Arweiniad

Cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau: Pennod 2 – Pwy sydd â hawliau o dan Ran 3 (gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus) a Rhan 7 (cymdeithasau) y Ddeddf?

Wedi ei gyhoeddi: 5 Awst 2026

Diweddarwyd diwethaf: 5 Awst 2026

I ba wledydd mae hyn yn berthnasol?

  • England Lloegr
  • Scotland Alban
  • Wales Cymru

Rhagarweiniad

  1. Fel y mae Pennod 1 yn ei egluro, defnyddir y term ‘gwahaniaethu’ i gyfeirio at wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol a, lle bo’n berthnasol, gwahaniaethu ar sail anabledd, methu â gwneud addasiadau rhesymol, a gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.
  2. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn gwarchod pobl rhag gwahaniaethu a aflonyddu ar sail nodweddion a warchodir.
  3. Y nodweddion a warchodir sy’n dod o dan y cod ymarfer hwn (y Cod) yw:
  • oed
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • tueddiad rhywiol

Mae’r Ddeddf yn eu rhestru yn nhrefn yr Wyddor ac mae’r Cod hwn yn defnyddio’r un drefn (adran 4).

  1. Fel yr eglurir ym Mhennod 1, nid yw’r Cod yn berthnasol i’r nodwedd a warchodir o briodas a phartneriaeth sifil (paragraff 1.14).
  2. Mae’r Ddeddf hefyd yn gwarchod pobl rhag fictimeiddio os ydynt wedi cyflawni gweithred a warchodir (paragraffau 9.5 i 9.11). Mae’r warchodaeth yma’n berthnasol pa bynnag nodwedd a warchodir sydd ganddynt. Dylid darllen Pennod 9 am fwy o wybodaeth am fictimeiddio a gweithredoedd a warchodir.

Oed

Beth y mae’r Ddeddf yn ei ddweud

  1. Mae’r Ddeddf yn diffinio oed yn ôl grŵp oed person. Mae grŵp oed yn cynnwys pobl o’r un oed neu bobl o fewn ystod benodol o oedrannau (adran 5).
  2. Mae’r Ddeddf yn diffinio oed yn ôl grŵp oed person. Mae grŵp oed yn cynnwys pobl o’r un oed neu bobl o fewn ystod benodol o oedrannau (adran 5).
  3. Gall grwpiau oed fod yn fawr, er enghraifft, ‘pobl dan 50’ a ‘pobl 50+ oed’. Gall grŵp oed hefyd fod yn fach, er enghraifft, ‘pobl 50 oed’, ‘pobl yng nghanol eu 40au’ neu ‘pobl a anwyd yn 1952’. Gall grŵp oed hefyd fod yn gymharol, er enghraifft, ‘iau na A’ neu ‘hŷn nag aelodau eraill y clwb’.
  4. Gellir hefyd adnabod grwpiau oed yn anuniongyrchol. Gall hyn fod drwy ddefnyddio termau cysylltiedig ag oed fel ‘ifanc’, er y gall yr ystyr fod yn wahanol yn ôl y cyd-destun, er enghraifft, ‘athletwr ifanc’ o’i gymharu â ‘phensiynwr ifanc’. Ffordd arall o adnabod grwpiau oed yn anuniongyrchol yw drwy gyfeirio at edrychiad corfforol gwirioneddol neu dybiedig neu nodweddion eraill grwpiau oed penodol, er enghraifft, ‘gwallt gwyn’, ‘nain’ neu ‘taid’.
  5. Mae peth hyblygrwydd yn y diffiniad o grŵp oed person a gellir disgrifio pawb fel bod yn perthyn i nifer o wahanol grwpiau oed. O ran rhannu’r un nodwedd a warchodir o oed, bydd y grŵp oed perthnasol yn dibynnu ar y cyd-destun.

Enghreifftiau:

  1. Gallai merch 25 oed gael ei hystyried i fod yn rhannu’r un nodwedd a warchodir o oed gyda phobl mewn nifer o wahanol grwpiau oed, gan gynnwys ‘pobl 25 oed’, ‘pobl dan 30’, ‘pobl dros 20’ ac ‘oedolion ifanc’.  Gellid dweud bod dyn 86 oed yn rhannu’r un nodwedd a warchodir o oed gyda phobl yn y grwpiau oed canlynol: ‘pobl 86 oed’, ‘pobl dros 80’, ‘pobl dros 65’, ‘pensiynwyr’, ‘dinasyddion hŷn’, ‘pobl hŷn’ a ‘pobl yn eu blynyddoedd hŷn’.
  1. Gallai grŵp oed gael ei adnabod gan ffactorau allanol sy’n berthnasol ond i bobl o grŵp oed penodol, er enghraifft, bydd ‘pobl a anwyd ar ôl dechrau COVID-19’ fel arfer yn golygu unrhyw un a anwyd ar ôl Rhagfyr 2019.
  2. Lle bo angen cymharu sefyllfa person sy’n perthyn i grŵp oed penodol â phobl eraill, nid yw’r Ddeddf yn nodi gyda pha grŵp oed y dylid gwneud y gymhariaeth hon. Gallai fod yn bawb y tu allan i grŵp oed y person, ond, yn aml iawn, bydd y dewis o grŵp oed cymharol yn fwy penodol. Yn aml iawn bydd yn dibynnu ar gyd-destun ac amgylchiadau.

