu osod amodau ychwanegol am ddefnyddio cyfleuster neu wasanaeth.
- Nid yw’r Ddeddf yn diffinio ‘niwed’ ac mae’n derm cyffredinol iawn a allai gymryd sawl ffurf. Am eglurhad o ‘niwed’, dylid darllen paragraffau 9.12 i 9.16.
- Hyd yn oed os yw’r darparwr gwasanaeth yn meddwl eu bod yn ymddwyn er lles gorau’r defnyddiwr, gallai eu hymddygiad er hynny greu niwed i’r person (adran 29, paragraff 2).
- Mae’n gyfreithlon i ddarparwr gwasanaeth ddarparu gwasanaeth neu werthu nwyddau sydd wrth natur yn debygol o gael eu defnyddio neu brynu gan bobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir, ar yr amod nad yw’r darparwr gwasanaeth yn gwrthod darparu’r gwasanaeth i bobl sydd ddim yn rhannu’r nodwedd. Er enghraifft, pe bai cigydd Kosher gyda chwsmeriaid Iddewig yn bennaf yn gwrthod gwerthu cig Kosher i bobl heb fod yn Iddewig, byddai’n gwahaniaethu.
Gwahaniaethu anghyfreithlon wrth ymarfer swyddogaethau cyhoeddus
- Mae’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu wrth ymarfer swyddogaeth gyhoeddus (adran 29, paragraff 6). Byddai’r ddarpariaeth yma’n cynnwys, er enghraifft, gwrthod gadael i rywun fanteisio ar ymarfer swyddogaeth neu drin rhywun yn waeth wrth ymarfer swyddogaeth. Er enghraifft, gwrthod cais am drwydded neu stopio a chwilio unigolyn oherwydd nodwedd a warchodir.
Methu â gwneud addasiad rhesymol wrth ddarparu gwasanaeth ac ymarfer swyddogaeth gyhoeddus
- Mae gwahaniaethu hefyd yn digwydd pan fydd rhywun sy’n darparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Mae’r ddyletswydd yn codi pan fydd person anabl dan anfantais sylweddol o’i gymharu â rhywun heb fod yn anabl oherwydd darpariaeth, maen prawf, arfer, nodwedd ffisegol neu ddiffyg cymorth neu wasanaeth ategol. Eglurir y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn fwy manwl ym Mhennod 7.
- O ran ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, o dan y Ddeddf mae rhoi rhywun dan anfantais sylweddol (atodlen 2, paragraff 2(5)) yn golygu:
- Os yw budd yn cael, neu gallai gael ei roi wrth ymarfer swyddogaeth, os yw’r person yn cael ei roi dan anfantais sylweddol o ran rhoi’r budd hwnnw, neu
- Os yw person yn, neu gallai ddioddef niwed wrth ymarfer y swyddogaeth, gan ddioddef profiad afresymol o niweidiol wrth i’r niwed gael ei achosi iddynt.
- Nid yw’r Ddeddf yn diffinio ‘afresymol o niweidiol’. Gall ymarfer rhai swyddogaethau gael effaith niweidiol ar y person sy’n destun y swyddogaethau hynny – er enghraifft, cael eu harestio. Swyddogaethau ‘negyddol’ yw’r rhain. Nod y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn yr amgylchiadau hyn yw sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol bosib, nad yw pobl anabl yn cael profiad sylweddol waeth na phobl eraill wrth ymarfer y swyddogaethau hyn. Bwriedir i ‘afresymol o niweidiol’ gynrychioli’r un lefel o anhawster ag anfantais ‘sylweddol’. Am fwy o fanylion dylid darllen paragraffau 7.11 i 7.14.
- Os yw budd yn cael, neu gallai gael ei roi drwy ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, gallai anfantais sylweddol godi o ran rhoi neu wrthod rhoi’r budd (y canlyniad) a’r broses o’i gael neu geisio ei gael. Mae hyn yn golygu os yw unigolyn yn profi niwed yn y broses o gael budd, y gallai hyn arwain at hawliad cyfreithiol, hyd yn oed os yw’r budd wedi’i roi.Footnote 2
Nodweddion ffisegol
- O ran nodweddion ffisegol, mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i rywun sy’n darparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol i osgoi’r anfantais, neu ddefnyddio ffordd resymol arall o ymarfer y swyddogaeth (adran 20, paragraff 4 ac adran 29, paragraff 7).
Cyfyngiadau ar y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol
- Ni fydd angen i rai sy’n ymarfer swyddogaethau cyhoeddus gymryd unrhyw gamau sydd y tu allan i’w pwerau (atodlen 2, paragraff 2(8)).