Enghraifft:

  1. Gallai dyn 86 oed gymharu ei hun i ‘rai 85 oed ac iau’, ‘rhai dan 86’, ‘rhai dan 80’, pobl ddim ar eu pensiwn, neu bobl iau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
  1. Mae Pennod 4 yn rhoi mwy o fanylion am sut i adnabod cymharydd mewn achosion o wahaniaethu uniongyrchol.
  2. Gallai fod gan gyfran helaeth o bobl mewn grwpiau oed hŷn un neu fwy o gyflyrau iechyd. Os yw eu cyflwr iechyd yn cwrdd â’r diffiniad o anabledd (paragraffau 2.19 i 2.35), bydd darpariaethau anabledd y Ddeddf hefyd yn rhoi gwarchodaeth iddynt.
  3. Nid yw pobl dan 18 oed wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail oed a aflonyddu’n ymwneud ag oed gan ddarparwyr gwasanaeth a rhai sy’n ymarfer swyddogaethau cyhoeddus (adran 28, paragraff 1(a)). Gallai fod angen i gyrff yng Nghymru a’r Alban ystyried rhwymedigaethau eraill wedi eu mewnforio gan ddeddfwriaeth arall gwlad-benodol.Footnote 1
  4. Mae pob grŵp oed, gan gynnwys rhai dan 18 oed, wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail oed a aflonyddu cysylltiedig ag oed gan gymdeithas.

Anabledd

Beth y mae’r Ddeddf yn ei ddweud

  1. Dim ond person sy’n cwrdd â diffiniad y Ddeddf o anabledd sydd â’r nodwedd a warchodir o anabledd (adran 6). Pan fo’r Ddeddf yn cyfeirio at bobl sy’n rhannu’r nodwedd a warchodir o anabledd, mae’n golygu eu bod yn rhannu’r un anabledd (adran 6, paragraff 3).
  2. Yn ôl y Ddeddf, mae gan berson anabledd os oes ganddynt nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol a thymor hir ar gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol (adran 6, paragraff 1). Mae’r Cod yn defnyddio’r term ‘nam’ i ddisgrifio anableddau oherwydd dyma’r iaith a ddefnyddir yn y Ddeddf. Mae nam corfforol neu feddyliol yn cynnwys namau synhwyraidd fel rhai sy’n effeithio ar olwg neu glyw. Wrth ystyried a oes gan unigolyn nam o’r fath, dylai’r ffocws fod ar y pethau na fedrant eu gwneud, neu’n gallu eu gwneud ond gyda thrafferth, yn hytrach nag ar y pethau y maen nhw’n gallu eu gwneud.Footnote 2 Mae’n anghywir pwyso a mesur beth y gall person ei wneud yn erbyn beth na fedrant ei wneud.Footnote 3
  3. Mae ‘tymor hir’ yn golygu bod y nam wedi para, neu’n debygol o bara, am 12 mis o leiaf neu am weddill oes y person sy’n cael eu heffeithio (atodlen 1, paragraff 2(1)). Dylid asesu p’un ai yw nam yn debygol o bara am 12 mis o leiaf neu beidio drwy edrych ar y ffeithiau a’r amgylchiadau ar ddyddiad y weithred wahaniaethu honedig.Footnote 4
  4. Mae nam sy’n cynnwys anffurfiad difrifol yn cael ei drin fel un sy’n cael effaith niweidiol sylweddol ar allu’r person i gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol.
  5. Mae sylweddol yn golygu mwy na mân effaith neu effaith ddibwys (adran 212, paragraff 1). Os nad yw effaith niweidiol nam yn fân neu’n ddibwys, rhaid ei thrin fel sylweddol.Footnote 5
  6. Mae rhai anableddau neu namau sydd ddim yn amlwg yn syth, fel cyflyrau iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Maen nhw hefyd yn cynnwys namau corfforol fel diabetes ac epilepsi. Cyfeirir at y rhain fel anableddau neu namau ‘cudd’ neu ‘anweledig’. Bydd pobl gyda namau cudd yn cael eu gwarchod os ydynt yn cwrdd â’r diffiniad yn y Ddeddf.

Enghraifft:

  1. Mae merch yn cael symptomau’r menopos. Mae’n cael fflachiadau poeth, methu cysgu, blinder, gorbryderu a phroblemau cofio a chanolbwyntio. O ganlyniad nid yw’n gallu ymarfer yn y ffordd y gallai o’r blaen. Mae’n darllen ac ysgrifennu’n fwy ara’ deg, yn colli ffocws wrth wneud tasgau a sgwrsio â phobl ac yn cael trafferth cofio pethau fel plât cofrestru ei char. Os yw ei symptomau wedi para, neu’n debygol o bara am 12 mis o leiaf, neu am weddill ei bywyd, gallai ei chyflwr gwrdd â’r diffiniad yn y Ddeddf.
  1. Os yw nam yn debygol o gael effaith niweidiol sylweddol ar gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol, oni bai am fesurau i’w drin neu gywiro, dylid ei drin fel pe bai’n cael yr effaith yma (atodlen 1, paragraff 5). Nid yw hyn yn cynnwys gwisgo sbectol neu lensys llygaid.

Enghraifft:

  1. Mae dyn yn dioddef o orbryderu ac iselder sy’n gyfystyr ag anabledd o dan y Ddeddf. Mae tabledi gwrth-iselder a chwnsela’n cael eu rhagnodi iddo, sy’n helpu ei symptomau. Heb y feddyginiaeth a’r cwnsela, byddai ei orbryderu a’i iselder yn dod yn ôl. Byddai ei orbryderu a’i iselder dal yn cael eu trin fel bod yn cael effaith niweidiol sylweddol ar gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol oherwydd y byddent yn debygol o gael yr effaith yma heb barhau i dderbyn triniaeth.
  1. Os yw nam yn cael effaith niweidiol sylweddol ar gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol, gall er hynny gwrdd â’r diffiniad yn y Ddeddf, hyd yn oed os oes gan y person strategaeth ymdopi sy’n cynnwys osgoi, addasu neu newid y weithgaredd.Footnote 6 Gall strategaeth ymdopi fethu mewn rhai amgylchiadau, os yw’r person dan straen er enghraifft. Mae hyn yn berthnasol wrth ystyried effeithiau’r nam.Footnote 7
  2. Ystyrir bod canser, haint HIV a sglerosis ymledol yn anableddau o dan y Ddeddf o bwynt y diagnosis (atodlen 1, paragraff 6). Mewn rhai amgylchiadau, mae pobl gyda nam ‘ysgafn’ yn cael eu trin yn awtomatig o dan y Ddeddf fel bod yn anabl (Rheoliadau 2010/2018 (Anabledd) Deddf Cydraddoldeb 2010. Rheoliad 7).
  3. Bydd cyflyrau gwaethygol a rhai sy’n cael effeithiau mynd a dod a mynych yn gyfystyr ag anableddau mewn rhai amgylchiadau, hyd yn oed os nad yw’r nam ar hyn o bryd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol (atodlen 1, paragraffau 2(2) ac 8).

Enghraifft:

  1. Mae dyn yn cael symptomau mynd a dod o syndrom blinder cronig (ME/CFS). Rhai diwrnodau mae’n cael hyrddiau o egni i wneud amrywiol weithgareddau. Ar ddiwrnodau eraill, pan fydd wedi blino’n eithafol ac yn methu symud, ni all fynd allan o’r tŷ o gwbl ac mae’n cael trafferth gyda thasgau fel coginio a smwddio. Byddai ei ME/CFS dal yn cael ei drin fel pe bai’n cael effaith niweidiol sylweddol ar gyflawni ei weithgareddau dydd i ddydd arferol er bod yr effeithiau’n mynd a dod o ddydd i ddydd.
  1. Nid yw rhai cyflyrau’n cael eu hystyried i fod yn anableddau o dan y Ddeddf (Rheoliadau 2010/2018 (Anabledd) Deddf Cydraddoldeb. Rheoliadau 3 a 4). Y rhain yw:
  • bod yn gaeth i, neu’n ddibynnol ar alcohol, nicotin neu unrhyw sylwedd arall, heblaw lle y mae’r caethiwed yn dilyn presgripsiwn neu driniaeth feddygol
  • rhinitis alergaidd tymhorol fel clefyd y gwair, heblaw lle y mae’n gwaethygu cyflwr arall
  • tueddiad i gynnau tanau bwriadol, dwyn neu gam-drin person arall yn gorfforol neu’n rhywiol
  • gorchest ormodol
  • voyeuriaeth
  1. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd gan berson nodwedd a warchodir o anabledd os oedd ganddynt anabledd yn y gorffennol, hyd yn oed os nad yw’r anabledd ganddynt mwyach, heblaw yng nghyswllt Rhan 12 (trafnidiaeth) ac adran 190 (gwelliannau i dai gosod) (adran 6, paragraff 4).
  2. Mae pobl nad ydynt yn anabl wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd dim ond os ystyrir bod ganddynt anabledd neu drwy gysylltiad â pherson anabl (paragraffau 4.48 i 4.53). Mewn rhai amgylchiadau, gallai person nad yw’n anabl fod wedi eu gwarchod os ydynt yn profi aflonyddu (Pennod 8) neu weithred anghyfreithlon arall fel fictimeiddio (Pennod 9).
  3. Am ddealltwriaeth fwy manwl o’r cysyniad o anabledd o dan y Ddeddf, dylid cyfeirio at yr Atodiad i’r Cod hwn.