- O ran gwasanaethau, ni fydd angen i ddarparwr gwasanaeth gymryd unrhyw gamau a fyddai’n newid natur y gwasanaeth, neu natur masnach neu broffesiwn y darparwr, yn sylfaenol (atodlen 2, paragraff 2(7)).
Ymddygiad arall wedi’i wahardd
Aflonyddu
- Mae hefyd yn anghyfreithlon i berson wneud unrhyw beth sy’n aflonyddu wrth ddarparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus (adran 29, paragraff 3 a pharagraff 6). Eglurir aflonyddu’n fwy manwl ym Mhennod 8.
- Mae gwahardd aflonyddu wrth ddarparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus yn berthnasol i’r nodweddion a warchodir canlynol: oed (os yw’r unigolyn yn 18+ oed), anabledd, ailbennu rhywedd, hil a rhyw (adran 26, paragraff 5 ac adran 28, paragraff 1). Nid yw aflonyddu unigolion gyda’r nodweddion a warchodir o dueddiad rhywiol neu grefydd neu gred wedi’i warchod (adran 29, paragraff 8). Fodd bynnag, gallai ‘ymddygiad dieisiau’ oherwydd tueddiad rhywiol neu grefydd neu gred, sy’n achosi niwed i rywun drwy eu trin yn llai ffafriol, fod yn wahaniaethu uniongyrchol (adran 212, paragraff 5). Eglurir gwahaniaethu uniongyrchol yn fanwl ym Mhennod 4. Nid yw beichiogrwydd a mamolaeth wedi eu gwarchod o dan ddarpariaethau aflonyddu’r Ddeddf (adran 26, paragraff 5) ychwaith, ond byddai aflonyddu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth yn aflonyddu ar sail rhyw. Mae Pennod 8 yn egluro’r darpariaethau aflonyddu’n fanwl.
Fictimeiddio
- Mae hefyd yn anghyfreithlon i rywun fictimeiddio person wrth ddarparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus (adran 29, paragraff 4 ac adran 29, paragraff 6) drwy:
- beidio â darparu’r gwasanaeth i’r person dan sylw (adran 29, paragraff 4)
- darparu’r gwasanaeth i’r person dan sylw ar delerau llai ffafriol (adran 29, paragraff 5)
- dod â’r gwasanaeth i’r person dan sylw i ben (adran 29, paragraff 5)
- achosi niwed arall i’r person dan sylw (adran 29, paragraff 5)
- Eglurir fictimeiddio ac ymddygiad arall wedi’i wahardd, fel cynorthwyo rhywun i wahaniaethu, ym Mhennod 9.
Perthynas Rhan 3 â Rhannau eraill y Ddeddf
- Fel yr eglurir ym Mhennod 3, mae gwerthu a rheoli adeiladau, cyflogaeth, addysg a rhai agweddau ar drafnidiaeth yn dod o dan Rannau eraill y Ddeddf (Rhannau 4, 5, 6 a 12 yn yr un drefn) ac nid o dan y Cod hwn. Fodd bynnag, lle nad yw’r Rhannau hynny’n berthnasol, gallai gweithgareddau cysylltiedig fod yn wasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus ac felly’n dod o dan Ran 3. Er enghraifft, mae Rhan 4 yn berthnasol os yw asiant tai’n gosod neu reoli eiddo ar ran perchennog ond nid os yw asiant tai’n hysbysebu neu ddarparu gwybodaeth am eiddo. Yn hytrach, byddai’r gweithgareddau olaf hyn yn wasanaethau i’r cyhoedd.
Rhyngweithio â’r darpariaethau addysg
- Mae Rhan 6 y Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu o ran addysg wedi’i ddarparu gan ‘gyrff cyfrifol’ penodedig. Y rhain yw cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch.
- Fodd bynnag, mae rhai gweithgareddau a swyddogaethau gan y cyrff cyfrifol hyn y tu allan i gwmpas Rhan 6. Gallai’r gweithgareddau hyn, felly, ddod o dan ddarpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus Rhan 3 y Ddeddf fel yr eglura’r bennod hon. Gallai enghreifftiau gynnwys:
- gwasanaethau heb fod yn addysgol wedi eu darparu gan ysgolion i bobl heblaw disgyblion, fel darparu gwybodaeth i rieni
- gwasanaethau gan golegau neu brifysgolion i rai sydd ddim yn fyfyrwyr
- Fel rheol, os yw ysgol neu sefydliad addysg bellach neu uwch yn gwneud penderfyniad neu’n gwneud rhywbeth yn ymwneud â disgyblion neu fyfyrwyr, bydd yn dod o dan ddarpariaethau addysg Rhan 6. Os yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu neu’r gweithredu neu benderfyniad yn cael ei wneud gan awdurdod lleol neu awdurdod addysg y tu allan i’w capasiti fel ‘corff cyfrifol’, bydd yn wasanaeth neu swyddogaeth gyhoeddus.