Ailbennu rhywedd

  1. Mae’r Ddeddf yn diffinio ailbennu rhywedd fel nodwedd a warchodir (adran 7, paragraff 1). Mae gan bobl sy’n bwriadu mynd, neu yn mynd, neu wedi mynd drwy broses (neu ran o broses) i ailbennu eu rhywedd drwy newid nodweddion ffisiolegol neu nodweddion rhyw eraill, y nodwedd a warchodir o ailbennu rhywedd.
  2. I bwrpas y Cod ymarfer hwn, mae cyfeiriad at berson traws yn gyfeiriad at berson sydd â’r nodwedd a warchodir o ailbennu rhywedd (adran 7, paragraff 2).
  3. Mae’r Ddeddf yn defnyddio’r term ‘trawsrywiol’ am unigolion sydd â’r nodwedd a warchodir o ailbennu rhywedd. Rydym yn cydnabod bod rhai pobl yn ystyried bod y term wedi dyddio felly defnyddiwn y term ‘traws’ i gyfeirio at berson sydd â’r nodwedd a warchodir o ailbennu rhywedd. Mae hyn ond yn cyfeirio at bobl sy’n cwrdd â’r diffiniad o ailbennu rhywedd yn y Ddeddf. Nid yw’n cynnwys pobl a allai adnabod fel traws neu drawsrywiol ond sydd y tu allan i’r diffiniad hwn.
  4. Mae person traws wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu a aflonyddu ar sail ailbennu rhywedd ar unrhyw bwynt yn y broses drawsnewid, hyd yn oed os ydynt ond newydd ddechrau ond heb gwblhau un o’r camau. Mae hyn yn cynnwys y camau o fwriadu ailbennu rhywedd, mynd drwy’r broses o ailbennu, i gwblhau’r broses. Nid oes angen i berson traws fod yn bwriadu derbyn, neu yn derbyn, neu wedi derbyn triniaeth feddygol neu lawdriniaeth i fod wedi eu gwarchod. Nid oes ots ychwaith ydy person traws wedi gwneud cais am, neu wedi derbyn, Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC).
  5. Mae’r Ddeddf yn gwarchod pobl rhag fictimeiddio os ydynt wedi cyflawni gweithred a warchodir. Mae’r warchodaeth yma’n berthnasol pa bynnag nodwedd a warchodir sydd ganddynt. 

Enghraifft:

  1. Mae gan berson a gofrestrwyd yn fenywaidd ar eu genedigaeth, ac a benderfynodd dreulio gweddill ei fywyd fel dyn, y nodwedd a warchodir o ailbennu rhywedd.

Enghraifft:

  1. Mae gan berson a gofrestrwyd yn wrywaidd ar eu genedigaeth ac sydd wedi bod yn byw fel merch ers tro ac wedi cael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd, y nodwedd a warchodir o ailbennu rhywedd.
  1. Nid oes isafswm oed ar gyfer y nodwedd a warchodir o ailbennu rhywedd, sy’n golygu bod plant a phobl ifanc wedi eu gwarchod os ydynt yn bwriadu mynd, yn mynd, neu wedi mynd drwy broses o ailbennu rhywedd.
  2. Bydd pobl sy’n adnabod yn anneuaidd neu’n rhywedd-hyblyg ond wedi eu gwarchod os ydynt yn cwrdd â’r diffiniad o ailbennu rhywedd yn y Ddeddf. Gallent hefyd fod wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail canfyddiad (paragraffau 4.51 i 4.53).

Enghraifft:

  1. Mae person yn rhoi gwybod i’w meddygfa eu bod yn ‘rhywedd-hyblyg’ ar ganol proses o ailbennu rhywedd, a rhai diwrnodau’n cyflwyno fel merch / menyw ac fel dyn ar ddiwrnodau eraill. Mae’r derbynnydd yn y feddygfa’n dechrau trin yr unigolyn yn annifyr, er enghraifft, drwy wneud sylwadau’n cyfeirio at yr unigolyn fel ‘it’ (yn Saesneg). Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu ailbennu rhywedd uniongyrchol. Mae’r person yn debygol o fod wedi eu gwarchod oherwydd eu bod yn adnabod fel bod yn ‘rhywedd-hyblyg’ fel rhan o broses o ailbennu eu rhyw.
  1. Bydd person sy’n gwisgo a chyflwyno mewn ffyrdd sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r rhyw arall wedi eu gwarchod os ydynt yn gwneud hynny fel rhan o broses o ailbennu eu rhyw. Nid yw’r Ddeddf yn diffinio beth y mae ailbennu rhyw yn ei olygu. Nid oes raid iddo fod yn broses feddygol – er y bydd rhai pobl yn cymryd camau meddygol neu lawfeddygol – ond mae’n debygol o gynnwys o leiaf rhai newidiadau mwy parhaol fel newid rhagenw a gwisgo a chyflwyno’n gyson fel rhywun o’r rhyw arall. Nid oes gan berson nad yw’n cydymffurfio o ran eu rhywedd am reswm arall y nodwedd a warchodir o ailbennu rhywedd. Fodd bynnag, gallent fod wedi eu gwarchod rhag aflonyddu a gwahaniaethu ar sail canfyddiad (paragraffau 4.51 i 4.53).

Enghraifft:

  1. Mae clwb nos gyda chod gwisg yn gwrthod mynediad i grŵp o ddynion sydd wedi gwisgo mewn dillad merched ar gyfer parti stag. Mae hyn yn annhebygol o fod yn wahaniaethu ar sail y nodwedd a warchodir o ailbennu rhywedd.
  1. Os oes gan unigolyn ddysfforia rhywedd ac mae’r cyflwr yn cael effaith niweidiol sylweddol a thymor hir ar gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol, bydd y person yma hefyd wedi eu gwarchod o dan ddarpariaethau gwahaniaethu ar sail anabledd y Ddeddf (Pennod 6 a Pennod 7).

Tystysgrifau Cydnabod Rhywedd (GRC)

  1. Mae’r Goruchaf Lys yn yr achos For Women Scotland Ltd v Gweinidogion yr Alban (For Women Scotland Ltd) [2025] UKSC 16 wedi dyfarnu nad yw GRC yn newid rhyw cyfreithiol person i bwrpas Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn ôl y dyfarniad, mae ‘rhyw’, ‘merch’ a ‘dyn’ yn golygu, yn yr un drefn, rhyw biolegol, merch fiolegol a dyn biolegol i bwrpas y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae’r dyfarniad yn defnyddio’r term ‘rhyw biolegol’ i ddisgrifio rhyw person ar eu genedigaeth. Mae’r term ‘rhyw biolegol’ yn golygu’r un peth o’i ddefnyddio drwy gydol y Cod hwn.   
  2. Mae hyn yn golygu, o ran y Ddeddf, bod rhyw biolegol person yn aros yr un fath p’un ai y cawsant GRC neu beidio. Er enghraifft, mae dyn traws gyda GRC yn ferch a merch draws gyda GRC yn ddyn, i bwrpas y Ddeddf hon.  
  3. Mae’r Cod hwn yn ymwneud â chymhwyso Deddf Cydraddoldeb 2010 yn unig. Nid yw’n delio â goblygiadau’r achos For Women Scotland ar gyfer cymhwyso adran 9 Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 i unrhyw ddeddfwriaeth arall.
  4. Bydd person traws wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd p’un ai oes ganddynt GRC neu beidio.
  5. Bydd person traws hefyd wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail rhyw p’un ai oes ganddynt GRC neu beidio. Byddant wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail rhyw sy’n seiliedig ar eu rhyw ar enedigaeth. Byddant hefyd wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail rhyw’n ymwneud â’u rhywedd dewisol os ydynt yn dioddef:
  • gwahaniaethu uniongyrchol drwy gysylltiad neu os yw’n digwydd oherwydd canfyddiad o’u rhyw yn eu rhywedd dewisol (eglurir mwy am wahaniaethu drwy ganfyddiad ym mharagraffau 4.51 i 4.53)
  • gwahaniaethu anuniongyrchol drwy gysylltiad (adran 19A) y Ddeddf (eglurir mwy am wahaniaethu anuniongyrchol drwy gysylltiad ym mharagraffau 5.58 i 5.62)
  • aflonyddu’n ymwneud â rhyw (adran 26) (eglurir mwy am aflonyddu’n ymwneud â rhyw ym mharagraffau 8.23 - 8.34) 

Beichiogrwydd a mamolaeth

Beth y mae’r Ddeddf yn ei ddweud

  1. Mae’r Ddeddf yn rhestru beichiogrwydd a mamolaeth fel nodwedd a warchodir (adran 4). Ystyrir gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth ym mharagraffau 4.54 i 4.72.

Hil

Beth y mae’r Ddeddf yn ei ddweud

  1. Mae diffiniad y Ddeddf o ‘hil’ yn cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol (adran 9, paragraff 1).
  2. Mae gan berson y nodwedd a warchodir o hil os ydynt yn rhan o grŵp hil penodol (adran 9, paragraff 2). Gall grŵp hil hefyd gynnwys dau neu fwy o grwpiau hil gwahanol. Am ystyr ‘grŵp hil’ dylid darllen paragraffau 2.66 i 2.69.

Cenedligrwydd

  1. Cenedligrwydd (neu ddinasyddiaeth) yw’r berthynas gyfreithiol benodol rhwng person a gwladwriaeth drwy enedigaeth neu ddinasyddio (adran 9, paragraff 1(b)). Mae’n wahanol i darddiad cenedlaethol (paragraff 2.63 i 2.65).

Tarddiad ethnig

  1. Mae gan bawb darddiad ethnig ond dim ond lle bo person yn perthyn i ‘grŵp ethnig’ yn ôl diffiniad y llysoedd (adran 9, paragraff (1)(c)) y mae darpariaethau’r Ddeddf yn berthnasol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r person berthyn i grŵp ethnig sy’n ystyried ei hun, ac yn cael ei ystyried gan eraill, i fod yn gymuned wahanol ar wahân oherwydd rhai nodweddion. Mae’r nodweddion hyn fel arfer yn gwahaniaethu’r grŵp oddi wrth y gymuned o’i gwmpas.
  2. Mae’r llysoedd wedi sefydlu bod yn rhaid i grŵp ethnig fod â dwy nodwedd hanfodol: hanes cyffredin hir a thraddodiad diwylliannol ei hun.Footnote 8 Hefyd, gallai fod gan grŵp ethnig un neu fwy o’r nodweddion canlynol:
  • iaith gyffredin
  • llenyddiaeth gyffredin
  • crefydd gyffredin
  • tarddiad daearyddol cyffredin
  • bod yn grŵp lleiafrifol neu dan orthrwm
  1. Gallai grŵp ethnig neu grŵp cenedlaethol gynnwys aelodau newydd i’r grŵp, er enghraifft, person sy’n priodi mewn i’r grŵp. Mae hefyd yn bosib i berson adael grŵp ethnig.
  2. Barnodd y llysoedd bod y canlynol yn grwpiau ethnig a warchodir:
  • Pobl Sikh
  • Iddewon
  • Sipsiwn Romani a Roma Ewropeaidd
  • Teithwyr Gwyddelig
  • Sipsiwn / Teithwyr yr Alban

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o’r grwpiau ethnig sy’n debygol o fod wedi eu gwarchod.