- Mae Rhan 6 hefyd yn gwahardd gwahaniaethu gan gyrff cymwysterau cyffredinol a gydag agweddau penodol ar ddarparu cyfleusterau hamdden a hyfforddiant i blant a phobl ifanc gan awdurdodau lleol. Gallai darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus Rhan 3 fod yn berthnasol ond ni fyddai Rhan 6. Er enghraifft, byddai clybiau ieuenctid wedi eu rhedeg gan fudiadau gwirfoddol yn wasanaeth.
Rhyngweithio â’r darpariaethau adeiladau
- Mae Rhan 4 y Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu wrth werthu a rheoli adeiladau. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, rhai sy’n darparu adeiladau i’w rhentu ac sy’n rheoli eiddo rhent. Nid yw’r Cod yma’n delio â Rhan 4 y Ddeddf.
- Mae Rhannau 3 a 4 yn anghyson: os nad yw’r darpariaethau adeiladau’n berthnasol, bydd y darpariaethau gwasanaethau neu swyddogaethau cyhoeddus yn berthnasol. Mae’r Ddeddf yn nodi dwy sefyllfa sy’n disgyn y tu allan i Ran 4 a lle y byddai’r Cod hwn yn berthnasol:
- os yw’r ddarpariaeth fel arfer ar gyfer arosiadau byr gan unigolion sy’n byw yn rhywle arall, er enghraifft, gosod fflat wyliau (adran 32, paragraff 3(a))
- os yw llety’n cael ei ddarparu dim ond i’r pwrpas o ddarparu gwasanaeth neu ymarfer swyddogaeth gyhoeddus, er enghraifft, gwesty neu gell carchar (adran 32, paragraff 3(b))
- Fel arall, bydd unrhyw beth yn ymwneud â gwerthu neu reoli adeilad (oni bai ei fod yn cynnwys gwasanaeth fel hysbysebu eiddo) yn dod o dan y darpariaethau adeiladau, sydd y tu allan i gwmpas y Cod hwn.
Rhyngweithio â’r darpariaethau gwaith
- Mae Rhan 5 y Ddeddf yn ymwneud â gwaith. Os yw Rhan 5 yn berthnasol, ni fydd darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus Rhan 3 yn berthnasol.
- Fodd bynnag, os yw cyflogwr yn trefnu i berson arall ddarparu gwasanaeth i weithwyr y cyflogwr yn unig, bydd y gweithwyr hyn yn cael eu hystyried i fod yn rhan o’r cyhoedd (adran 31, paragraff 5). Felly os yw’r darparwr gwasanaeth yn gwahaniaethu yn erbyn aelodau o’r grŵp hwnnw, bydd y gwaharddiadau a ddisgrifir yn y bennod hon yn berthnasol. Ni fyddai’r cyflogwr yn cael ei ystyried yn ddarparwr gwasanaeth yn y sefyllfa hon. Yn hytrach, byddai eu hymddygiad o hwyluso’r gwasanaeth yn dod o dan ddarpariaethau Rhan 5 y Ddeddf fel yr eglurir yn ein Cod Ymarfer Cyflogaeth.
- Yr eithriad i hyn yw os byddai cyflogwr yn darparu gwasanaethau ariannol i’w weithwyr o ganlyniad i’w cyflogaeth (atodlen 3, paragraff 20) (dylid darllen Pennod 13).
Gwasanaethau trafnidiaeth
- Mae Rhan 3 y Ddeddf yn berthnasol i rai mathau o seilwaith trafnidiaeth (fel gorsafoedd a meysydd awyr), gwasanaethau (fel tocynnau trafnidiaeth) a cherbydau. Mae Rhan 12 y Ddeddf wedi’i diwygio gan Ddeddf Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Pobl Anabl) 2022, sy’n rhoi dyletswyddau penodol ar yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat. Fodd bynnag nid yw’r Cod yn delio â’r darpariaethau hyn.
Darparu nwyddau a gwasanaethau o bell
- Mae rhai nwyddau a gwasanaethau’n cael eu darparu o bell drwy wefannau neu apiau, er enghraifft, wrth ddarparu gwybodaeth, cynhyrchion neu adloniant i’r cyhoedd. Rhaid i ddarparwr gwasanaeth o bell gydymffurfio â rheolau arferol awdurdodaeth diriogaethol, felly bydd y Ddeddf yn berthnasol i ymddygiad ym Mhrydain (adran 29, paragraff 10).