  1. Mae’r llysoedd hefyd wedi cadarnhau bod ‘tarddiad ethnig’ yn derm eang a hyblyg a allai gynnwys caste neu ddosbarth person.Footnote 9

Mae caste yn fath o hunaniaeth a ddefnyddir yn sail ar gyfer gwahaniaethu cymdeithasol. Fel arfer mae’n cael ei ystyried i fod wedi’i roi drwy enedigaeth a’i gynnal gan endogami (priodi wedi’i gyfyngu i unigolion o’r un caste).

Tarddiad cenedlaethol

  1. Rhaid i darddiad cenedlaethol fod ag elfennau, hanesyddol a daearyddol, y gellir eu hadnabod ac sydd o leiaf ar ryw bwynt mewn amser yn nodi bod cenedl yn neu wedi bodoli (adran 9, paragraff (1)(c)). Er enghraifft, oherwydd nad oedd Cymru, Lloegr na’r Alban yn rhan o Brydain Fawr neu’r Deyrnas Unedig ar un adeg, mae gan y Cymry, yr Albanwyr a’r Saeson darddiad cenedlaethol gwahanol. Gall tarddiad cenedlaethol gynnwys tarddiad mewn cenedl a beidiodd â bod (er enghraifft, Tsiecoslofacia) neu mewn ‘cenedl’ nad oedd erioed yn genedl-wladwriaeth yn yr ystyr modern.
  2. Mae tarddiad cenedlaethol yn wahanol i genedligrwydd. Er enghraifft, gall pobl o darddiad cenedlaethol Tsieineaidd fod yn ddinasyddion Tsieina, ond mae llawer yn ddinasyddion gwledydd eraill.
  3. Nid yw tarddiad cenedlaethol person yn rhywbeth y gellir ei newid, er y gall tarddiad cenedlaethol newid o un genhedlaeth i’r llall.

Ystyr ‘grŵp hil’

  1. Grŵp hil yw grŵp o bobl sydd gyda neu’n rhannu lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol (adran 9, paragraff 3). Er enghraifft, gallai grŵp hil fod yn bobl ‘Brydeinig’. Gwarchodir pob grŵp hil rhag gwahaniaethu a aflonyddu anghyfreithlon o dan y Ddeddf.
  2. Gallai person fod yn perthyn i fwy nag un grŵp hil. Er enghraifft, gellid diffinio person ‘Nigeraidd’ yn ôl lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol.
  3. Gall grŵp hil gynnwys dau neu fwy o grwpiau hil gwahanol (adran 9, paragraff 4). Er enghraifft, gallai grŵp hil fod yn ‘Brydeinwyr du’, a fyddai’n cynnwys pobl sy’n ddu a hefyd yn ddinasyddion Prydeinig. Gallai grŵp hil arall fod yn ‘De Asiaidd’ a allai gynnwys Indiaid, Pacistaniaid, Bangladeshiaid a Sri Lanciaid.
  4. Gellir hefyd diffinio grwpiau hil drwy allgáu. Er enghraifft, mae’r llysoedd wedi derbyn bod ‘gwladolion di-DU’ yn cynnwys dosbarth o bobl sy’n rhannu nodwedd hil.

Crefydd neu gred

Beth y mae’r Ddeddf yn ei ddweud

  1. Mae’r nodwedd a warchodir o grefydd neu gred yn cynnwys unrhyw grefydd ac unrhyw gred grefyddol neu athronyddol. Mae hefyd yn cynnwys diffyg crefydd neu gred o’r fath (adran 10, paragraffau 1 a 2).
  2. Er enghraifft, mae Cristnogion wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu oherwydd eu Cristnogaeth, ac Anghristnogion wedi eu gwarchod rhag gwahaniaethu oherwydd nad ydynt yn Gristnogion, pa bynnag grefydd neu gred arall sydd ganddynt neu ddiffyg un.
  3. Mae ystyr crefydd a chred yn y Ddeddf yn eang ac yn gyson ag Erthygl 9 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (sy’n gwarantu rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd).

Ystyr crefydd

  1. Mae ‘crefydd’ yn golygu unrhyw grefydd gan gynnwys dim crefydd (adran 10, paragraff 1). Mae’r term ‘crefydd’ yn cynnwys y crefyddau sydd fwyaf cydnabyddedig yn y DU fel ffydd Baha’i, Bwdhaeth, Cristnogaeth, Hindŵaeth, Islam, Jainaeth, Iddewaeth, Rastaffariaeth, Sikhaeth a Soroastriaeth. Mater i’r llysoedd yw penderfynu beth yw crefydd.
  2. Nid oes angen i grefydd fod yn brif ffrwd na’n adnabyddus i gael ei gwarchod fel crefydd. Fodd bynnag rhaid bod ganddi strwythur a system gred glir. Gellid ystyried bod enwadau neu sectau mewn crefyddau, fel Methodistiaid mewn Cristnogaeth neu bobl Swni mewn Islam, yn grefydd i bwrpas y Ddeddf.

Ystyr cred

  1. Mae cred yn golygu unrhyw gred grefyddol neu athronyddol gan gynnwys dim cred (adran 10, paragraff 2).
  2. Mae ‘cred grefyddol’ yn fwy na chredoau am, a glynu wrth, grefydd neu ei daliadau ffydd canolog a gall amrywio o berson i berson o fewn yr un grefydd.
  3. Gall cred sydd ddim yn gred grefyddol fod yn gred athronyddol. Mae enghreifftiau o gredoau athronyddol yn cynnwys Dyneiddiaeth, Anffyddiaeth a Figaniaeth Foesegol.
  4. Nid oes raid i gred gynnwys ffydd nac addoli Duw neu Dduwiau ond rhaid iddi effeithio ar sut y mae person yn byw eu bywyd neu’n gweld y byd.
  5. Er mwyn i gred athronyddol gael ei gwarchod o dan y Ddeddf:
  • rhaid dal y gred yn ddiffuant
  • rhaid iddi fod yn gred nid yn farn na’n safbwynt ar sail y wybodaeth gyfredol sydd ar gael
  • rhaid iddi fod yn gred o ran agwedd sylweddol a phwysig ar fywyd ac ymddygiad dynol
  • rhaid iddi gyrraedd lefel arbennig o argyhoeddiad, difrifoldeb, undod a phwysigrwydd
  • rhaid iddi haeddu parch mewn cymdeithas ddemocrataidd, ni ddylai fod yn anghydnaws ag urddas dynol a pheidio â gwrthdaro â hawliau sylfaenol eraill
  1. Mae’r trothwy i gred gael ei hystyried i fod yn haeddu parch mewn cymdeithas ddemocrataidd yn gymharol isel. Byddai’r gred ond yn peidio â chael ei gwarchod o dan y Ddeddf pe bai’n mynd yn ddifrifol groes i hawliau eraill, ac yn gyfystyr â dinistrio’r hawliau hynny.Footnote 10

Enghraifft:

  1. Mae person yn credu mewn athroniaeth bod gan grŵp hil penodol uchafiaeth hil. Mae’n gred y maen nhw’n gwneud penderfyniadau pwysig eu bywyd ar ei sail. Nid yw hyn yn gydnaws ag urddas dynol ac mae’n gwrthdaro â hawliau sylfaenol eraill. Ni fyddai felly’n cael ei hystyried yn ‘gred’ i bwrpas y Ddeddf.

Cyfleu crefydd neu gredoau

  1. Mae’r nodwedd a warchodir o grefydd neu gred yn cynnwys gwarchodaeth ar gyfer cyfleu crefydd neu gred. Mae’r warchodaeth yma’n gyson ag Erthygl 9 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy’n gwarantu rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd.
  2. Gallai cyfleu crefydd neu gred gynnwys:
  • trin rhai diwrnodau fel diwrnodau addoli neu orffwys
  • dilyn cod gwisg penodol
  • dilyn diet penodol
  • mynegi barn grefyddol neu athronyddol ar-lein
  • ymarfer neu osgoi rhai arferion
  1. Nid oes raid i berson brofi bod cyfleu eu crefydd neu gred yn elfen graidd o’r grefydd neu gred athronyddol y maen nhw’n ei dilyn. Gallai’r cyfleu fod yn y ffordd y maen nhw’n dewis mynegi eu hymlyniad wrth eu cred grefyddol. Fodd bynnag, rhaid bod cysylltiad uniongyrchol a digon agos rhwng y cyfleu a’r gred sylfaenol.Footnote 11
  2. Gallai cyfyngu ar hawl person i gyfleu eu crefydd neu gred fod yn gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon. Dylid darllen paragraff 4.91 am fwy o fanylion. 

Enghraifft:

  1. Mae gemydd yn gwrthod gadael i unrhyw un gyda gorchudd dros eu hwyneb i mewn i’w siop. Byddai hyn yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn merched Mwslemaidd sy’n gwisgo’r burqa, oni bai y gellir cyfiawnhau’r polisi’n wrthrychol.