- Fodd bynnag, mae’r Ddeddf yn darparu’n benodol o ran ei hyd a lled tiriogaethol ar gyfer mathau penodol o wasanaethau o bell gan ‘ddarparwyr gwasanaeth cymdeithas wybodaeth’ (ISSP) a sefydlir yn un o wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) neu ym Mhrydain (adran 206, atodlen 25, paragraff 1).
- ISSP (atodlen 25, paragraff 7(2)) yw unrhyw wasanaeth wedi’i ddarparu:
- am dâl fel arfer
- o bell
- drwy ddull electronig
- ar gais unigol derbynnydd gwasanaeth
Mae gwasanaeth wedi’i ddarparu ‘am dâl fel arfer’ yn golygu bod y gwasanaeth fel arfer, ond nid bob tro, am dâl.
Mae ‘o bell’ yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu heb i’r partïon fod yn bresennol ar yr un pryd.
Mae ‘drwy ddull electronig’ yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei anfon i ddechrau, a’i dderbyn yn y pen draw, drwy gyfarpar electronig ar gyfer prosesu (gan gynnwys cywasgu digidol) a storio data ac wedi’i drawsyrru, cyfleu a’i dderbyn yn llwyr drwy wifren, radio, dull optegol neu ddull electromagnetig arall.
Mae ‘ar gais unigol derbynnydd gwasanaeth’ yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy drawsyrru data ar gais unigolyn, hynny yw, mae’r gwasanaeth yn cael ei ofyn amdano’n hytrach na’n cael ei dderbyn yn ddigymell.
- Gallai enghreifftiau o ISSP gynnwys gwasanaethau fel:
- gwasanaeth e-bost
- llwyfan electronig sy’n gwerthu pethau ar-lein i bobl sy’n chwilio am yr eitemau hynny
- papur newydd sy’n cael ei ddarparu ar-lein
- Os yw ISSP yn cael ei sefydlu ym Mhrydain, bydd Rhan 3 y Ddeddf yn berthnasol i ddarparu’r gwasanaeth cymdeithas wybodaeth. Mae’n golygu felly bod yn rhaid i’r ISSP lynu wrth ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n berthnasol i ddarparwyr gwasanaeth, fel yr eglura’r bennod hon.
- Os yw’r ISSP wedi’i sefydlu yn un o wledydd yr EEA, nid yw’r Ddeddf yn berthnasol i unrhyw beth a wneir wrth ddarparu gwasanaeth cymdeithas wybodaeth, hyd yn oed os yw’n digwydd ym Mhrydain (adran 206 ac atodlen 25, paragraff 2). Ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, gallai’r rheolau hyn ar gyfer darparwyr ISSP newid ymhellach a dylai darparwyr gwasanaeth adolygu eu sefyllfa’n rheolaidd.
- Mae Pennod 13 yn disgrifio eithriadau i’r Ddeddf ar gyfer darparwyr ISSP sy’n cael eu rheoleiddio gan y Ddeddf a dim ond yn ‘gyfryngau’, neu sy’n darparu ‘celcio’ neu ‘we-letya’.
Eithriadau i’r darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus
- Mae nifer o eithriadau sy’n berthnasol i ddarpariaethau gwasanaethau a / neu swyddogaethau cyhoeddus y Ddeddf, er enghraifft, gwasanaethau un-rhyw. Eglurir y rhain ym Mhennod 13.
Arfer da ar osgoi gwahaniaethu a darparu gwasanaethau ac ymarfer swyddogaethau cyhoeddus yn well
Gweithredu cadarnhaol
- Mae’r Ddeddf yn caniatáu i rywun sy’n darparu gwasanaeth ac ymarfer swyddogaeth gyhoeddus gymryd mesurau gweithredu cadarnhaol i oresgyn anfantais, ateb gwahanol anghenion neu gynyddu cyfranogiad pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir. Mae Pennod 10 yn manylu mwy ar y darpariaethau hyn.
Trin pobl anabl yn fwy ffafriol
- Nid yw’r Ddeddf yn gwahardd trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson heb fod yn anabl yng nghyswllt gwahaniaethu uniongyrchol (adran 13, paragraff 3). Mae’r eithriad yma ar gael i bobl anabl yn unig. Felly nid yw rhai sy’n darparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus neu gymdeithas yn gwahaniaethu’n uniongyrchol drwy drin person anabl yn fwy ffafriol na rhywun heb anabledd.
Lawrlwythiadau dogfen
PDF, 1.69 MB, 342 pages
Footnotes
- Footnote 1
RBS Group plc v Allen [2009] EWCA Sifil 1213
- Footnote 2
MM v Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau [2013] EWCA Sifil 1565
Diweddariadau tudalennau
Cyhoeddwyd
5 Awst 2026
Diweddarwyd diwethaf
5 Awst 2026