Rhyw

Beth y mae’r Ddeddf yn ei ddweud

  1. Mae rhyw’n nodwedd a warchodir ac yn cyfeirio at rywun gwrywaidd neu fenywaidd o unrhyw oed. O ran grŵp o bobl, mae’n cyfeirio naill ai at ddynion a / neu fechgyn, neu at ferched a / neu enethod (adran 11(a) a (b) ac adran 212, paragraff 1).
  2. Barnodd y Goruchaf Lys yn yr achos For Women Scotland fod ‘rhyw’, ‘merch’ a ‘dyn’ yn y Ddeddf yn golygu rhyw biolegol, merch fiolegol a dyn biolegol. Mae’r dyfarniad yn defnyddio’r term ‘rhyw biolegol’ i ddisgrifio rhyw person ar eu genedigaeth. Mae cyfraith achosion gynharachFootnote 12 yn disgrifio dangosyddion rhyw biolegol. 
  3. Nid yw Tystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC) yn newid rhyw person i bwrpas y Ddeddf. Dylid darllen paragraffau 2.49 i 2.53 am fwy o wybodaeth am dystysgrifau GRC. Dylid darllen paragraffau 13.161 i 13.178 am fwy o wybodaeth am bryd a sut y gallai fod yn briodol gofyn am wybodaeth neu dystiolaeth o ryw person ar eu genedigaeth.
  4. Cymharydd i bwrpas dangos gwahaniaethu ar sail rhyw fydd person o’r rhyw arall. Nid yw rhyw yn cynnwys ailbennu rhywedd (paragraffau 2.49 i 2.53) na thueddiad rhywiol (paragraffau 2.92 i 2.96).
  5. Mae darpariaethau penodol yn berthnasol os yw merch yn cael ei thrin ar sail ei beichiogrwydd a mamolaeth, neu am ei bod yn bwydo ar y fron (adran 13, paragraff (6)(a) ac adran 13, paragraff 7). Dylid darllen paragraffau 4.54 i 4.73 am fwy o wybodaeth.

Tueddiad rhywiol

Beth y mae’r Ddeddf yn ei ddweud

  1. Mae tueddiad rhywiol yn nodwedd a warchodir (adran 12, paragraff 1). O dan y Ddeddf, mae hyn yn golygu tueddiad rhywiol person tuag at:
  • personau o’r rhyw-sengl (mae’r person yn ferch lesbiaidd neu’n ddyn hoyw)
  • personau o’r rhyw arall (mae’r person yn heterorywiol)
  • personau o’r naill ryw neu’r llall (mae’r person yn ddeurywiol)
  1. Mae tueddiad rhywiol yn ymwneud â sut y mae pobl yn teimlo, yn ogystal â’u gweithredoedd.
  2. Mae gwahaniaethu ar sail tueddiad rhywiol yn cynnwys gwahaniaethu oherwydd bod gan rywun dueddiad rhywiol penodol, yn ogystal â gwahaniaethu’n gysylltiedig â chyfleu’r tueddiad rhywiol hwnnw. Gall hyn gynnwys edrychiad rhywun, y llefydd y maen nhw’n ymweld â nhw neu’r bobl y maen nhw’n cysylltu efo nhw.
  3. Pan fydd y Ddeddf yn cyfeirio at y nodwedd a warchodir o dueddiad rhywiol (adran 12, paragraff 2), mae’n golygu’r canlynol:
  • mae cyfeiriad at berson gyda’r nodwedd a warchodir yma’n gyfeiriad at berson o dueddiad rhywiol penodol
  • mae cyfeiriad at bobl sy’n rhannu’r nodwedd a warchodir yn gyfeiriad at bobl o’r un tueddiad rhywiol
  1. Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd a warchodir wahanol a ddim yn gysylltiedig â thueddiad rhywiol, er eu bod yn aml wedi eu grwpio gyda’i gilydd (er enghraifft, o dan y byrfodd ‘pobl LHDTC+’).

Cyfyngiadau ar warchodaeth o dan y Ddeddf

  1. Mae’r Ddeddf yn cynnwys nifer o eithriadau i’r warchodaeth a roddir yn erbyn gwahaniaethu, aflonyddu a fictimeiddio wrth ddarparu gwasanaeth, ymarfer swyddogaeth gyhoeddus a chynnal gweithgareddau cymdeithasau. Daw’r rhain o dan rannau eraill o’r Cod hwn.

Lawrlwythiadau dogfen

Footnotes

  • Footnote 1

    Dylid darllen ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a Deddf Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (Corffori) (Yr Alban) 2024

  • Footnote 2

    Elliott v Cyngor Sir Dorset [2021] IRLR 880

  • Footnote 3

    Elliott; Ahmed v Metroline Travel Ltd [2011] 2 WLUK 278

  • Footnote 4

    All Answers Ltd v W [2021] EWCA Sifil 606

  • Footnote 5

    Aderemi v London and South East Railway Limited [2013] ICR 591 yn §14 ac Elliott yn §28

  • Footnote 6

    Elliott v Cyngor Sir Dorset [2021] IRLR 880

  • Footnote 7

    Elliott v Cyngor Sir Dorset [2021] IRLR 880

  • Footnote 8

    Mandla v Dowell Lee [1983] 2 AC 548

  • Footnote 9

    Chandhok v Tirkey [2015] ICR 527

  • Footnote 10

    Forstater v CGD Europe [2021] ICR 1 a Mackereth v DWP [2022] EAT 99

  • Footnote 11

    Mba v Maer a Bwrdeiswyr Bwrdeistref Merton Llundain [2013] EWCA Sifil 1562 ac Eweida, Chaplin, Ladele & McFarlane v Y Deyrnas Unedig (2013) ceisiadau rhif 48420/10, 59842/10, 51671/10 a 36516/1

  • Footnote 12

    Dylid darllen, er enghraifft, Bellinger v Bellinger [2003] UKHL 21 paragraff 5

Diweddariadau tudalennau